Thursday, April 3, 2008

dynes o japan

Mi nes i gyfarfod hen ddynes o Japan heddiw. Mae 'na 150 o fyfyrwyr Japaneaidd yn y brifysgol ond dim ond un ddynes arall dw i'n ei nabod yn y dre ma.

Mae hi'n byw fan ma ers blwyddyn ac roedd hi isio help efo'i phasbort. Mi naeth hi glywed amdana i oddi wrth rywun sy'n fy nabod i. Mi es i i'w thyˆhi achos bod hi'n cael trafferth cerddded. Roedd hi mor hapus fy nghyfarfod i a siarad Japaneg am y tro cynta ers meitin. Mi gaethon ni a'i ffrind sy'n ei helpu sgwrs dymunol am sbel. Dw i'n bwriadu ymweld â hi o dro i dro.

3 comments:

asuka said...

pam mae 'na gymaint o fyfyrwyr o japan yn y brifysgol yna? oes ganddyn nhw ryw raglen arbennig?
(gwnes i joio'r fideo gyda llaw.)

Emma Reese said...

Dim rhaglen arbennig ond mae'r brifysgol yn boblogaidd ymysg myfyrwyr yn Japan achos bod y ffi yn rhatach na'r lleill ac bod y dre fach ma'n fwy ddiogel na'r trefi mawr eraill.

Mae 'na rai o Loegr a'r Alban hefyd, ond neb o Gymru. Ella Asuka, nei di annog rhai yn y brifysgol na i ddwad yma? : )

O, ti welodd y fideo! Roedd 'na un person ym Mhrydain ar fap Youtube ac roeddwn ni isio gwybod pwy. Diolch i ti.

asuka said...

mae'n ddiddorol, dysgu'r gwahanol resymau bydd pobl yn dewis colegau. ro'n ni'n arfer byw yn baltimore ar bwys prifysgol johns hopkins - sy'n wych o goleg wrth gwrs, ond roedd y ddinas mor beryglus nes i lawer o bobl benderfynu mynd i'r coleg rywle arall jest o achos hynny, rwy'n credu.
rown i'n falch iti roi'r fideo ar youtube. down i'm yn gallu gwneud i'r fersiwn bach weithio'n iawn. diolch! sa' i'n gwybod dim am fiwsig, ond rwy'n dwlu ar y dull 'na o ganu gyda ffliwtiau a drymau - mae'n swnio'n wladaidd iawn, fel rhywbeth gallet ti ei ganu wrth weithio tu fas.