Monday, August 31, 2009

eglwys padarn sant, ysbyty'r chwarel (2/8/09)




Wrth gerdded allan o Gapel Coch, clywais gloch Eglwys Padarn Sant a mynd yno. Gofynodd yr offeiriad i mi wrth y drws blaen ar ôl y cymun, "Dach chi'n gwybod am Gymdeithas Madog?" Y Parchedig Bill Roberts gyfarfodais ar gwrs Cymraeg Madog yn Iowa'r llanedd wnaeth ymweld â'r eglwys yn ddiweddar, digwydd bod! Enghraifft arall o'r ffaith pa mor fach ydy byd y Cymry Cymraeg.

Roedd un lle arall wedi'r cwbl mod i eisiau ei weld yn Llanberis, sef Ysbyty'r Chwarel yn ymyl Llyn Padarn. Ymysg y pethau meddygol yn yr arddangosfa fach, gwelir offer i brofi llygaid (y llun hwn i fy ngŵr) a dodrefn T.Rowland Hughes. Dim ond ychydig o ymwelydd oedd yna brynhawn Sul, a ches i ofyn cwestiynau amrywiol i'r hogyn clên o Ddyffryn Nantlle oedd yn gwarchod yr arddangosfa.

Yna, es i gerdded ar hyd y llyn i'r gorllewin. Roedd y llwybr braidd yn garegog a chaled fel mod i'n penderfynu dychlwelyd ar ôl hanner ffordd. Mwynheuais y golygfeydd hyfryd beth bynnag.

Sunday, August 30, 2009

gwibdaith ar y bws (1/8/09)



Ar ôl gorffen llnau'r llety a bwyta brechdan Spar i ginio, ces i awydd sydyn mynd ar wibdaith ar fws Sherpa â phen agored argymellwyd gan Gwilym y Ganolfan Groeso. Dyma neidio i mewn i'r bws o flaen siop Joe Brown. I ffwrdd â fi i Ben y Pas.

Roedd yn ddigon cynnes yn y dref ond roedd yn oer ar ben y bws! O, roedd y golygfeydd yn ogoneddus serch hynny! Es i ar Fwlch Peris sawl tro'n barod ond roedd yn brofiad hollol wahanol i weld y mynyddoedd o fy nghwmpas i.

I ddiweddu'r diwrnod braf, cerddais dipyn yn y dref a gweld tyˆ Rowland Hughes. Roeddwn i'n osgoi darllen "o Law i Law' a dweud y gwir (^^) er mai un o'r bobl leol oedd o, ond rhaid i mi ei ddarllen i ddangos parch i Lanberis. Prynais gopi ail-law felly mewn stondin yn yr Eisteddfod am dair punt, ond stori arall ydy honno wrth gwrs.

Saturday, August 29, 2009

gwnewch bopeth yn gymraeg (1/8/09)



Llnau'r llety yn yr achos hwn. Wedi gweld bron popeth i'r twristiaid oeddwn i eisiau ei weld yn Llanberis a'r cyffiniau, dyma ofyn i Carol oes yna gyfle i mi helpu rhywun yn y dref yn gwneud pethau cyffredin, y gwaith tyˆ er enghraifft (yn Gymraeg wrth gwrs.) Wedi'r cwbl, yn y bobl roeddwn i'n ymddiddori mwy nag yn y golygfeydd er pa mor ryfeddol ydy'r olaf.

Dwedodd hi fyddwn i'n medru llnau'r llety gyda Eira, y ddynes fyddai'n gwneud y gwaith! Hwrê! Dyma gychwyn glanhau'r ystafelloedd molchi, hwfro ystafelloedd gwely gyda hi a chael sgyrsiau gwych tra oeddwn ni'n cael hoe fach. (Roedd y 'bath mousse' yn gweithio'n dda.)

