Friday, October 19, 2007

diwrnod hir

Mae fy mhasbort newydd gen i rwan. Mi es i i Houston i'w nôl ddoe. Siwrnau hir oedd hi. Mi nes i ardael y tyˆam 8:30 yn y bore a dod adre am 9:00 yn y nos. Mi es i ar yr awyren, ar y bws, ar y trên.

Roedd hi'n boeth! Llawer poethach nag Oklahoma mae Houston. Ac mae hi'n ddinas enfawr. Cholles i ddim fy ffordd serch hynny, diolch i'r arwyddion clir ar bob cornel stryd. (Ro'n i ar goll yn llwyr yng Nghaerdydd oherwydd diffyg ohonyn nhw.)

Mae Conswliaeth Japaneaidd ar y 30ed llawr mewn nendwr (mae llawer ohonyn nhw fan na.) Roedd hi'n cymryd pum munud yr unig i dderbyn fy mhasbort. Ac wedyn, mi nes i gychwyn fy siwrnau adre. Fydd dim rhaid i mi neud hyn eto ymhen deg mlynedd o leia.

Mi ges i syndod dymunol ar yr awyren i Houston. Ro'n i'n ail-ddarllen un o nofelau T Llew Jones (Tân ar y Comin.) Mi glywes i'n sydyn, "Do you speak Welsh?" hyn oddi wrth y dyn eisteddodd yn fy ymyl. Roed ei deulu'n dwad o Dde Cymru ac mae o'n gwybod rhai geiriau Cymraeg er fod o ddim yn siarad o gwbl. Mae gynno fo CD Bryn Terfel hyd yn oed. Wel! Dydy peth felly ddim yn digwydd bob dydd lle dw i'n byw!

2 comments:

Linda said...

Yn falch o ddarllen fod pob dim wedi mynd yn iawn i ti emma.
Oes , mae 'na Gymry ymhob man!Ddaru ni gyfarfod cwpwl o Gymru tra ar ein gwyliau yn Jasper. 'Roedd fy ngwr yn cael sgwrs Gymraeg ar y ffôn mobile, wrth yml yr afon , a dyma 'na gwpwl yn dod i fyny ataf a dechrau siarad yn Gymraeg ! 'Roeddynt ar eu gwyliau yng Ngogledd America am y tro cyntaf erioed, ac wedi gwirioni efo harddwch y Rockies.
Wedyn , ar lan Lake Louise, gwelsom ferch efo ymbarel Ddraig Goch :)'Roedd hi wedi ei brynu yng Nghymru, ac wedi dotio ein bod wedi sylwi arni!

Emma Reese said...

Na brofiad gwych! Mi hoffwn i wedi siarad Cymraeg hefyd.