Monday, October 10, 2011

siwrnai am ddim i japan


Mae'r nifer o ymwelydd i Japan yn lleihau'n sylweddol ers y trychineb niwclear ym mis Mawrth er bod hi'n ddiogel ym mhob man bellach ond yn yr ardal adweithydd. (Mae'n rhyfedd bod rhai sydd wedi canslo eu siwrnai i Japan yn mynd i'r traeth yn ddihitio lle cewch chi lawer mwy o ymbelydredd!)

Er mwyn hyrwyddo twristiaeth penderfynodd Llywodraeth Japan gynnig tocynnau awyren yn rhad ac am ddim i 10,000 o ymwelydd yn 2012 y byddai eu cynlluniau teithio'n pasio'r prawf. Disgwylir yr ymwelydd anfon negeseuon e-bost i'r byd tra bydden nhw'n aros yn Japan. Bydd yna hysbysebion gan y Llywodraeth nes ymlaen.



2 comments:

Rhys Wynne said...

Dyna syniad beiddgar.

Ond e-bost! Tydyn nhw ddim wedi clywed am gadw blog?

Emma Reese said...

Fe wneith unrhyw modd tybiwn i cyn belled byddwch chi'n hyrwyddo Japan wrth y byd.