Saturday, July 30, 2011
wyau bach
Mae'r plant yn gwarchod pedwar cyw iâr ac un ci tra eu perchennog i ffwrdd am ddyddiau. Maen nhw'n mynd i'w dŷ ddwywaith bob dydd i ofalu amdanyn nhw. Dywedodd y perchennog fyddai'n groeso i fy mhlant hel yr wyau i ddod â nhw adref. A dyna a wnaethon nhw'r bore 'ma - dau fach fach. Ella y cawn ni nhw i ginio ond fedra i ddim peidio petruso achos mai mor fach ydyn nhw.
Tuesday, July 26, 2011
trysor mewn siop elusen
Prynais i lyfr bach mewn siop elusen yng Nghaernarfon tra oeddwn i yno, dim siop y Cyngor Henoed ond un o'r niferus yn y dref. Dim ond hanner punt costiodd y nofel gan awdur dw i ddim yn gyfarwydd â fo, sef Gorwel Agos gan Selyf Roberts.
A dweud y gwir, doeddwn i ddim yn disgwyl llawer pan brynais i fo; rhaid cyfaddef mai'r pris a apeliodd ata i mwy na dim arall! Ond ces i fy siomi ar yr ochr orau. Llwyddodd Roberts baentio'n fedrus cymuned fach wledig yn Lloegr gyda'i thrigolion amrywiol, bywiog, credadwy. Does dim llofruddiaeth, trais na rhyw (hwrê!); dim ond "pethau bach pwysig" ac eto mor ddiddorol a doniol.
Mae'r nofel hon ynghyd un arall ar gael drwy Gwales ond sgrifennodd Roberts ddwsin o nofelau eraill. Bydd rhaid i mi chwilio amdanyn nhw mewn siopau elusen yng Nghymru y tro nesa.
Sunday, July 24, 2011
y ddau beth gwych
Diolch i Idris am y linc hon - Gweddi'r Arglwydd gan Andrea Bocelli a Chôr y Tabernacl Mormonaidd. Mae O Holy Night gan y côr yn gyrru ysgryd lawr fy nghefn bob tro. Dw i'n deall mai'r ymfudwyr o Gymru a ddechreuodd y côr anhygoel yn Salt Lake City. Does ryfedd bod nhw mor dda. Bocelli ydy un o fy ffefrynnau diweddaraf. Maen nhw'n asio'n andros o dda. Gobeithio y canan nhw yn Eidaleg y tro nesa.
Friday, July 22, 2011
yn boeth
Mae'n dros 100F/37C ac mae'n air-conditioner ni wedi torri. Dechreuodd y rhewgell fethu. Fydd y dyn trwsio ddim yn medru dod tan yn hwyr yn y pnawn. Dan ni'n cael ein coginio.
Wednesday, July 20, 2011
ishinomaki
Ishinomaki - tref fach bysgota a gafodd ei tharo'n wael yn y daeargryn a tsunami enfawr - y mae'r gŵr yn aros ynddi. Collodd hi 6,000 o'i thrigolion ac mae hi'n dal mewn angen difrifol er bod cymaint o falurion wedi cael eu clirio mewn amser rhyfeddol o fyr. Mae yna nifer mawr o fudiadau preifat o Japan a thramor ynghyd y llywodraeth yn ceisio'n galed i'w helpu. Mae Samaritan's Purse newydd gychwyn atgyweirio ac ailgodi 300 o dai yno sydd gan sylfeini solet. Maen nhw angen seiri profiadol a fydd yn gwirfoddoli.
Monday, July 18, 2011
ateb
Sgrifennais i at Rigoni di Asiago, y cwmni yn yr Eidal sy'n gwneud jamiau i ddweud pa mor flasus ydy'r jam (yn fy Eidaleg trwsgl.) Ces i ateb cwrtais ganddyn nhw (yn yr Eidaleg coeth) y bore 'ma, chwarae teg iddyn nhw.
Yn yr Unol Daleithiau maen nhw'n gwerthu 16 blas gan gynnwys blasau traddodiadol fel mefus a bricyll. Yna mae ganddyn nhw rai arbennig fel ffigys a grawnffrwythau pinc. (Dw i'n swnio fel eu rheolwraig hyrwyddo.) Bydda i'n trio'r lleill sydd gan y siop leol.
Sunday, July 17, 2011
dewis anodd
Diolch i Antwn a rodd gwybod i mi am ganlyniad gêm derfynol Cwpan y Byd pêl-droed merched. A diolch i rywun a rodd glip y "penalty shoot-out" ar You Tube yn barod. Roeddwn i a'r teulu'n medru gweld diwedd y gêm fawr. Llongyfarchiadau i dîm Japan! Ond a dweud y gwir, doeddwn i ddim yn gwybod pwy ddylwn i'w gefnogi. Efallai mai dyna sut roedd yr Americanwyr Japaneaidd yn teimlo yn ystod yr Ail Ryfel Byd! Wedi dweud hynny, efallai fy mod i'n falch i Japan ennill y tro hwn i godi calonnau pobl Japan yn sgil y trychineb diweddaraf.
