Thursday, July 31, 2008

mae pres yn hedfan i ffwrdd

Mae amser wedi dwad atgywerio bron popeth tu mewn ac allan o'n ty ni. Dan ni newydd ddarganfod rhaid ail-beintio tu allan i'r ty cyn gynted â phosib neu bydd y prennau'n dechrau pydru cyn bo hir. Mi fydd hi'n costio tua $23,000. Ddoe gaethon ni dorri i lawr coeden wedi'i marw yn yr ardd eto ($450.)

Dw i isio ty maen efo to llechen (Cymreig os yn bosib.)

(Mae'n ddrwg gen i. Mi nes i sgwennu $23,000 ond $2,300 ydy y cost cywir!)

Wednesday, July 30, 2008

llyfrau

Wedi gorffen adrodd hanes y cwrs Cymraeg, dw i'n barod i wneud rhywbeth arall. Mi nes i archebu bedwar o lyfrau gan y Gwales ac maen nhw yma.

Beti Bwt gan Bet Jones: 
Mi ddechreues i ddarllen hwn yn barod. Mae o'n ddiddorol er bod o ddim cystal â storiau Begw. Dydy'r dafodiaith ddim yn anodd.

Tyllau gan Louis Sachar, addasiad gan Ioan Kidd:
Mae'r nofel wreiddiol yn ddifyr dros ben. Mae'r fersiwn Cymraeg yn edrych yn addawol hefyd.

Charlie a'r Ffatri Siocled gan Roald Dahl, cafieithiad gan Elin Meek:
Mi nes i brynu hwn i gymharu'r ddau fersiwn.

Un Noson Dywyll gan T.Llew Jones:
Mae unrhyw nofel ganno fo i fod yn dda.

Tuesday, July 29, 2008

cwrs cymraeg yn iowa, diwrnod olaf (20/7)


Rhaid popeth dod i ben, hyd yn oed cwrs Cymraeg.

Y rhaglen ola oedd gwasanaeth boreol ddydd Sul. Mi adawodd llawer o bobl bore cynnar i gychwyn eu teithiau hir. Mi naeth y gweddill ohonon ni ymgynnull mewn ystafell fach yn yr eglwys ar y campws a chanu emynau Cymraeg. Ar ôl pregeth ddwyieithog gan Deian, roedd yn amser dweud ffarwel. Tipyn trist oedden ni i gyd. Mi naethon ni dreulio'r holl wythnos efo'n gilydd wedi'r cwbl.

Diolch i Monna o Wisconsin naeth roi lift i Sarah a fi i'r maes awyr. Mi nes i gyrraedd adre am 12:30 a.m. yn ddiogel.

Roedd 'na dipyn o siom neu dau yn y cwrs ond ar y cyfan dw i'n falch a bodlon mod i'n cael mynd i gwrs Cymraeg Madog. Mi ges i brofiad cofiadwy.

Yn Alberta, Canada bydd y cwrs nesa. Ac yn 2010 mae Madog yn gobeithio mynd â fo i Gymru! (dim manylion eto) 

Diolch yn fawr i'r tiwtoriaid, aelodau'r bwrdd a'r holl dysgwyr.

Monday, July 28, 2008

cwrs cymraeg yn iowa, diwrnod 7 (19/7)




Gwledd, a Noson Lawen

Mi gaethon ni bryd o fwyd ardderchog yn y neuadd (ddim yn y ffreutur efo'r cannoedd o fechgyn): salad, cyw iâr, tatws, "green beans", bara a phwdin.

Yna, amser Noson Lawen! Roedd 'na sgitiau, offeryn cerddorol, adroddiad storiau, côr, ayyb. Mi naeth pob dosbarth berfformio sgit. 

Sarah naeth sgwennu'r sgript ddoniol i'n dosbarth ni. Dyma'r crynodeb:
Mae tiwtor Cymraeg, Geraint yn dod i America i ddysgu cwrs Cymraeg am y tro cynta erioed. Mae o'n meddwl bod pob Americanwr yn hoffi MacDonald's, rhaglenni reality, pêl fas a John Wayne. Ac mi gaeth ei synnu'n cyfarfod y rhai sy'n siarad Cymareg a bwyta'n iach....   Dw i'n meddwyl bod ni'n gwneud yn dda iawn, ac naethon ni i gyd hwyl!

