Roeddwn i'n bwriadu aros gyda ffrind yn y Bala yn ystod fy wythnos olaf yn wreiddiol, ond roedd rhaid newid y cynllun y munud olaf. Yn y diwedd, penderfynais i aros un noson yn Rhydydefaid yn Frongoch ger y Bala er mwyn gweld Olwen, perchennog y llety, unwaith eto.
Gyda thocyn coch yn fy llaw, cychwynnais i ar fy siwrnai bws hir o Lanberis i'r Bala drwy Gaernarfon a Dolgellau.
Mae tref Ddolgellau'n llawn o adeiladau carreg deniadol gyda strydoedd culion yn mynd i bob cyfeiriad dychmygol. Gwelais i ffim am hanes y Crynwyr yn y Ganolfan Groeso tra oeddwn i'n aros am y bws nesa.
Ruthrodd y bws tuag at y Bala drwy Lanuwchllyn yn pasio cerflun O.M. Edwards a'i fab, yna, ar hyd Llyn Tegid. Roedd gen i ddigon o amser cyn mynd i'r llety. Roedd rhaid i mi gael gweld un lle yn benodol: cae'r Eisteddfod.
3 comments:
Dw i'n meddwl, erbyn hyd, dy fod di'n adnabod yr ardaloedd yng Nghymru yn llawer gwell na fi !! Rwyt ti wedi bod i leoedd dw i heb glywed amdanyn nhw o'r blaen.
Dw i'n meddwl dy fod di'n adnabod ardaloedd yng Nghymru'n llawer gwell na fi erbyn hyn. Rwyt ti wedi bod i leoedd dw i heb glywed amdanyn nhw o'r blaen.
Dim ond rhai ardaloedd yng Ngogledd Orllewin dw i'n eu nabod. :)
Post a Comment