Wednesday, September 17, 2008

diwrnod braf

Mae Ike wedi dod ag awyr claear. Dan ni wedi cael tywydd braf (ar wahân i'r alergedd) wedi iddo fynd.

Mae'r plant yn cadw "hamming bird feeder" yn yr ardd. Creaduriaid twt ac anhygoel ydy'r adar ma. Mae'n ddiddorol gweld nhw'n "yfed" y dwr melys tra fyddan nhw'n arnofio yn yr awyr. Maen nhw'n fy atgoffa i o Tinkerbell. Neu ella bod Disney wedi cael y syniad gan yr adar bychain.

2 comments:

Corndolly said...

Dwi'n hoffi gweld 'humming birds' ar y teledu, ond wrth gwrs, s'gynnon ni ddim yma yng Nghymru. Disgrifiad bendigedig ydy 'Tinkerbell'

Emma Reese said...

Mae'n ddiddorol iawn edrych arnyn nhw.