Unwaith, cludais bentwr o'r dillad gwlâu a thaweli i'r siop olchi agos. Braf oeddwn i'n teimlo ymysg y twristiaid ar y stryd. Roddwn i'n teimlo fel taswn i'n perthyn i'r dref fach yn hytrach na dim ond cael blas ar Lanberis yn arwynebol fel dwrist.

Dw i ddim yn ymhyfrydu mewn gwneud y gwaith tyˆ fel arfer ond mae'n wych os ca i wneud o yn Gymraeg!

Friday, August 28, 2009

beddgelert (31/7/09)




Pentref bach twt gyda llu o dwristiaid ydy Beddgelert. Does yna ddim llawer i'w weld ond 'Bedd Gelert' a'i gerflun. Ond mae llwybrau cerdded braf a gwastad. Treuliais ryw awr yn mwynhau'r llwybrau ar hyd Nant Colwyn wedi cael map y pentref gan ddynes yn y ganolfan groeso (fy hoff le i gael sgwrs Gymraeg sydyn lle bynnag awn i.)

Yn ôl i Lanberis ar fws Sherpa yrrwyd gan Gymro Cymraeg siriol. Prynais salad blasus yn Hotshop a'i fwyta o flaen y teledu. Y rhaglen? Yr Eisteddfod! Y diwrnod cyntaf! Hwrê! Mae bwyd y siop yn ardderchog a rhesymol gyda llaw. Ces i 'fish burger' gorau ges i erioed yna.

Thursday, August 27, 2009

côr merched llanberis (30/7/09)


Es i i glywed côr merched Llanberis yn ymarfer yng Nghapel Coch ar y noson honno. Canon nhw nifer o emynau a chaneuon Cymraeg gan gynnws Bythwyrdd a 'I'll Keep a Welcome,' yr unig gân Saesneg. Roedden nhw'n ardderchog ac roedd eu canu mor nerthol er bod rhyw ddeg o'r aelodau i ffwrdd. Dydyn nhw ddim yn cystadlu yn yr Eisteddfod serch hynny. Dim ond er mwyn mwynhau canu a rhoi mwynhad i'r bobl eraill maen nhw'n canu. Felly maen nhw'n perfformio o bryd i'w gilydd.

Ces i sgwrs ddymunol gyda rhai ohonyn nhw ar ôl yr ymarfer. Argymellodd pawb i mi brynu 'Wellingtons' ar gyfer yr Eisteddfod!

Wednesday, August 26, 2009

Nia (30/7/09)




Person arall oeddwn i'n edrych ymlaen yn arw at ei chyfarfod oedd Nia, fy nhiwtor Cwrs Cymraeg Trwy'r Post. Dw i wedi bod yn gwneud dau gwrs ers blwyddyn a hanner. Mae Nia'n barod i helpu bob tro ac mae ei geiriau clên wedi bod yn fy nghalonogi i ers y dechrau. Roedd hi'n arbennig o wych cael gweld hi wyneb yn wyneb. Hefyd mae ei Chymraeg mor ddylanwadol fel bod fy ngoslef wedi cael ei heffeithio'n braf wrth siarad â hi!

Wedi fy nhywys i yn ei gwaith, Ysgol Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor yn fy nghyflwyno i'w chydweithwyr a dangos ei swyddfa, aeth Nia â fi adref a choginio cinio blasus. Aeth Sharron, un o'i ffrindiau gyda ni. Ces i amser bendigedig gyda nhw.

Ar ôl cinio, aeth Nia a fi i gerdded o gwmpas Bangor. Roedd hi'n ddiwrnod braf arall ac yn hyfryd gweld y golygfeydd gwych a'r brifysgol. Yna daeth hi â fi'n ôl i Lanberis yn ei char drwy Ddeiniolen. Safon ni am funudau ar ben y bryn i ryfeddu at olygfa odidog tua Llyn Padarn a Llanberis.

