Monday, April 21, 2008

tom jones a hen wlad (dolen yma)

Canwr proffesiynol ydi o wedi'r cwbl. Ac achlysur mor arbennig oedd o hefyd. Mi fedrai fo wedi dysgu'n hawdd tasai fo wedi dysgu'n ddifrifol. Hyd yn oed dw i'n gwybod y geiriau i gyd.

Wrth gwrs bod neb ond y Cymry Cymraeg (a dysgwyr) wedi sylwi hyn. Roedd hi'n anhygoel ac yn fendigedig clywed Hen Wlad yn Las Vegas beth bynnag. Llongyfarchiadau mawr i Joe Calzaghe!

2 comments:

asuka said...

diolch am y dolenni ar gyfer y ddawns a'r gân. gwnes i joio'r ddawns yn fawr. ond, fel y dywedaist ti, ambell i air doji yn y gân!

Emma Reese said...

Diolch i ti am weld y fideo. Mae'r gwr yn hoffi gwybod faint o bobl wedi gweld hi bob dydd. Ac roedd o wrth ei fodd gweld dot ar Brydain.