Saturday, July 16, 2011
jamiau o'r eidal
Mae'r archfarchnad leol (dim Wal-Mart) newydd ddechrau gwerthu jamiau organig o'r Eidal, sef Fiordifrutta. A dyma brynu un ceirios a'i fwyta. O, mae o'n ofnadwy o flasus heb fod yn rhy felys. A dweud y gwir, gwelais i hanes y jamiau ar raglen deledu'r Eidal. (Does dim ffwdan ar hawlfraint a ballu!) Felly mae'n braf cael blasu un ohonyn nhw.
Thursday, July 14, 2011
tŷ totoro
Mae'r gŵr yn barod i fynd i'r gogledd efo criw o wirfoddolwyr i helpu yn yr ardaloedd a gafodd eu dinistrio yn y trychineb erchyll. Arhosodd o mewn tŷ yn Chiba (ger Maes Awyr Narita) a drefnwyd drosto neithiwr. Dyma fo'n gyrru llun o'i ystafell sy'n debyg i'r un a ymddangosodd yn y ffilm Totoro. Mae pob dim yn lan ac yn dwt yn Japan yn ddiweddar; doeddwn i ddim yn gwybod bod tai felly yn dal i fodoli. Gwelodd y gŵr rai tebyg i Makkuro-kurosuke hefyd pan rodd o'r golau ymlaen; ond roedden nhw'n hir ac roedd ganddyn nhw nifer o goesau! Mae o'n medru defnyddio'r we, diolch i'r antena bach y mae o'n cael ei fenthyg.
Monday, July 11, 2011
cappuccino yn tokyo
Sunday, July 10, 2011
teclyn hwylus blogger
Dw i newydd sylwi bod yna declyn hwylus Blogger, sef Statistics. Fe gewch chi wybod faint o bobl sy'n darllen eich blogiau ac o le maen nhw'n byw ac yn y blaen.
Mae'r rhan fwyaf o fy narllenwyr yn byw yn UDA wrth reswm, ond mae yna nifer sylweddol yn byw yn Ffrainc yn hollol annisgwyl, mwy nag yn y DU. Felly diolch yn fawr i'r Cymry yn Ffrainc am ddod, ac wrth gwrs i bawb yn y byd lle bynnag dach chi'n byw.
Friday, July 8, 2011
cymru 2011 - gadael
Fel dywedir, mae amser i bob gorchwyl dan y nef. Daeth fy amser i ddod adref felly. Dw i wedi cyfarfod cynifer o bobl glên, Gymraeg neu ddi-Gymraeg a dod yn nabod rhai ohonyn nhw'n dda. Roedd yn brofiad hyfryd cael treulio amser efo nhw yn hytrach na gweld y golygfeydd yn unig fel twristiaid cyffredin. Byddai tro nesa? Gobeithio. Os byw ac iach.
Hanesyn bach i orffen yr adrodd:
Pan oeddwn i'n ymweld â'r ganolfan ailgylchu efo plant Ysgol Pendalar, holodd un o'r staff i mi, "be' amser sy' gynnoch chi?" A dyma ddechrau dweud yn sydyn pa mor hir fy mod i'n aros yng Nghymru.... Ond dim ond gofyn, "faint o'r gloch ydy hi" oedd hi!
Thursday, July 7, 2011
cymru 2011 - oren
Ces i a fy nhair ffrind swper hyfryd mewn tŷ bwyta o'r enw Oren yng nghanol Caernarfon un noson. Tŷ bwyta bach a thwt sy'n cael ei redeg gan ddyn o'r Iseldiroedd. (Mae o wedi dysgu Cymraeg, chwarae teg iddo.) Mae o'n cynllunio bwydlen unigryw bob mis yn ôl thema wahanol; Ffrengig, Twrcaidd a llysieuol Japaneaidd ac yn y blaen. A'r olaf a gynigir y mis hwn.
Roedd yna saith saig fach yn y cwrs, pob un unigryw a gwnaed gyda gofal. Y perchennog ei hun a'n gweinodd. Roedd dyna'r tro cyntaf i mi flasu cawl soia a thomato, cyfuniad annisgwyl ond braf. Cawson ni'n tair ein synnu yn y diwedd bod ni'n eistedd wrth y bwrdd am dair awr! Roedd y bwyd yn dda a'r cwmni'n ddymunol.
Wednesday, July 6, 2011
cymru 2011 - antur waunfawr
Antur Waunfawr oedd mudiad arall roeddwn i'n gwirfoddoli gyda nhw am wythnos. Roedd yna weithgareddau i blant efo anghenion arbennig - gweithdai crefftau, addurno cacennau, ymweld y ganolfan ailgylchu ac yn y blaen.
Roeddwn i'n teimlo'n swil ar y dechrau a dw i'n siŵr bod y plant yn teimlo'r un fath. Ond wrth i ni weld ein gilydd bob dydd, dysgais i enwau'r plant yn fy ngrŵp a dechrau teimlo'n agos atyn nhw.
