Wednesday, April 23, 2008

cacwn

Am ryw resm neu gilydd mae cacwn wrth eu bodd nythu wrth ddrws blaen ein ty ni. Mi nes i sylwi cacynen wrthi'n adeiladu ei nyth yr wythnos ma. Gas gen i wneud hyn ond roedd rhaid i mi chwistrellu hi a'i nyth gynnau bach. Druan ohoni. Mi fydda i'n teimlo'n ofnadwy bob tro yn enwedig ar ôl darllen stori fer gan Corndolly am gacwn druan a'i thynged.

3 comments:

Linda said...

Helo Emma!
Mae gennym ni greaduriaid sydd yn bysian wrth goeden sydd bob ochr i'n drws ffrynt ni .Ddim yn niwsans eto....

Corndolly said...

Dw i'n gwybod yn union am beth wyt ti'n meddwl. Dw i wedi gweld sawl cacynen mawr yn yr ardd yn barod. Dw i'n siŵr ein bod nhw'n edrych am le delfrydol i nythi. Ond fel ti, dw i'n eu casau nhw os ydyn nhw yn rhy agos at y tŷ. Siarada â thi heno

Emma Reese said...

Mi fasai'n dda tasen nhw'n nythu rywle yng nghynol coed.