Mi naeth Geraint ofyn i'r dosbarth gyflwyno taleithiau maen nhw'n byw ynddyn nhw. Reodd gan bawb lawer i'w ddweud ond does dim byd yn Oklahoma ar wahân i dornados. Mi ges i syniad pan ffonies i'r gwr. Mae gan Oklahoma peth gorau yn y byd sef gwasanaeth optometreg. Mae cyfraith Oklahoma yn caniatau ei doctoriaid optometreg gwneud llawer mwy na'r lleill gan gynnwys llawtriniaeth laser. Rôn i braidd yn nerfus ond aeth popeth yn iawn. (Mi nes i orffen cyn amser cinio o leia!)
Mi es i i wahanol weithdai bob p'nawn. Fy ffefryn oedd un dysgwyd gan Marta Diaz o Indianapolis. Dysgon ni "Cadair Tregaron" gan J.J.Williams. Roedd tafodiaith Sir Morgannwg yn eitha anodd heb sôn am y ffurf lenyddol, ond mi nes i fwynhau'r wers.
Noson ffim oedd hi. Solomon a Gaenor oedd y dewis. Dôn i ddim yn hoffi'r ffim o gwbl. Mae cymeriad Solomon yn ofnadwy. Na i byth isio ei gweld hi eto.
lluniau: Sarah wrthi'n cyflwyno California (mae ei llygaid ar gau eto!)
Marta Diaz
6 comments:
ife rhywbeth arbennig y diwrnod hwnnw oedd y "gweithdai" 'ma neu rywbeth a wnelech chi bob dydd?
parthed solomon a gaenor, rwy'n cytuno â ti. ac mae'r stori mor wirion hefyd - sôn am dros ben llestri! (wnes ti joio'r olygfa pryd mae solomon yn marw yn yr un gwely lle mae gaenor wrthi'n cael babi?) sa' i'n deall ffordd y cafodd y ffilm ei gwneud.
Dwi'n gweld fod 'na amrwyiaeth mawr o weithgareddau wedi cymeryd lle yn ystod y crws. Da iawn!
Gobeithio y cei di weld well ffilm y tro nesaf !
Ay Emma - ma gan Oklahoma lot fwy na thornados; bydd rhaid iti ganu'r gan ma :-)
Flowers on the prairie where the June bugs zoom,
Plen'y of air and plen'y of room,
Plen'y of room to swing a rope!
Plen'y of heart and plen'y of hope!
Oklahoma, where the wind comes sweepin' down the plain,
And the wavin' wheat can sure smell sweet
When the wind comes right behind the rain.
Oklahoma, ev'ry night my honey lamb and I
Sit alone and talk and watch a hawk makin' lazy circles in the sky.
We know we belong to the land
And the land we belong to is grand!
And when we say - Yeeow! A-yip-i-o-ee ay!
We're only sayin' You're doin' fine, Oklahoma! Oklahoma - O.K."
Dw i'n dallt pam nest ti ofyn y cwestiwn ma, Asuka. Mi ddylwn i fod wedi dweud, "Mi es i i wahanol weithdai bob p'nawn" yn lle "yn y p'nawn." Roedd 'na weithdai bob dydd.
Fwynheues i mo'r ffilm o gwbl hyd yn oed y golygfeidd hyfryd. Waeth i mi wilio ffilm gan Fwrdd Croeso Cymru.
O, diolch am y gân, eh... Cer i Grafu. (Sgen i ddim dewis ond defnyddio enw dy flog di.)
Post a Comment