Tuesday, August 25, 2009

gwibdaith (29/7/09)



Ar ôl cael cawl 'sweet potato' a brechdanau blasus yn y ganolfan arddio fawr, aethon ni i ymweld â John a Llinos o Ganada, ffrienduau Linda ac Idris ger Caernarfon. Cawson ni amser dymunol yn sgwrsio dros win goch gwych. Roeddwn i wrth fy mod yn cael 'cawod Gymraeg' am oriau.

Ces i enw Cymraeg yn ôl ystyr fy enw Japaneg gan John - Purwen! Dw i'n hoff iawn ohono fo. Efallai dylwn i fy nglaw i'n Emma Purwen Reese!

Yna, ffwrdd â ni i Ynys Môn dros Bont Britania yn edmygu'r olygfa fendigedig tua Phont Menai a chael cip ar orsaf drên Llanfair PG. Yn ôl i Fesethda drwy Rachub, lle geni Idris wrth weld Chwarel Penrhyn ac aethon ni allan o'r car yn Nyffryn Ogwen. Am olyfga! Godidog, gogoneddus - dw i ddim yn gwybod yr ansoddair addas i'w ddisgrifio.

Troes Begw o'r diwedd, ac yn sydyn gwaeddodd:
"Dyna hi."
"Beth eto?"
"Y lôn bost."

Wrth ochr y creigiau serth, uwchben Nant Ffrancon, cawson ni weld y lôn bost wen lle aeth y Goets Fawr o Lundain i Gaergybi arni hi.

Monday, August 24, 2009

linda ac Idris (29/7/09)



Roedd yn rhyfedd a hyfryd dros ben gweld Linda ac Idris wyneb yn wyneb wedi ini gael sgyrsiau ar Skype'n rheolaidd dros ddwy flynedd. Roedden nhw yng Nghymru yr un wythnosau â fi a mynd â fi ar wibdaith yn y Gogledd yn eu Honda. Ces i ddiwrnod bendigedig gyda nhw (ac un sych hefyd!)

Aethon ni i Gae'r Gors, cartref Kate Roberts yn Rhosgydfan gyntaf. Roedd yr olygfa at y Menai'n braf. Medrwn i glywed Winni'n gofyn i Begw a Mair, "fuoch chi erioed yn Sir Fôn?"

Wedi gweld popeth yn y ty, roeddwn ni eisiau cael cip ar gae Russell Jones oedd gerllaw. Dyma ofyn i Bethan Parry, y rheolwraig a'r ddwy ddynes yno. A phwy oedd un o'r ddwy ond mam Russell! Ac un mor ifanc fel mod i'n meddwl mai ei wraig oedd hi! Roedd hi'n hynod o glên yn ein tywys ni o gwmpas y cae lle oedd cymaint o lysiau'n tyfy'n braf.

Sunday, August 23, 2009

corn pistol a chwip (28/7/09)


Rhaid sôn am y nofel hon rwan achos mai llyfr mor dymhorol oedd o i mi ei ddarllen oedd yn bwrw wythnos yn Llanberis.

Stori am Goets Fawr sy'n cludo pyst o Lundain i Gaergybi yn y 19 ganrif ydy hi ac mae'r stori yn cyrraedd ei huchafbwynt wrth y Goets yn mynd trwy Fetws-y-Coed a Dyffryn Ogwen.

Er bod y stori ei hun yn ffuglen, gallai'r pethau ddigwyddodd yn y stori fod wedi digwydd yn aml ar yr adeg honno - gyrrwr garw oedd yn feddw ond yn trin ei geffylau'n fedrus, gârd mewn cot goch yn chwythu ei gorn wrth i'r Goets gyrraedd trefi, pedwar ceffyl gyda Coets Mêl tu eu hôl nhw'n rhedeg fel gwynt mewn llawn edmygedd pobl y trefi, teithwyr tu mewn a thu allan... Roedd yna ddedf bod y pyst i fod i gyrraedd eu cyrchfan ar draul popeth arall. Tasai'r Goets wedi methu, byddai'r gârd gorfod marchogaeth gyda bag y pyst i'r gyrchfan. Ac tasai'r ceffylau wedi methu, byddai fo gorfod cerdded boed storm neu eira!

