Monday, October 8, 2007

gwyl columbus

Gwyl Columbus ydy hi heddiw yn UDA. Ond dim ond y gweithiwyr cyhoeddus sy'n cael diwrnord i ffwrdd. Aeth plant i'r ysgolion fel arfer. Yr unig peth sy'n wahanol ydy bod dim post neu godi sbwriel heddiw. Mae gan UDA wyliau eraill felly.

Dw i wrth fy modd yn dysgu Catchphrase yn y dull newydd. Dw i'n hoffi Ann Jones mwy na'r lleill. Mae'r tiwtoriaid i gyd yn dysgu iaith y De, felly dw i'n newid rhai pethau fy hun, e.e. : Fe aeth e i'r sinema neithiwr. -- Mi aeth o i'r sinema neithiwr. Mae'r gwersi'n llawer o hwyl.

5 comments:

Robert Humphries said...

Ches i mo'r post heddiw, ond roedd rhaid i fi fynd 'r gwaith fel arfer! Yn ôl rhai o'm cydweithwyr sy'n dod o Efrog Newydd, mae heddiw mwy o wyl yno, gyda rhai'n cael y dydd oddiwrth eu gwaith.

Rhys Wynne said...

Gwyl Columbus hapus i chi gyd! Onid yw athrawon yn weithwyr cyhoeddus, neu ydi hyd yn oed addysg wedi ei breifateiddio yn UDA ;-)

Linda said...

Y siopau ar agor, a phob dim yn ôl fel yr arfer heddiw yn dilyn y Diolchgarwch.Dwi'n siwr ein bod wedi cael dau ddydd Sul ;)
Gwyl Columbus Hapus Emma !

Emma Reese said...

Diolch i chi, Robert a Rhys am eich sylwadau.

"Onid yw athrawon yn weithwyr cyhoeddus"

Ydyn, ond dydyn nhw ddim yn cael diwrnod i ffwrdd achos bod rhaid i'r plant fynd i'r ysgolion.

Emma Reese said...

Diolch i ti, Linda.
Gobeithio fod ti'n teimlo'n well heddiw.