Mi orffenon ni'r noson wrth canu Hen Wlad efo Côr Madog. Roedd yn noson lawen wir.

Sunday, July 27, 2008

cwrs cymraeg yn iowa, diwrnod 6 (18/7)



Yr Eisteddfod! 

Uchafwynt y cwrs oedd hi. Mi ddaeth Gorsedd y Beirdd i mewn i'r neuadd mewn gwisgoedd gwynion (dyma i chdi Asuka ^^)  yn urddasol (y tiwtoriaid mewn dillad gwely a thyweli a dweud y gwir!)

Mi geith yr enillydd lefelau 6 a 7 y Gadair tua droedfedd gafodd ei gwenud yng Nghymru ar gyfer yr achlysur arbennig. Dydy o/hi ddim cael ei chadw ond flwyddyn tan yr Eisteddfod nesa. Mi geith ei enw/henw ei ysgythru ar y cefn. Anrhydedd fawr beth bynnag.

Darllenodd Deian y beirniadaethau ac aeth yr enillwyr lefelau eraill i'r llwyfan i dderbyn eu gwobrau. 

Yna, daeth y stafell yn dywyll. Llefarwyd enw enillydd y Gadair. "Hebog!"  Mi gaeth golau'r torts hyd i Hebog oedd ar ei thraed, ac fe'i hebrwngwyd i'r llwyfan gan ddau o Orsedd y Beirdd.

Ginny o Colorado naeth ennill y Gadair. Llongyfarchiadau. Mi gewch chi ddarllen ei darn ar ei blog

Saturday, July 26, 2008

cwrs cymraeg yn iowa, diwrnod 5 (17/7)



Mi naeth Geraint ofyn i'r dosbarth gyflwyno taleithiau maen nhw'n byw ynddyn nhw. Reodd gan bawb lawer i'w ddweud ond does dim byd yn Oklahoma ar wahân i dornados. Mi ges i syniad pan ffonies i'r gwr. Mae gan Oklahoma peth gorau yn y byd sef gwasanaeth optometreg. Mae cyfraith Oklahoma yn caniatau ei doctoriaid optometreg gwneud llawer mwy na'r lleill gan gynnwys llawtriniaeth laser.  Rôn i braidd yn nerfus ond aeth popeth yn iawn. (Mi  nes i orffen cyn amser cinio o leia!)

Mi es i i wahanol weithdai bob p'nawn. Fy ffefryn oedd un dysgwyd gan Marta Diaz o Indianapolis. Dysgon ni "Cadair Tregaron" gan J.J.Williams. Roedd tafodiaith Sir Morgannwg yn eitha anodd heb sôn am y ffurf lenyddol, ond mi nes i fwynhau'r wers.

Noson ffim oedd hi. Solomon a Gaenor oedd y dewis. Dôn i ddim yn hoffi'r ffim o gwbl. Mae cymeriad Solomon yn ofnadwy. Na i byth isio ei gweld hi eto.

lluniau: Sarah wrthi'n cyflwyno California (mae ei llygaid ar gau eto!)
              Marta Diaz

Friday, July 25, 2008

cwrs cymraeg yn iowa, diwrnod 4 (16/7)

