Wednesday, December 16, 2015

amalia

Gan fod brawd y gŵr a'i wraig yn yfed gwin o bryd i'w gilydd, roeddwn i'n meddwl byddai potel neu ddwy o win da'n braf i roi iddyn nhw'n anrheg Nadolig, a dechreuais chwilio ar y we. Ces i syniad gwych wedyn - beth am roi gwin o Wlad Groeg o'r enw Amalia, yr un enw â fy chwaer yng nghyfraith, ac un pinc sef ei ffefryn? Syniad da oedd o, ond "dydy o ddim ar gael ar hyn o bryd," meddai'r mewnforiwr arbennig. Ffeindiais un tebyg ar Amazon, ond byddan nhw ddim yn anfon gwin at y dalaith mae'r cwpl yn byw ynddi. Es i at siop win ar y we, ond mae'r rheol ynghylch gyrru gwin mor gymhleth ac anghyfleus  fel rhoes i orau i'r syniad yn gyfan gwbl!

No comments: