Tuesday, March 30, 2010

haul ac awyr las

Dw i newydd orffen y llyfr hwn gan Cathrin Williams. Llyfr am ei phrofiadau a gafodd hi ym Mhatagonia ydy hwn. Treuliodd hi flwyddyn gron draw yn 1990 a 1991 yn dysgu dosbarthiadau Cymraeg sawl tro'r wythnos a phregethu o dro i dro wedi cael ei swyno gan y Wladfa ddeg o flynyddoedd cynharach.

Fel mae hi'n ei gyfaddef, cofnod personol ydy hwn, nid llyfr teithio i ddidynnu'r gynulleidfa eang. Fodd bynnag, mwynheais i'n fawr. Drwy ei Chymraeg coeth, ces i gip ar y bobl draw, hynny ydy'r bobl a ddaeth yn ffrindiau annwyl iddi sy mor niferus. A dw i'n cyd-deimlo â hi dros ei hiraeth am Batagonia er bod gwrthrych fy hiraeth yn wahanol iddi hi.

Mae'r llyfr allan o argraff bellach a phrynais i'r copi'n ail-law. Mae Cathrin yn sgrifennu colofnau i Ninnau, papur newydd Cymreig yng Ngogledd America. Roeddwn i'n gwirioni arnyn nhw pan oeddwn i'n tanysgrifio iddo fo. Falch o gael cyfle i ddarllen llyfr cyfan gwbl gynni hi.

2 comments:

Ann Jones said...

Mae o'n swnio'n ddiddorol iawn - trueni ei fod ddim ar gael rwan.

Emma Reese said...

Ella cei di ffeindio copi mewn llyfrgell. A dweud y gwir, ar silff llyfrgell Coleg Normal ym Mangor oedd fy un i.