Tuesday, July 26, 2011

trysor mewn siop elusen

Prynais i lyfr bach mewn siop elusen yng Nghaernarfon tra oeddwn i yno, dim siop y Cyngor Henoed ond un o'r niferus yn y dref. Dim ond hanner punt costiodd y nofel gan awdur dw i ddim yn gyfarwydd â fo, sef Gorwel Agos gan Selyf Roberts.

A dweud y gwir, doeddwn i ddim yn disgwyl llawer pan brynais i fo; rhaid cyfaddef mai'r pris a apeliodd ata i mwy na dim arall! Ond ces i fy siomi ar yr ochr orau. Llwyddodd Roberts baentio'n fedrus cymuned fach wledig yn Lloegr gyda'i thrigolion amrywiol, bywiog, credadwy. Does dim llofruddiaeth, trais na rhyw (hwrê!); dim ond "pethau bach pwysig" ac eto mor ddiddorol a doniol.

Mae'r nofel hon ynghyd un arall ar gael drwy Gwales ond sgrifennodd Roberts ddwsin o nofelau eraill. Bydd rhaid i mi chwilio amdanyn nhw mewn siopau elusen yng Nghymru y tro nesa.

5 comments:

neil wyn said...

Dwi heb chwilio am lyfrau Cymraeg ail-law hyd yn hyn, ond rhaid i mi drio cofio fanteisio ar y cyfle yn yr Eisteddfod.

Emma Reese said...

Syniad da. Ces i lyfr gan T.Llew am bunt yn Eisteddfod y Bala.

Rhys Wynne said...

'Sdim lot o lyfrau Cymraeg i'w gweld yn gwendu eu ffordd i siopau elusennau o beth dw i'n weld, er mae'n debyg bod gwell siawns gan rhywun yn nhrefi'r gogledd orllewin. Dw i heb weld dim un yn siop elusennau niferus ardal Treganna, Caerdydd a dewis pitw ofnadwy sydd yn siop lyfrau Oxfam canol y ddinas, er gwaethaf cymiant o siaradwyr Cymraeg sydd i'w cael yma (a'r rheini y 'teip' baswch chi'n feddwl sy'n pyrnu a darllen llyfrau Cymraeg).

Gallwch gale ambell fargen ar stondinau yn y steddfod, ond dw i'n meddwl bod bwlch yn farchnad am wasanaeth ar-lein i brynu a gwerthu llyfrau Cymraeg ail-law. Mae cylchgrawn Y Casglwr yn bodoli, ond mae'n bennaf ar gyfer hen lyfrau a rhai prin, sy'n naturiol yn tueddu bod yn ddrud.

Emma Reese said...

Hyd yn oed yn y siopau elusen yng Nghaernarfon, dim ond cornelau bach ydy'r lle i lyfrau Cymraeg. Ella mai maes yr Eisteddfod ydy'r lle grau i'w cael oni bai bod chi'n chwilio am rai penodol.

Ann Jones said...

Os ydych yn y Gogledd, triwch Siop lyfrau Lewis yn Llandudno. Mae gennyn nhw lawer o lyfrau ail-law. Hefyd mae Oxfam ym Mangor yn llawn trysorau