Diolch i'r nofel mor gyffrous, roeddwn i'n medru treulio'r prynhawn gwlyb yn fy llofft yn hynod o ddymunol.

Saturday, August 22, 2009

diwrnod gwlyb iawn iawn (28/7/09)



Roedd hi'n bwrw bron bob dydd yn Llanberis. Ond wnaeth y glaw ddim rhwystro i mi fynd allan neu fyddwn i'n gorfod aros yn fy llofft am yr wythnos gyfan. Felly i ffwrdd â fi i Gaernarfon ar y bws.

Y lle cyntaf oeddwn i eisiau ei weld oedd swyddfa Dafydd Hardy, asiant tai. Clywais fo'n siarad â Beti George ar Radio Cymru am ei fywyd ac am yr oriel yn ei swyddfa fo yng Nghaernarfon. Dim ond ychydig o luniau oedd yna am y tro, ac doedd y ddynes sy'n gyfrifol am yr oriel ddim yno gwaetha'r modd. Roeddwn i'n cerdded o gwmpas y dref ond aeth y glaw oer mor drwm fel mod i'n penderfynu dod yn ôl.

Beth ga i wneud yn y prynhawn mor wlyb? Dyma fynd i lyfrgell fach Llanberis. Roeddwn i eisiau gwybodaeth am sesiwn dawnsio gwerin beth bynnag. Gwnaeth Rhian, y llyfrgellydd glên yn fy helpu. Er bod yna ddim byd ar gael ar y pryd, ges i hyd i rywbeth gwych, sef nofel T.Llew sydd allan o brint bellach, "Corn, Pistol a Chwip." Hwrê!

Friday, August 21, 2009

cadi! (27/7/09)


Curadur yr amgueddfa lechi ydy Cadi Iolen. Y hi gynheuodd fflam o ddiddordeb yn Llanberis yndda i pan welais i hi ar y we. (Roedden ni'n cael gweld rhaglenni S4C ar y we yn y ddyddiau gynt.) Roedd hi'n sôn am yr arddangosfa yn ei Chymraeg mor ddeniadol, ac dechreuais i feddwl am fynd i Lanberis lle siaredir tafodiaith Cadi. Sgrifennais i ati hi sawl tro a chael ateb moesgar bob tro.

Tra oeddwn i yn siop yr amgueddfa, gofynais i wrth wraig y siop am Cadi, ac daeth hi i fy ngweld i! Mae hi'n glws a chlên ac mae ei Chymraeg mor hyfryd. Mae arna i ofn mod i ddim yn medru dweud llawer.

Wrth gwrs mod i wedi mwynhau golygfeydd gogoneddus, llwybrau cerdded gwych Llanberis heb sôn am gyfarfod y bobl leol glên, ond dechreuodd Cynllun Llanberis ^^ oherwydd Cadi.

Thursday, August 20, 2009

yr amgueddfa lechi (27/7/09)





Ces i gip ar ddiwydiant llechi Cymru. Es i ar wibdaith sydyn dywyswyd gan Peredr, un o'r seiri coed yna. (Roedd o'n siarad Saesneg oherwydd bod dau o'r grwp ddim yn siarad Cymraeg.) Gweles i o'r olwyn ddwr fwyaf ym Mhrydain i'r ffowndri ac efail y gof a ballu. Roedd yna arddangosiad hollti llechi hefyd. Gellir hollti llechfaen yn haenau mor hawdd. Cau Chwarel Dinorwig oedd thema'r arddangosfa. Dyma un o'r cerddi ar y wal:

Y corn fydd yn ddistaw a segur y gêr,
Ni chlywir y clocsan fyth eto'n Llanber - Twm Bethel

Wednesday, August 19, 2009

swyddfa'r post (27/7/09)



Roeddwn i'n meddwl mai'r Cymry oedd y gwesteion newydd yn y llety wrth eu clywed nhw drwy drws fy llofft. "Bore da!" meddwn i'n awchus wrthyn nhw felly bore wedyn yn yr ystafell fwyta. - Saib - Saeson oedden nhw wedi'r cwbl!

