Saturday, August 15, 2009

croeso cynnes (25/7/09)






Siop y Mêl - dyna'r lle es i iddo am help. Roeddwn i'n cysylltu â nhw cyn dod i Lanberis er mod i ddim yn nabod y bobl yn bersonol. Am groeso mawr a the ardderchog (yn annisgwyl, a dweud y gwir) ges i gan Deryl ac Eirlys yno! Nhw oedd y bobl gyntaf siarades i Gymraeg â nhw ar ôl cyrraedd Cymru. 

Ces i'r gyfeiriad i Farteg. Llety gwych sy'n cael ei redeg gan gwbl Cymraeg ydy o. Ar ôl cael croeso cynnes arall gan Martin a dadbacio fy nghês yn fy llofft cyfforddus, i ffwrdd â fi i grwydro o gwmpas y dref.

Penderfynes i alw am Gwilym yn y Ganolfan Groeso gyntaf. Fo a roiodd y wybodaeth am lety Cymraeg yn Llanberis i mi'r llynedd. Roedd o'n fy nghofio i a ches i groeso cynnes gynno fo a John hefyd. Byddwn i'n galw yn y Ganolfan a Siop y Mêl yn aml am sgwrs sydyn tra oeddwn i yn y dref.

2 comments:

neil wyn said...

Dwi'n falch o glywed gest ti groeso gynnes yn Llanberis. Dyni newydd dychweled o Gwm y Glo (dim ond dau filtir lawr y lôn) a threuliom ni gwpl o ddydiau o amgylch tref Llanberis. Est ti i Ben y Ceunant? ystafelloedd te ar y lôn sy'n arwain at Yr Wyddfa, gawson ni brofiad diddorol yna, a chroeso gynnes, un wna i sgwennu amdanhi yn y blog yn fuan. Rhaid i mi ddweud teimlais fod y dref ar ei lawr ers i ni ymweled yna y llynedd, efo nifer o siopau a chaffis wedi cau lawr. Adlewyrchiad o'r dirwasgiad arianol yw hyn tybiwn i, ond teimlais braidd yn drist i weld y dref yn dioddef. Roedd Caffi Pete's dan ei sang pan cerddom ni hebio, efallai oherwydd diffyg o lefydd eraill i fwyta? Gobeithio daw dyddiau gwell cyn hir i'r holl ardal.

Emma Reese said...

Pen y Ceunant... Weles i gaffi ar ôl cerdded i fyny ar lwybr serth ond dw i ddim yn gwybod lle oeddwn i!
Es i i Pete's sawl tro ond fy ffefryn oedd siop fwyd i fynd allan o'r enw Hot Shop. Rhai o Wlad Pwyl sy'n rhedeg y siop dw i'n meddwl. Eu 'fish burger' oedd y gorau ges i erioed.