Wednesday, June 16, 2010

cymru 2010 - taith sydyn




Ces i fynd gyda Ceinwen i gludo llyfrau i ysgol fach yn Llanfachraeth. Wrth gyrraedd, des i'n gwybod mai Diwrnod Americanaidd oedd hi, hynny ydy bod y plant yn cael cig eidion o Texas i ginio!

Ar ôl cael gair gyda'r athrawes, ffwrdd â ni ar daith sydyn o gwmpas yr Ynys. Aeth Ceinwen â fi i Gaergybi, Llanddeusant (i weld Melin Llynnon,) Porth Llechog ac Amlwch (lle oedd Linda'n gweithio fel athrawes am flynyddoedd ynddo) cyn dod yn ôl i'r Borth. Roedd hi'n ddiwrnod braf arall, a mwynheais i'r daith yn fawr iawn.

3 comments:

Linda said...

Ah.. dwi'n adnabod y trydydd llun yn dda. Wedi cael ei dynu o faes parcio rhwng Amlwch a Phorth LLechog. Mae'n dangos y dafarn ym Mhorth Llechog. 'Roeddwn yn byw yn un o'r 'bungalows' wrth edrych i'r dde o'r olygfa yma...hynny ydi wrth edrych tuag at gyfeiriad Amlwch .

Emma Reese said...

Mi dynnais i lun i gyfeiriad arall hefyd!

Linda said...

Wel dyna anhygoel ! Dyna lle 'roeddwn i'n byw. Yn un o'r byngalows gwynion sydd i'w gweld yn dy ail lun :))