Wednesday, December 21, 2011

canu carolau

Daeth cnocio swnllyd ar ddrws blaen pan oeddwn i wrthi'n coginio swper heno. Agorodd y gŵr y drws a dyma ni'n clywed canu carolau. Pobl ifanc yr eglwys gerllaw a arweiniwyd gan y gweinidog oedden nhw. Cawson ni ddewis o garol arall, a dyma ddewis Joy to the World. Fe ddiflannon nhw yn y tywylloch wedi gorffen canu gan daflu "Merry Christmas" aton ni....

1 comment:

Linda said...

O , dyna hyfryd Junko ! 'Roedden ni wrth ein boddau yn mynd o amgylch i ganu carolau efo aelodau'r capel ers talwm.Does 'na neb yn dod o amgylch i ganu carolau yma :(Hyfryd gweld fod y traddodiad yn dal yn fyw !