Wedi gwasanaeth Nadolig boreol, es i adref ar frys efo'r gŵr i groesawi'r plant a oedd yn dod adref. Cafodd y tŷ distaw ei lenwi unwaith eto efo'r plant a chi fy merch hynaf. Cawson ni gymaint o hwyl yn agor anrhegion. Yna aeth rhai am dro tra oeddwn i'n paratoi twrci a chig moch. Doedd y twrci ddim wedi ei doddi mewn pryd (eto!) Penderfynais i ei rostio fel mae o ond hirach. Ces i ollyngdod mawr pan ddaeth o allan o'r popty wedi'i rostio'n braf. Ar ôl y cinio, gwyliais i ddrama Japaneaidd boblogaidd efo un o'r merched tra oedd y gweddill yn gwylio'r ddrama Americanaidd boblogaidd 24. Roedd yn hanner nos pan ges i gawod sydyn cyn mynd i'r gwely. Wedi blino'n lân ond yn fodlon.
No comments:
Post a Comment