Wednesday, May 20, 2009

gwyliau'r haf



Mae'r ysgol wedi gorffen. Mae'n anodd credu bod blwyddyn arall wedi drosodd. Roedd yna seremoni wobrio a phicnic wedyn yn ystod y dydd a drama gan blant yr ysgol gyda'r hwyr ddoe. Dw i'n wynebu bron i dri mis o wyliau'r haf o mlaen i rwan.

8 comments:

Corndolly said...

Mae'r tywydd yn edrych yn fendigedig!. Dw i'n eistedd 'ma wrth edrych ar yr awyr las yno a'r awyr llwyd yma. Mwynha'r gwyliau haha.

Emma Reese said...

Ydy, mae hi wedi bod yn braf ar ôl cymaint o law. Dw i'n falch iawn bod y rhyngrwyd yn gweithio'n dda.

neil wyn said...

Mae'r haf yn teimlo'n bell i ffwtrdd yn fan'na ar hyn o bryd, er mae'r haul wedi dod allan rwan wedi diwrnod eitha wlyb.

Emma Reese said...

Gobeithio bod hynny'n golygu bod ni'n medru disgwyl haf braf eleni.

asuka said...

mwynha'r tywydd hafaidd 'na tra byddi di'n gallu, cyn gadael am gymru! ^^

Corndolly said...

croesi dy fysedd bydd yr haf yn braf iawn y tro 'ma. Cofia'r tywydd ofnadwy y tro diwethaf a oeddet ti yng Nghymru ?

Emma Reese said...

Dw i'n bwriadu prynu esgidia diddos....

Corndolly said...

Tyrd â ymbarél a chôt law hefyd jyst i fod yn siŵr !!