Friday, October 12, 2007

mynd i houston

Bydd rhaid i mi fynd i Houston, Texas ddydd Iau nesa i gasglu fy mhasport newydd. Am ryw reswm neu gilydd dydy Conswliaeth Japaneaidd ddim yn ddanfon pasportau newydd atoch chi. Mi ddylech chi fynd amdanyn nhw yn bersonol, ond does ddim llawer ohonyn nhw (Conswliaeth Japaneaidd) yn UDA. Yr un yn Houston ydy'r agosa (500 milltir i ffwrdd.) Dw i'n bwriadu hedfan achos mod i ddim eisiau gyrru am hugain awr. Dw i ddim yn edrych ymlaen at y daith ond bydd gen i rywbeth i sgwennu amdano yn fy mlog o leia.

A phwy a wyr? Efallai bydda i'n eistedd wrth ochr Cymry Cymraeg ar yr awyren ar ddamwain (fel nes i ar y trĂȘn i Lundain o Gaerdydd yn yr haf ma.)

2 comments:

Linda said...

Ydi, mae hynny'n bell iawn i fynd am dy basport. Y lle agosaf i ni ydi Victoria [ tua tair awr o ddreifio], ond newydd gael un fi drwy'r post o Ottawa...dau fis o ddisgwyl ddim yn rhy ddrwg!
Oes siawns am sgwrs ar Skype cyn dy daith ?

Emma Reese said...

Biwrocratiaeth ydy hyn, mae'n rhaid. Mi faswn i'n falch o aros am flwyddyn tasen nhw'n danfon fy mhasport ata i.