Tra oedden ni'n mwynhau'r pnawn olaf yn ymlacio, dyma ni'n clywed llais angylaidd sy'n debyg i Aled Jones yn hogyn bach. Pwy oedd yn canu ond un o'r plant hŷn! Canodd mor swynol yn Gymraeg a Saesneg wrth gofio'r geiriau i'r dim a chyda chymaint o deimladau. Dygodd gymeradwyaeth frwdfrydig.
Tuesday, July 5, 2011
cymru 2011 - carnifal bangor
Wedi tynnu lluniau o lefrith Aled yn M&S, dw i'n chwilio am safle Carnifal Bangor. Dyma hi, wrth y cei. Mae'r lle'n llawn dop. Ymysg y reidiau hwyl, stondinau ac yn y blaen, dyma 'gystadleuaeth tywysogesau.' Mae yna ddwsindnau o ferched ifanc mewn ffrogiau ffansi lliwgar efo coronau ar eu pennau'n cerdded yn dwt mewn grwpiau tuag at y beirniaid. Yna bydden nhw i gyd yn cyrtsi! Gwireddu breuddwyd pob merch fach ydy'r achlysur. (Welais i ddim pwy a enillodd.)
Monday, July 4, 2011
cymru 2011 - llefrith i marks & spencer
Mae llefrith Aled i gyd ynghyd rhai ffermydd eraill yn cael ei brynu gan Marks & Spencer a chael ei werthu yn eu siopau ar draws Gymru. (Dydy'r labeli ddim yn nodi'r cynhyrchwyr.) Tipyn o gamp ydy hyn achos bod gan M&S safon uchel o ran eu nwyddau.
Creodd hyn gymaint o argraff arna i fel bod rhaid i mi weld y llefrith ar eu silffoedd. A dyma deithio i Fangor i gyflawni'r cynllun. Dyma nhw - potelau plastig llefrith Aled yn llenwi silffoedd M&S yn urddasol. (Daeth peth ohonyn nhw o'r fuwch a ddod ar fy ôl hefyd!)
Sunday, July 3, 2011
cymru 2011 - gweld y godro
"Ga' i weld y godro?" - cwestiwn diniwed a ofynnais i wrth Aled, y ffermwr llefrith. Roeddwn i'n rhyw feddwl y byddwn i tu ôl i wydr neu rywbeth tebyg. Doeddwn i ddim yn disgwyl felly i mi gael bod yng nghanol y gwartheg y byddai wrthi. Ces i dipyn o ofn a dweud y gwir achos bod nhw'n llawer mwy na'r disgwyl, ac roedd rhai ohonyn nhw'n dangos gryn dipyn o ddiddordeb yno fi. Roedd rhaid i mi guddio tu ôl i ddrws y buedy rhag un or-chwilfrydig!
Mae gan Aled a'i deulu waith caled. Rhaid godro 100 o wartheg ddwywith bob dydd, a chymrith dair awr i orffen bob tro. Ar ben hynny, mae yna gant o waith eraill ynglŷn y fferm wrth gwrs. Ond mae'r teulu i gyd mor glên a chroesawgar. Ces i fy ngwahodd i swper ar ôl y godro hyd yn oed. Roedd y selsig cartref yn andros o flasus.
Saturday, July 2, 2011
cymru 2011 - cynhadledd yn y bala
Dw i'n ymuno ag Iola a'r lleill yn mynychu chynhadledd Gristnogol yn y Bala heddiw. Trwy Borthmadog a Thrawsfynydd dan ni'n teithio, yna ar hyd Afon Tryweryn, pasio Fron Goch a chyrraedd Bryn-y-Groes.
Mae yna ryw 30 gan gynnwys Derek, y pregethwr. Cawson ni amser cinio hir hamddenol (picnic yn yr ardd hardd) rhwng dwy bregeth. Mae pawb yn ymlacio a mwynhau eu hunain mewn cwmni dymunol. Dwedodd Dewi, gweinidog ger Harlech, fod o wedi perfformio seremoni briodas drwy gyfrwng y Japaneg yn ddiweddar ar gyfer priodferch o Japan a briododd Cymro.
Wedi galw heibio i dad Iola gerllaw, dan ni'n troi i'r chwith cyn Betws-y-Coed, cael cip ar Gastell Dolwyddelan o'r car, mynd trwy Ffestiniog, yna yn ôl i Gaernarfon. Hyfryd cael gweld mynyddoedd yr Eryri o bob ochr.
Friday, July 1, 2011
cymru 2011 - dinas dinlle (o'r diwedd!)
Mae'r tywydd yn arbennig o braf heddiw, a dyma Iola'n awgrymu i ni fynd i Ddinas Dinlle cyn swper. Dw i wedi bod yn gobeithio ei gweld hi ers y digwyddiad mawr y llynedd.
Mae'r traeth yn disgleirio yn y machlud haul. Gwelir Moel Eilio fach a'r Wyddfa ar un ochr, a Threfor ac Aberffraw ar yr ochr arall dros y môr. Dan ni'n cerdded ar y traeth yn ddistaw yn mwynhau awyr y môr, yr heulwen a'r golygfeydd o'n cwmpas ni. Cafodd blinder y diwrnod ei leddfu.
Subscribe to:
Posts (Atom)