Sunday, June 13, 2010

cymru 2010 - porthaethwy




Tref fach hardd siriol hwylus ydy Porthaethwy. Mae bron popeth mewn cyrraedd ar droed. Roeddwn i wrth fy modd yn cerdded i wneud neges - i swyddfa'r post, Awen Menai, y fferyllfa a Waitrose newydd sbon. Cerddais i o dan ac ar Bont y Borth sawl tro bob dydd tra oeddwn i yno. Roedd yn anodd credu mod i'n cael cerdded ar y bont enwog roeddwn i ond yn edmygu o bellter.

3 comments:

neil wyn said...

Mae'r bont yn fy atgoffa o fynd ar wyliau i'r ynys. Roedd croesi'r Menai yn arwydd roedd y taith hir (amser hynny) bron ar ben. Roedd hynny cyn gafodd Pont Brittania ei addasu i gario ceir yn ogystal a threnau wrth cwrs. lluniau braf:)

Linda said...

Lluniau hyfryd iawn . 'Roeddem ninnau hefyd yn mynd i Sir Fôn bob haf . Wedi croesi'r bont sawl gwaith efo'r garafan Ace Globetrotter, ar y ffordd i Rhos Farm , Pentraeth.
Dyddiau braf !

Emma Reese said...

Baswn i'n dweud hefyd bod 'na rywbeth arbennig yn croesi Pont y Borth er fy mod i heb atgofion melys fel chi a'r bobl eraill.

Mae'r lluniau (dros 450 i gyd!) wedi troi'n wych, diolch i'r camera ges i'n anrheg benblwydd gan dad y gŵr.