Monday, July 5, 2010

cymru 2010 - taith annisgwyl

Unwaith roeddwn i'n gwybod yn glir beth i'w wneud, roeddwn i'n esmwyth. Mwynheais i daith drwy Ddyffryn Clwyd am y tro cyntaf yn annisgwyl: Rhuthun, Dinbych, Llanelwy a Rhyl yn cael cipion ar
adeilad Popeth yn Gymraeg, yr eglwys gadeiriol a Chastell Rhuddlan.

Ces i gyfle i fynd drwy'r twnnel i gyrraedd Bangor unwaith yn rhagor hefyd. Pan es i'r safle bws, fodd bynnag, roedd y bws olaf i Lanberis a hyd yn oed i Gaernarfon wedi hen fynd. Doedd gen i ddim dewis ond dal tacsi. Fel mae'n digwydd, un clĂȘn a diddorol oedd y gyrrwr oedd yn dod o Bortwgal. Cawson ni sgwrs ddifyr nes i ni gyrraedd Llanberis.

Er bod popeth ddim yn mynd fel y disgwyl, ces i ddiwrnod hyfryd wedi'r cwbl yn cyfarfod llawer o bobl glĂȘn a gweld golygfeydd newydd ar yr un pryd. (Ond anghofiais i dynnu lluniau o'r bws!)


3 comments:

neil wyn said...

ardal hyfryd yw dyffryn clwyd, magwyd fy nhad ger rhuthun. mae'r cefn gwlad yn fwynach nag eryri wrth gwrs ond mae bryniau'r clwyd yn cefndir ysblenydd i'r dyffryn.

Emma Reese said...

Dw i'n falch iawn o'r gyfle i weld Dyffryn Clwyd.

Linda said...

Cytuno'n llwyr Neil .
Yn falch iawn dy fod ti wedi gweld Dyffryn Clwyd Junko , er mai 'damwain' fechan oedd hynny.