Wednesday, March 14, 2012

siwrnai fer

Dw i'n mynd i Japan. Mi adawa' i fore fory (am 4:30 yn fod yn benodol!) Bydd gen i gwmpeini'r tro 'ma sef fy merch hynaf. Byddwn ni'n aros efo fy mam yn Tokyo am deg diwrnod. Dw i a fy merch wedi bod yn cynllunio'n arw. Byddwn ni'n mynd â fy mam sydd bron yn 90 i Atami am noson. O'r diwedd dw i'n cael mynd i onsen (hot spring) am y tro cyntaf ers i mi adael Japan dros 20 mlynedd yn ôl! Dyma'r gwesty neis a rhad byddwn ni'n aros ynddo. Yna byddwn ni (fi a fy merch) yn ymweld â Phalas Ymerodrol, mynd ar gwch ar Afon Sumida, cael swper efo awdur Tokyobling yn nhŷ bwyta fy mrawd, mynd i siopa, gweld ffrindiau, ac yn y blaen.


Mi fydd yn anodd mynd ar y we am sbel. Adrodda' i fy hanes (efo lluniau) ar ôl dod yn ôl. Felly hwyl fawr am y tro!

3 comments:

Robert Humphries said...

Pob hwyl! Gobeithio y cewch daith hyfryd yn Siapan.

Linda said...

Siwrna dda a hwyl fawr i ti! Edrychaf ymlaen i ddarllen am dy wyliau arbennig.XX

Emma Reese said...

Diolch i chi!Dw i`n mwynhau bob munud yma yn Japan! Sgrifena` i fwy ar o^l y siwrnai. :)