Mae gan Lanberis swyddfa'r post twt. Awn i yno i bostio cardiau post at y teulu a ffrindiau sawl tro. Maen nhw'n gwerthu pethau rhyfedd hefyd, gwair a naddion pren i anifeiliad bach! Tynnes i lun ohonyn nhw tra oedd plentyn bach yn syllu arna i'n methu deall pam ar y ddaear oeddwn i'n tynnu llun o bethau mor gyffredin!

Ac dyma Malcom, dyn post clên Llanberis wnaeth gludo fy nghardiau post.

Tuesday, August 18, 2009

castell dolbadarn ac oriel (26/7/09)




Dim ond y twr sydd ar ôl lle oedd Castell Dolbadarn. Es i i fynny'r grisiau troellog, serth a rhyfeddu mai Llyweryn Fawr oedd yn byw yma ar un adeg. Cerddes i ar lwybr drwy goedwig yn ôl i'r dref wedyn. Roedd popeth yn anhygoel o wyrdd.

Gweles i arwydd oriel gan artistiaidd lleol a mynd i mewn. Roedd y rhan fwyaf o'r lluniau'n adlewyrchu golygfeydd yr Eryri wrth reswm. Roedd yna un artist oedd yn arbennig o dda, y gorau yn fy nyb i. Roeddwn i'n gwirioni ar ei lun o Gastell Dolbadarn a'r mynyddoedd mewn hanner tywyllwch. Ond roedd yn rhy fawr a drwm i ddod â fo adref (a thipyn yn rhy ddrud i mi a dweud y gwir.) Ces i sgwrs sydyn gyda ddyn oedd yn gwarchod yr oriel. Fo oedd fy hoff artist, Arnold Jones, digwydd bod! Dyma brynu llun bach digon ysgafn o'r castell gynno fo a chael ei lofnod ar y gefn. Roedd o'n rhyfeddu byddai ei lun yn mynd i Oklahoma!

Monday, August 17, 2009

mynd i gapel cymraeg (26/7/09)















Mae brecwast Marteg yn wych. Bwddwn i'n edrych ymlaen ato'r uwd perffaith a ballu bob bore. Daeth Carol i fy llofft bore Sul ar ôl iddi orffen y gwaith yn y gegin. Roedd hi mor ffeind a ches i groeso cynnes arall a sgwrs ddymunol. Byddwn i'n siarad â hi'n aml tra oeddwn i'n aros yno.

Roeddwn i eisiau mynd i'r capel Cymraeg dair gwaith fel y Cymry flynyddoedd yn ôl. Es i i Gapel Coch am wasanaeth am ddeg ac am 5:30. (Roedd yn bwrw'n drwm yn y bore. Diolch i Carol am y llift.) Roedd yna ryw ddeg o bobl ac y Parch Iorwerth Jones Owen o Gaernarfon oedd yn pregethu.

Cerddes i at Gapel Jerwsalem am wasanaeth dau o'r gloch ond doedd neb yno. Penderfynes i fynd i weld Castell Dolbadarn oedd ar y ffordd.

Sunday, August 16, 2009

swper (25/7/09)



Es i i Pete's Eat am swper y noson honno. Roedd yna hogyn yn ei arddegau tu ôl y cownter oedd yn cymryd archebion. Doedd o ddim yn edrych fel Cymro Cymraeg yn fy nhyb i ond rhoes i fy archeb yn Gymraeg rhag ofn. Ces i fy synnu felly yn clywed o'n ateb yn Gymraeg. Gwnaeth y profiad i mi fod yn fwy penderfynol o gychwyn pob sgwrs yn Gymraeg, hynny ydy, sgwrs gyda'r bobl leol.

