Thursday, April 17, 2008

blodau



Er gwaetha'r newid tymheredd eithafol yn Oklahoma, mae 'na flodau del ym mhob man. Dw i'n falch o weld blodau afal ein cymdogion yn enwedig achos byddan nhw'n dwyn afalau blasus yn yr hydref. Mi fyddai'n cymdogion ni'n gadael i bawb gasglu eu hafalau, ac mi fyddwn ni'n mwynhau'r ffrwyth ffres bob blwyddyn.

lluniau: blodau afal, ein "azalea" ni

4 comments:

Corndolly said...

Does 'na ddim golwg eto o flodau ar ein coed afalau, neu ar ein 'azaleas' ni chwaith. Ond roedd rhai o ffyrdd yma wedi cael eu cau oherwydd yr eira trwm bore ddoe !!

asuka said...

rwy'n dwlu ar asaleas ac mae d'un di'n bert iawn. rwy'n cofio bod gan fy mam-gu rai yn ei gardd yn sydney, ond do'n nhw byth mor iach i'r golwg a hwn'na er bod mam-gu yn arddwraig wych. falle nad yw hinsawdd sydney yn ddigon oeraidd iddyn nhw? (drueni os felly - leiciwn i fynd 'nôl i fyw yn awstralia rywbryd yn y dyfodol a rhyw leiciwn i dyfu asaleas!)

Emma Reese said...

Eira! Yng nghanol mis Ebrill!

Dw i na'r gwr ddim yn gwneud dim byd yn yr ardd, felly rhaid bod y hinsawdd ma'n addas i azaleas.

Linda said...

Blodau hynod iawn emma. Fe fuais i allan yn tynu lluniau echdoe cyn i'r gwyntoedd gyrraedd.
Wedi cael eira yma ddoe [ dydd Sadwrn].