Thursday, July 8, 2010

skyhawk





Cafodd fy merched gyfle arbennig o hedfan mewn awyren fach. Ffrind iddyn nhw oedd y peilot hyd yn oed.

Aethon ni i'r maes awyr bach lleol yn y bore. Yna, mae Tom T. sy'n hyfforddi hedfan yn cadw ei awyren, Skyhawk. Wedi rhoi gwers sydyn i'r tair merch, eisteddodd o wrth y peilot i roi cymorth iddi. I ffwrdd â nhw i'r awyr las. Hedfanodd yr awyren am ryw hanner awr cyn glanio'n ddiogel. Roedd y merched yn gyffro i gyd wedi dod allan.

Dwedodd Tom fod o wedi clywed un gair drosodd a throsodd gynnyn nhw wrth iddyn nhw edrych i lawr o'r awyren - "cute!"

2 comments:

Corndolly said...

Wow ! Profiad da iawn. Ydyn nhw eisiau bod yn beilotiaid? Dw i'n hoffi dy lun o'r cymylau.

Emma Reese said...

Nac ydyn, dw i ddim yn meddwl. Cawson nhw hwyl beth bynnag.

Welais i'r cymylau rhyfedd pan es i am dro ddyddiau'n ôl; brysiais i adref i nôl fy nghamera.