Wednesday, November 3, 2010

neges i obama

Gyrrodd pobl UDA neges glir i Arlywydd Obama bod nhw'n anhapus gydag ef a'r llywodraeth ffederal. Gobeithio byddan nhw'n gwrando arni. Roedd y bobl a etholodd e ddwy flynedd yn ôl eisiau newid, ond newid da.






3 comments:

neil wyn said...

Dwi ddim yn esgus deall cyfundrefn llywodraeth yr UDA (na chyfundrefn yr DU a dweud y gwir!) ond gobeithio caiff Obama'r siawns i gyflawni rhai o'r pethau roedd pobl yn disgwyl iddo wneud. Mae 'na ymadroddiad Saesneg a glywais i rywle sy'n dweud rhywbeth fel: 'Pa blaid bynnag sy'n ennill yr etholiad, gei di'r llywodraeth'. Mae'n eitha sinicaidd falle, ond mae 'na fwy na gronyn o wirionedd ynddo!

Mae'r Plaid Lafur ym Mhrydain yn arwain y polau piniwn erbyn hyn, llai na chech mis ar ól cael ei trechu!

Emma Reese said...

Dydy'r bobl ddim yn licio beth mae o wedi ei wneud ac yn trio ei wneud. Dyna pam roedd o'n cael y ffasiwn ganlyniad. Dylai fo gyflawni beth mae'r bobl isio, dim beth mae o isio iddyn nhw ei gael.

neil wyn said...

Yn anffodus yn y DU na chawn ni gyfle i ddweud ein dweud am y clymblaid (lletchwith) presennol nes bod pum mlynedd wedi mynd heibio! Felly caiff y llywodraeth gwneud yr hyn maen nhw isio heb poeni'n ormod am farn y bobl.. am ychydig o flynyddoedd i ddod. Un o'r pethau cyntaf iddyn nhw wneud oedd deddfu dros 'fixed term parliament', sef 5 mlynedd!!

Mi fydd y blynyddoedd nesa yn ddiddorol iawn yng Nghymru fach, gyda llywodraeth Llafur/Plaid yn y Cynulliad yn trio cyflawni addewidion eu maniffesto nhw heb gefnogaeth llywodraeth San Steffan. Dani wedi gweld yn barod y triniaeth bod S4C wedi cael gan San Steffan, yn camddihongli ystadegau gwilio er mwyn cyfiawnhau toriadau enbyd. Gawn ni weld be digwyddith!!