Wednesday, April 30, 2008

tymor alergedd gwanwyn


Mae o'n mynd o nerth i nerth. Mae 'na nifer fawr o dderw yn yr ardal ma gan gynnwys ein gardd ni. Ac mae eu blodau wedi bod yn taflu ymaith eu peilliau ym mhob man. Mae popeth yn wyrdd o'u herwydd. Er bod hi'n braf, fedrai ddim mynd am dro nes i'r tymor wedi darfod. Dw i'n dal i gerdded yn y ty.

llun: blodau derwen wedi'u syrthio ar ein "driveway" ni

6 comments:

asuka said...

mae'n dibynnu'n llwyr ar pa blanhigion sydd o'th gwmpas di, on'd yw hi? chelwn i byth broblemau gydag alergeddau yn awtralia, ond ers inni symud i america i fyw rwy'n dioddef am fis o leia' bob gwanwyn! fel yn dy achos di, y coed sy'n gyfrifol ar wn i.

Emma Reese said...

Sut wyt ti yng ogledd Cymru?

asuka said...

dim problemau o gwbwl - er bod 'na ddigon o flodau o gwmpas erbyn hyn. dylet ti a'r teulu ddianc rhag yr alergeddau drwy symud fan hyn!

Emma Reese said...

Mi faswn i'n mynd yn syth, tasai'r gwr yn cael swydd yno!

asuka said...

ond 'sai fe'n gallu cael swydd yng nghymru, ble byddwch chi'n dewis byw? yn y gogledd, rwy'n gwybod! ond ble yn union? rwy'n siwr fod ti 'di meddwl amdano! ^^

Emma Reese said...

Do wir! Wedi siarad â'r gwr droeon dw i. Mi faswn i' wrth fy modd yn byw rhywle yn y Gogledd ger y môr.