Saturday, January 23, 2010

ni fedrwn ddangos

Do, codais am bump ond methu gweld y rhaglen. Dyma a welais ar y sgrin: Ni fedrwn ddangos Cymry Rhyfel Cartref America. Tybiwn mai ond rhai rhaglenni byw sydd ar gael wedi'r cwbl.

6 comments:

Linda said...

Bore da Junko ! Newydd ddarllen dy bôst blaenorol ynglŷn a rhaglen Jerry Hunter. Oes gen ti VHS fedri di ddefnyddio ? Mae gen i neu fy ffrindiau y gyfres ar dâpiau VHS. Mi wnâf chwilio /gwneud ymholiadau heddiw. Coresa dy fysedd fod nhw dal yma :)

Emma Reese said...

Oes. Basai'n wych taswn i'n cael gwylio'r rhaglen. Mae'r teulu'n gwylio cyfres arall am y rhyfel tu ôl i mi rŵan digwydd bod (eto!) Dwedes i wrthyn nhw fod 'na gynifer o Gymry a wnaeth frwydro yn y rhyfel.

neil wyn said...

Am siom! dwi ddim yn deall pam mae angen rheolau mor gymhleth ynglŷn âg hawlfreintiau ac ati. Mae'r un peth yn effeithio pod-lediadau sioeau cerddorol sydd heb gerddoriaeth!!

Linda said...

Junko , dwi 'di chwilio yn y llefydd mwyaf tebygol, ond wedi methu'n lân cael hyd i'r tapiau hyd yma. Fe wnâf ofyn i fy ffrindiau yn Vancouver os ydy'r tapiau ganddynt hwy.

Emma Reese said...

Na finna, Neil. Dylen nhw wybod bod rhaglenni S4C yn help mawr i ddysgwyr.

Diolch i ti Linda ond paid trio'n rhy galed!

Gwybedyn said...

Mae'r gyfres i gyd ar gael ar DVD. Rhaid bod rhai copiau yn rhywle.

Gwelaf, er enghraiftt, fod gwefan gwales.com yn ei rhestru: yma.