Monday, July 19, 2010

skype


Teclyn hwylus ydy Skype fel mae llawer o bobl yn gwybod. Tan yn ddiweddar doedd y camera ddim yn gweithio'n iawn oherwydd arafwch y gwasanaeth. Ces i fy synnu felly pan droais i'r camera ymlaen un diwrnod pan oeddwn i ar Skype a gweld llun clir. Ymyrrodd o ddim ar ansawdd y sain chwaith. Mae'n ymddangos bod ATT wedi gwella eu gwasanaeth.

Cawson ni sgwrs gyda'r teulu yn Japan neithiwr. Roedd yn braf cael eu gweld nhw yn ogystal â siarad â nhw. Dyma lun dynnodd y gŵr o'n plant yn mwynhau sgwrs fideo.

4 comments:

Linda said...

Wel dyna hyfryd ! Wedi mwynhau ein sgwrs fideo ninnau ddydd Gwener diwethaf hefyd :)

Emma Reese said...

A finna! Mae taclau diweddaraf yn anhygoel.

neil wyn said...

dwi newydd lawrlwytho skype ar liniadur fy merch er mwyn iddi siarad a ffrind sy newydd symud i awstralia. rhaid i mi ei roi o ar fy ngliniadur i hefyd er mwyn ymarfer fy nghymraeg!

Emma Reese said...

Mae fy mab yn siarad efo ei ffrind yn Korea ar Skype hefyd. Dyfais hwylus ydy o'n bendant.