Aeth Iola â fi i weld ei theulu sy'n ffermio ddim yn bell o Gorwen. Trwy Lanberis, Betws-y-Coed ac ardaloedd eraill hardd gyrron ni.
Cawson ni'n tywys ar eu fferm gan dair o'r plant. Roedd hi mor braf yn cerdded ar y cae a'r llwybrau cul oedd yn llawn o flodau del. Dyma'r plant yn dechrau chwarae yn y nant a thaflu cerrig o dan bont Rhufeiniaid. Cawson ni de gwych hefyd. Ces i fy synnu'n gweld bod y plant i gyd yn yfed te go iawn (gyda digon o lefrith.)
Pan drodd ein sgwrs i'r gwahaniaethau rhwng yr ysgolion Prydeinig a'r rhai Americanaidd, daethon ni'n gwybod bod plant Prydain yn mynd i'r ysgol mwy o ddiwrnodau'r flwyddyn na eu cymheiriaid yn America; dyma'r plant yn gweiddi yn erbyn yr annhegwch! Ond wedi cymharu'n bellach, daeth yn amlwg bod nhw'n cychwyn diwrnod yn hwyrach na'r lleill. A dyna ddiwedd yr anghydfod.
Diwrnod braf arall gyda chwmni mor glên a chroesawgar.
2 comments:
diolch am yr adroddiadau diddorol tu hwnt o dy ymweliad i Gymru. Er dwi ddim yn sgwennu sylw pob tro dwi'n eu darllen nhw i gyd:)
Gyda llaw, wneith ein merch ni cymryd paned o de (ers roedd hi'n saith oed), ond rhaid rhoi digon o lefrith, ond dim siwgwr!
Diolch i t i, Neil. Dw i erioed wedi gweld plant Americanaidd yn yfed te go iawn ond ambell i de oer efo rhew.
Post a Comment