Tra oeddwn i'n bwyta caws ffacbys a bara menyn, daeth gwraig ata i a dechrau siarad Cymraeg. Dysgwraig oedd hi, ac welodd hi fy nghrys T "Siaradwch Gymraeg â fi!"

Ar ôl swper, es i'n nôl i fy llofft ac ymlacio o flaen y teledu. S4C! Hwrê! Byddwn i'n cael frechdannau, iogwrt, ffrwythau a ballu o Siop Spar i swper yn aml wrth edrych ar S4C o hynny ymlaen.

Saturday, August 15, 2009

croeso cynnes (25/7/09)






Siop y Mêl - dyna'r lle es i iddo am help. Roeddwn i'n cysylltu â nhw cyn dod i Lanberis er mod i ddim yn nabod y bobl yn bersonol. Am groeso mawr a the ardderchog (yn annisgwyl, a dweud y gwir) ges i gan Deryl ac Eirlys yno! Nhw oedd y bobl gyntaf siarades i Gymraeg â nhw ar ôl cyrraedd Cymru. 

Ces i'r gyfeiriad i Farteg. Llety gwych sy'n cael ei redeg gan gwbl Cymraeg ydy o. Ar ôl cael croeso cynnes arall gan Martin a dadbacio fy nghês yn fy llofft cyfforddus, i ffwrdd â fi i grwydro o gwmpas y dref.

Penderfynes i alw am Gwilym yn y Ganolfan Groeso gyntaf. Fo a roiodd y wybodaeth am lety Cymraeg yn Llanberis i mi'r llynedd. Roedd o'n fy nghofio i a ches i groeso cynnes gynno fo a John hefyd. Byddwn i'n galw yn y Ganolfan a Siop y Mêl yn aml am sgwrs sydyn tra oeddwn i yn y dref.

Friday, August 14, 2009

o tulsa i lanberis


Cyrhaeddes i faes awyr Manceinion o Tulsa am 8.30 yn y bore ar 25 Gorffenaf. Er bod yr awyren yn hwyr ac fedrwn i ddim cysgu o gwbl, roeddwn i'n llawn cyffro a disgwyliad. Mae'r maes awyr yma'n llai a hynod o hwylus na Heathrow. Es i'n syth i'r orsaf drên i fynd i Fangor. 

Roedd y trên o Gaer i Gaergybi yn llawn dop ac dyma boeni byddai pawb yn mynd i Lanberis efo fi! Ond dim ond ddwy ferch a aeth ar y bws wedi'r cwbl. Ar ôl camu allan o'r orsaf a gweld y dref gyfarwydd, fedwn i ddim peidio â gwenu a meddwl, "dyma fi, Gymru, unwaith eto!"

Roedd hi'n ddiwrnod arbennig o braf ac roeddwn i'n medru gweld y golygfeydd bendigedig oddi ar y bws. 

Llanberis! O'r diwedd!

Doedd gen i ddim syniad bod yna dri syfle bws yn Llanberis. Disgynnes i wrth yr un pellaf o fy llety digwydd bod ac roeddwn i'n gorfod cerdded yn ôl tuag at ganol y dref. Ond lle yn union mae'r gwely a frecwast?

Tuesday, August 11, 2009

yn ôl o gymru

Helo bawb! Diolch i chi a wnaeth roi dymuniadau gorau i mi wrth i mi gychwyn fy daith i Gymru. Dw i'n ôl yn byw ac yn iach wedi cael amser bendigedig. Hoffwn i ddechrau adrodd fy hanes cyn gynted ag y medra i. Mae'n braf cael sgrifennu fy mlog unwaith eto.