Tuesday, April 8, 2008

tiwtoriaid cwrs cymraeg madog

Mi nes i glywed newyddion o'r diwedd am rai o'r tiwtoriaid bydd yn dysgu cwrs Cymraeg Madog yn Iowa. Mae'r ddau ohonyn nhw yn dwad o ogledd-orllewin Cymru yn wreiddiol! Maen nhw'n byw yn Toronto, Canada ers 2004. Y Parch Deiane Evans a'i wraig Annette yn Eglwys Gymraeg Dewi Sant ydyn nhw. Gobeithio'n wir ca i fy nysgu gan un ohonyn nhw.

4 comments:

asuka said...

bydd rhaid iti rannu popeth am dy brofiadau! sa' i 'di bod ar y cwrs 'ma, ond mae ffrind da 'da fi fu arno rai blynyddoedd yn ôl - roedd e'n dda iawn, meddai hi.

Emma Reese said...

Na i siwr! Mi na i dynnu lluniau, gadw dyddiadur a sgwennu ar ôl dwad yn ôl.

Linda said...

Da iawn . Mi ddaw dydd y cwrs yn fuan rwan gan dy fod yn edrych ymlaen gymaint amdano.
Finna hefyd yn edrych ymlaen i glywed , ac i ddarllen dy hanes.

Emma Reese said...

Diolch!