Monday, October 31, 2011

yn y tŷ hwn

Dyma un o'r nofelau prin, Gymraeg neu ieithoedd eraill; medra i weld ffilm yn fy mhen wrth ei darllen. Pa fath o ddrama a allwch chi ei hadrodd ynglŷn hen dŷ a dynes gyffredin sy'n tynnu ymlaen? Ond llwyddo a wnaeth Sian Northey'n hynod o fedrus. Dydy'r pwnc ddim yn unigryw, ond mae ei modd i blethu'r gorffennol efo'r presennol, ac i gario popeth tuag at y datguddiad annisgwyl yn anhygoel. Mae'r sioc a ges i'n fy atgoffa i o Rebecca gan Daphne du Maurier ( heb lofruddiaeth a phartion gwyllt!)

Heb os hon ydy'r nofel Gymraeg orau a ddarllenais i'n ddiweddar. Edrycha' i ymlaen at waith arall gan yr awdures.

6 comments:

neil wyn said...

Ro'n i wedi bod yn ystyried darllen y llyfr hon ers sbel, ond ti wedi fy narbwyllo rwan. Digwydd bod mae aelod o fy nosbarth newydd yn ffrind i Sian Northey, mae o'n mynd i Dy Newydd, Llanystumdwy efo grwpiau o bobl ifanc o Lannau Mersi dwi'n meddwl.

Emma Reese said...

Baswn i am glywed dy farn di.

Anonymous said...

Diolch yn fawr, Emma. Falch dy fod wedi ei mwynhau.
A helo Neil - chdi sy'n dysgu Cymraeg i Peter Naylor mae'n rhaid. Cofia fi ato fo.

Emma Reese said...

Dyma swrpreis! Diolch yn fawr i chithau Sian am sgrifennu. A dweud y gwir, roeddwn i'n meddwl sgrifennu atoch chi drwy gwmni Gwales. Dymuniadau gorau i chi.

neil wyn said...

Dwi newydd prynu copi o 'Yn y Ty Hwn' ac yn ei fwynhau'n barod:)

Sian, yndw, mae Peter newydd dechrau Cwrs Mynediad efo fi. Wnath o grybwyll eich enw i mi un wythnos, a digwydd bod o'n i newydd eich gweld chi ar y teledu!
Byd bach:)

DSO said...

O ganlyniad i dy adolygiad di 'ma, dw i wedi archebu'r nofel oddiwrth gwales.com. Dw i'n aros amdano yn ddiamynedd. Wnaeth gwales hala'r peth yn syth bin, wrth gwrs, ond dw i'n byw yn Virginia, ac so'r post 'surface' yn glou.