Mae gan y gwr ffrind sy'n athro optometreg yn Japan. Mi nes i glywed heddiw fod o wedi bod yng Nghaerdydd o'r blaen yn ymweld ag Adran Optometreg ym Mhrifysgol Caerdydd (yr unig adran optometreg yng Nghymru.) Mi gaeth o sioc clywed y bobl na'n siarad iaith arall a gweld arwyddion dwyieithog!
Gyda llaw oes unrhywun yn gwybod ydy Prifysgol Caerdydd isio athro optometreg arall?
4 comments:
rhyfedd genny' glywed y gwnelai caerdydd y tro iti! oni fyddai'n well gen ti 'sai fe'n cael swydd rywle mwy... gogleddol?
Wel, dim ond yng Nghaerdydd mae adran optometreg yng Nghymru. Mae 'na un yn Manceinion yn y gogledd ond dw i ddim yn ffan o Life on Mars.
Ar ôl i mi ddarllen dy flog, es i i'r Wefan Prifysgol Gaerdydd. Roedd gen i syndod mawr faint o swyddi sydd ar gael yno ar hyn o bryd, ond dim byd i'w wneud efo Optometreg. Pam ydyn nhw'n chwilio am gymaint o bobl ar yr adeg pan mae llawer o swyddi yn Adrannau Addysg yn diflannu?
Fedrai ddim ateb y cwestiwn na. Ydyn, mae 'na llawer o gwmniau a ffatrioedd wedi cau dros flynyddoedd yn ddiweddar yng Ngymru gan gynnwys Wigley's oedd yn arfer gwneud fy hoff mintys.
Post a Comment