Roedden ni'n gwneud pethau eraill ar wahân i "gwrando a deall" bob dydd: llenwi blychau, cywiro gwallau, dysgu pwyntiau gramadegol. "Pwysleisio," "ydy/yw neu mae," "a neu y/yr" oedd rhai ohonyn nhw oedd yn arbennig o ddefnyddiol.
Mi aeth llawer o'r bobl ar wibdaith i weld "covered bridges" a lle geni John Wayne yn y p'nawn. Doedd gen i ddim diddordeb ynddyn nhw. Felly nes i aros i olchi'r dillad a sgwennu negesau e-bost at ffrindiau. 
Gad i mi sôn am un neu ddau o'r bobl nes i gyfarfod efo nhw ar y cwrs:
Rebecca: merch anhygoel - Dydy dallineb ddim ei hatal hi rhag cyflawni popeth mae hi isio i'w wneud, sef coginio, dawnsio, teithio heb sôn am ddysgu Cymraeg yn rhugl. Efo'i ghyfrifiadur bach arbenning, mae hi'n medru darllen cyn gyflymed â'r bobl eraill. Mae hi'n dysgu'r deillion yn Canada.
Tom: dyn annwyl sy'n 90 oed - Mae o wedi mynychu pob cwrs Cymraeg ond un ers 30 blynedd. 
Deian ac Annette Evans (tiwtoriaid) : Gweinidog yn Tronto ydy Deian. Siriol, doniol a llawn o egni, roedd o'n arwain côr Madog. Mae o a'i wraig yn dwad o'r gogledd yn wreiddiol. Roedd yn hyfryd clywed Annette'n siarad efo'i hacen ogleddol. Mi naeth hi fy atogoffa i o Linda.

Thursday, July 24, 2008

cwrs cymraeg yn iowa, diwrnod 3 (15/7)



Bwyd oedd un o'r pethau roedd pawb yn edrych ymlaen ato bob dydd. Mi gaethon ni fwyta yn ffreutur y brifysgol tairgwaith y dydd. Roedd 'na ddigon o ddewis i mi fwyta cyn iached â phosib. Mi gaeth Chris Reynolds o Abertawe "corndog" am y tro cynta erioed!

Roedd cannoedd o chwaraewyr pêl-fasged yn aros yn y llety hefyd ac unwaith rôn i'n hwyr i gyrraedd y ffreutur am ginio. Gwae fi, doedd 'na ddim bwyd ar ôl bron!

Mi naethon ni wrando ar CD arall, araith gan Ddirprwy Archdderwydd yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1982. Soniodd Geraint am hanes Cilmeri. Er mod i'n gyfarwydd â'r digwyddiad, roedd yn braf ei glywed eto yn Gymraeg. 

lluniau : tostydd enfawr
               Chris Reynolds (un o'r tiwtoriaid)

Wednesday, July 23, 2008

cwrs cymraeg yn iowa, diwrnod 2 (14/7) rhan 2



Sarah Castell Tawod, wrth gwrs! Rôn i'n gwybod bod hi'n dwad i'r cwrs hefyd ond dôn i ddim yn disgwyl gweld hogan fach ifanc ynddi hi. Roedd yn braf cael cyfarfod efo hi wyneb yn wyneb. Roedd hi'n gweithio'n galed fel un o aelodau y bwrdd yn ogystal â dysgwraig yn Nosbarth Saith.

Roedd 'na amser "tiwtor ar gael" ar ôl swper bob dydd. Mi es i i ofyn cwestiwn ynglyn y fannod oedd yn fy nrysu ers blynyddoedd. Hefina Phillips o Canada oedd yno. Mae h'n diwtor ardderchog arall. Mi naeth hi esbonio am hyn yn dda. Dw i'n dallt yn llawer gwell sut mae'r fannod yn gweithio bellach.

Yna, Twmpas dawns! Mi ges i lawer o hwyl dawnsio gwerin am y tro cynta am dros awr. Weithiau naethon ni gamu ar droed y person nesa ond mwynhau'n hun yn fawr roedden ni i gyd. Ymarfer corf gwych oedd hi hefyd. Roedd fy mhengliniau'n brifo tipyn wedyn ond doedd dim ots!

Tuesday, July 22, 2008

cwrs cymraeg yn iowa, diwrnod 2 (14/7)



Ar ôl dosbarth ar y cyd, mi es i i Ddosbarth Chwech. Er bod Mark Stonelake yn diwtor gwych, mi nes i benderfynu symud i Ddosbarth Saith achos bod gwersi Dosbarth Chwech yn ymdangos braidd yn sylfaenol.

Roedd 'na naw dysgwr yno gan gynnwys fi fy hun ac roedd tri ohonyn nhw'n dwad o Canada. Yn hollol Gymraeg roedd y dosbarth, ac doedd dim rhaid eu rhybuddio nhw peidio siarad Saesneg. Roedd pawb yn fwy na awyddus siarad Cymraeg cymaint ag y bo modd trwy'r dydd.

