Thursday, April 24, 2008

galwad skype

Syndod mawr. Dim ond 2.3 sent y munud i alw Japan ar ffôn Skype. Sgan fy mam ddim cyfrifiadur felly mi naethon ni agor cyfrif Skype. Mi siaradon ni â hi am hanner awr a chostiodd 80 sent! Roedd y sain yn ardderchog ac mi fedren ni i gyd siarad â hi drwy'r meicroffon. Ei phenblwydd hi mae hi heddiw. Mi naethon ni ganu "Happy Birthday" iddi hi ac roedd hi mor hapus.

3 comments:

Tom Parsons said...

Mae hynny'n anhygoel! Roedd yn neis i siarad efo dy fam di mor rhad, dw i'n siwr.

Emma Reese said...

Oedd wir. Roedd hi'n costio ryw $20 pan siarades i â hi o'r blaen.

Linda said...

Da iawn ! Fe fydd yn handi iawn i chi. Weithiau mi fyddaf yn ffonio fy chwaer yng Nghymru [ o skype i ffôn ty], ac fe fydd yn costio tua 60cents am hanner awr, sydd yn fargen :)