Monday, August 24, 2009

linda ac Idris (29/7/09)



Roedd yn rhyfedd a hyfryd dros ben gweld Linda ac Idris wyneb yn wyneb wedi ini gael sgyrsiau ar Skype'n rheolaidd dros ddwy flynedd. Roedden nhw yng Nghymru yr un wythnosau â fi a mynd â fi ar wibdaith yn y Gogledd yn eu Honda. Ces i ddiwrnod bendigedig gyda nhw (ac un sych hefyd!)

Aethon ni i Gae'r Gors, cartref Kate Roberts yn Rhosgydfan gyntaf. Roedd yr olygfa at y Menai'n braf. Medrwn i glywed Winni'n gofyn i Begw a Mair, "fuoch chi erioed yn Sir Fôn?"

Wedi gweld popeth yn y ty, roeddwn ni eisiau cael cip ar gae Russell Jones oedd gerllaw. Dyma ofyn i Bethan Parry, y rheolwraig a'r ddwy ddynes yno. A phwy oedd un o'r ddwy ond mam Russell! Ac un mor ifanc fel mod i'n meddwl mai ei wraig oedd hi! Roedd hi'n hynod o glên yn ein tywys ni o gwmpas y cae lle oedd cymaint o lysiau'n tyfy'n braf.

6 comments:

Corndolly said...

Cenfigennus iawn ydw i am dy daith i weld 'Patsh Russell' Faswn i erioed wedi meddwl fod ti'n gallu mynd o gwmpas y lle. Alli di weld y rhaglen 'Byw yn yr Ardd' rhywsut? Mae Alan yn hoffi iawn o'r rhaglen hefyd ac dw i'n edrych ymlaen at ei dychwelyd i sgrin fach yn fuan.

Emma Reese said...

Na alla. Dim ond ar radio dw i wedi glywed o. Mae ei gae wrth ochr y ffordd ond dydy o ddim ar agor i'r cyhoedd. Ei fam o wnaeth ddangos o i ni.

Linda said...

Diwrnod i'w gofio yn wir. Cae'r Gors a 'Patsh Russell' :)
Ac wrth gwrs y pleser o gael dy gyfarfod di am y tro cyntaf!

Emma Reese said...

Roedd yn hyfryd, Linda! A diolch yn fawr am y Lôn Wen. Dw i mor falch o gael ei darllen ar ôl ymweld â Rhosgadfan.

Linda said...

Croeso :) Mae gen i gywilydd dweud nad ydwi wedi ei ddarllen eto . Rwan , 'rwyt ti wedi fy ysgogi i !

Rhys Wynne said...

Newydd wylio 'Tudur Owen o'r Doc' ar wefan Clic (S4C) rwan ac roedd Russell a Bryn Terfel yn westeion. Soniodd Russell bod dwy ddynes o Siapan a Toronto (wel tydy Vancuver ddim yn bell!) wedi dod i Gae'r Gors ac wedi holi am ei ardd ac wedi siarad a'i fam :-)