Ces i lifft gan Iola i Gae'r Gors y diwrnod cyntaf; roeddwn i'n bwriadu dal y bws yn ôl. Ar ôl gorffen fy ngwaith, penderfynais i gerdded tuag at y brif ffordd yn hytrach na aros am y bws o flaen y ganolfan am awr. Cerddais i am ddwy filltir yn y glaw ati hi a throi i'r chwith wrth feddwl mai dyna'r cyfeiriad i Gaernarfon; gyrrodd Iola ar ffordd uniongyrchol, cofiwch. Doeddwn i ddim yn sylweddoli fy mod i'n anelu at Borthmadog nes i'r gyrrwr bws dynnu fy sylw at fy nghamgymeriad. Erbyn i mi gyrraedd Caernarfon ar y bws iawn, roeddwn i wedi blino'n lân fel na fyddwn i eisiau chwilio am Lôn Eifion na cherdded arni'n ôl i'w thŷ.
Welais i dacsi'n aros ar y Maes. Doeddwn i ddim yn cofio cyfeiriad llawn Iola ond Dinas Dinlle. Cychwynnon ni. Aeth y tacsi ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Dechreuais i deimlo'n anesmwyth; doeddwn i ddim yn meddwl bod y tŷ mor bell â hynny. Yna, welais i'r môr. Ac roeddwn i'n gwybod fy mod i wedi rhoi cyfeiriad anghywir. Yn ffodus, roedd y gyrrwr yn nabod y lle'n iawn a llwyddodd i ffeindio'r tŷ drwy fy nisgrifiadau.
Gofynnodd o ond am bris o Gaernarfon i Ddinas Dinlle, chwarae teg iddo. Ond roedd fy llawenydd a gollyngdod yn cyrraedd y lle iawn mor fawr fel y rhoiais ddeg punt yn gil-dwrn.
Dinas Dinlle? Dim ond sôn amdani oedd Iola!
2 comments:
O diar ! Hyn yn fy atgoffa fi o fynd ar goll wrth drio gwneud ein ffordd i le John a Llinos ...ochra Caernarfon eto :)
Lwcus nad oedd Dinas Dinlle ddim yn rhy bell i ffwrdd o dy Iola, a chwarae teg i'r gyrrwr tacsi hefyd am fod mor glên.
Roedd yn teimlo'n bell ar y pryd wrth feddwl am fesurydd y tacsi oedd yn rhedeg bob munud!
Oedd, un clên oedd y gyrrwr (er fod o ddim yn siarad Cymraeg.)
Post a Comment