Thursday, August 25, 2011

ailddarganfod japan

Dw i newydd ddechrau dilyn blog Saesneg gan un o Sweden sy'n byw yn Japan. Mae o'n sgwennu am bethau annisgwyl; pethau na fydd y rhan fwyaf o dwristiaid neu hyd yn oed y trigolion cynhenid eu hun yn eu sylwi. Pwy sy'n disgwyl gweld cerfluniau Micky & Minnie Mouse a Hello Kitty ymysg rhai difrifol ar dir teml Bwdhaeth? Ffotograffydd ardderchog ydy o hefyd. Efallai fy mod i'n medru ailddarganfod Japan drwy ddarllen ei flog yn gyson.

2 comments:

Sion said...

Diddorol iawn! Efallai fydd hwn o ddiddordeb i ti 'fyd!
http://siondafydd.wordpress.com/

Emma Reese said...

Ydy wir. A dw i'n llawn edmygedd fod o'n sgwennu bron bob dydd.