Friday, January 2, 2009

tyˆ moch cwta




Gwnaeth gwr fy merch hyna dyˆ twt hwylus i'n moch cwta ni am y Nadolig. Gellir dodi ar lawnt fel y medrith y moch cwta bori'n ddiogel rhag ysglyfaethwyr (llond ceg!) Mae'r un lloft yn mynd ar ben y llall hefyd. Mae lliw y paent yn cyd-fynd â'n tyˆ ni hyd yn oed. Gwnaeth fy merch yr arwydd.  Mae pawb yn hapus!

6 comments:

neil wyn said...

Am gampwaith o gwt mochyn cwta!! Mae'n siwr mi fydden nhw'n reit hapus ynddi hi :)

Emma Reese said...

Mae'r plant yn hapus hefyd. ^^

Corndolly said...

Wow ! Tŷ bach twt yn bendant ! Ydyn nhw'n dod i mewn dy dŷ gyda'r nos? Neu ydyn nhw'n gallu aros allan trwy'r amser? Dw i'n meddwl eu bod nhw'n hoffi gwres ganolog.

Linda said...

Yn hoff iawn o'r 'ty newydd'. Ac hefyd o olwg newydd dy flog :) Wedi dilyn dy esiampl efo rhestr blogiau ...syniad gwych!

Emma Reese said...

Mae eu cwt arferol yn y ty bach yn y garej. Mae'r gwres ganolog yn ei gynhesu'n braf.

Mi nes i ddilyn esiampl Corndolly efo rhestr blogiau!

Linda said...

Ah ! Newydd fod draw i'w blog hi rwan ...