Thursday, July 24, 2008

cwrs cymraeg yn iowa, diwrnod 3 (15/7)



Bwyd oedd un o'r pethau roedd pawb yn edrych ymlaen ato bob dydd. Mi gaethon ni fwyta yn ffreutur y brifysgol tairgwaith y dydd. Roedd 'na ddigon o ddewis i mi fwyta cyn iached â phosib. Mi gaeth Chris Reynolds o Abertawe "corndog" am y tro cynta erioed!

Roedd cannoedd o chwaraewyr pêl-fasged yn aros yn y llety hefyd ac unwaith rôn i'n hwyr i gyrraedd y ffreutur am ginio. Gwae fi, doedd 'na ddim bwyd ar ôl bron!

Mi naethon ni wrando ar CD arall, araith gan Ddirprwy Archdderwydd yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1982. Soniodd Geraint am hanes Cilmeri. Er mod i'n gyfarwydd â'r digwyddiad, roedd yn braf ei glywed eto yn Gymraeg. 

lluniau : tostydd enfawr
               Chris Reynolds (un o'r tiwtoriaid)

7 comments:

asuka said...

rwyt ti'n f'atgoffa i am yn y ffreutur yn llanbedr-pont-steffan pan own i'n gwneud cyrsiau cymraeg yna - ond sa' i'n cofio llawer o ddewisiadau iachus yn fan'na...

Emma Reese said...

Roedd 'na ddigon o fwyd afiach wrth gwrs. Mi nes i geisio bod yn greadigol. e.e. Mi roies i beli cig a chyw iâr wedi'i rostio ar salad yn lle pasta. (Doedd dim angen defnyddio "dressing", wyddost ti.) Roedd 'na ffrwythau a llysiau ar gael bob tro.

Ond roedd y bwyd yn llawer gwell yn ffreutur y brifysgol Bangor a dweud y gwir.

Emma Reese said...

ffreutur prifysgol Bangor

Corndolly said...

Roedd dy brofiad yn ddiddorol iawn! Dw i'n edrych ymlaen at glywed mwy. Heddiw oedd y siawns cyntaf i mi ddarllen dy flog am gwpl o ddyddiau, ond roedd yr ysgol yn ymddangos yn wych.

Emma Reese said...

Oedd wir oni bai am un neu ddau beth. Mi na i sgwennu amdanyn nhw cyn gorffen adrodd y hanes.

Peggi Rodgers said...

Emma, oeddech chi'n siarad yn Gymraeg trwy'r dydd a nos? Oedd y cwrs dwys neu oedd pobol yn 'slip' yn ôl mewn Saesneg pan dim yn y dosbarth? Dw i'n ffeindio bod e'n anodd iawn iawn i siarad yn Gymraeg i gyfnodau estynedig. Ar ôl am ddwy awr, dw i wedi blino'n lân.

Emma Reese said...

Un o fy amcanion i fynd i'r cwrs oedd ymarfer siarad Cymraeg achos bod gen i ddim digon o gyfleoedd bob dydd. Felly rôn i'n fwy na hapus siarad Cymraeg cyhyd â bod y bobl eraill yn fodlon gwneud yr un peth.

Roedd yn dibynnu, wrth gwrs. Roedd y bobl yn lefel 7 yn awyddus siarad Cymraeg trwy'r amser, ond roedd y lleill yn tueddi i siarad Saesneg cyn gynted â bod nhw'n camu allan o'r dosbarthiadau.