Geraint Wilson-Price oedd ein tiwtor ni. Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion yng Ngwent ydy Geraint. Mae o'n gwybod sut i esbonio pethau gramadegol cymhleth, ac mae o'n ddoniol. Tiwtor ardderchog ydy o (er fod o'n hwntw.)

Y peth cynta wnaethon ni oedd "gwrando a deall" gan ddefnyddio rhaglenni Radio Cymru. Roedd yn andros o anodd dallt beth mae'r bobl yn siarad amdano yn enwedig Bethan Gwanas. 

Yn ystod y diwrnod cynta, ces i fy nharo mod i'n nabod un o'r dysgwyr 'na.

Monday, July 21, 2008

cwrs cymraeg yn iowa, diwrnod 1 (13/7)




Ar ôl wythnos lawn o ddysgu Cymraeg yn y cwrs yn Indianola Iowa, mi ddes i'n ôl yn ddiogel y bore ma (12:30.) Hoffwn i adrodd y hanes tipyn am y tro.

Cyrhaeddes i Simpson College yn Indianola yn y p'nawn. Mae'r coleg yn y dre fach daclus ac mae'r coleg ei hun mor bert efo blodau a coed mawr ym mhob man.  Rôn i'n falch o weld stafell sengl glyd wedi'i threfnu drosta i yn y neuadd.

Mi ges i swper efo'r dysgwyr eraill yn y ffreutur. Yna roedd 'na gyfarfod cynta i gyfarch ein gilydd. Wrth gwrs roedd rhaid ei orffen gan ganu Hen Wlad.

Saturday, July 12, 2008

dw i'n mynd!

i Iowa yfory! Dw i wedi pacio a threfnu pethau yn y ty. Mae 'na 54 o bobl yn y cwrs. Mi na i adrodd y hanes ar ôl dwad adre. Hwyl am y tro felly.


Friday, July 11, 2008

mwy o fwyd


Mae'n ddrwg gen i, Corndolly ond dyma lun bwyd eto. Ond fedri di ddim bwyta'r rhain achos mai cwyr ydyn nhw. Mae gan nifer o dei bwyta yn Japan yn gosod samplau cwyr wrth y drws blaen. Mi gewch chi benderfynu beth i'w fwyta cyn mynd i mewn, neu beidio mynd i mewn. Maen nhw'n edrych yn fwyd go iawn.

Thursday, July 10, 2008

dim ond meddwl dw i

Mae gan y gwr ffrind sy'n athro optometreg yn Japan. Mi nes i glywed heddiw fod o wedi bod yng Nghaerdydd o'r blaen yn ymweld ag Adran Optometreg ym Mhrifysgol Caerdydd (yr unig adran optometreg yng Nghymru.) Mi gaeth o sioc clywed y bobl na'n siarad iaith arall a gweld arwyddion dwyieithog!
Gyda llaw oes unrhywun yn gwybod ydy Prifysgol Caerdydd isio athro optometreg arall?

Wednesday, July 9, 2008

bertha

Mae hi'n mynd. Ac dw i'n falch. Un nerthol oedd hi (neu o) ond mae hi wedi colli ei nerth bellach fel does 'na ddim rhaid ei hofni. Faswn i ddim isio ei chyfarfod hi ar ffordd i Iowa.

Corwynt gynta yn y tymor 'ma ydy o.  Gobeithio na cheith o ei ddilyn gan Edward neu Jane.

Tuesday, July 8, 2008

porther y gwesty


Dyma borther y gwesty mae'r gwr yn aros yn Nagoya ynddo ar hyn o bryd. Dw i'n meddwl bod hi'n rhy fach i gludo bagiau trwm.

Mae gynno fo fwy o waith i'w wneud yn Japan ond mi neith y mab ddwad adre nos fory ar ei ben ei hun wedi treulio ychydig o ddyddiau efo fy mam.

Monday, July 7, 2008

copa'r mynydd

Dyma'r blog newydd gan Corndolly, fy ffrind yng Nghymru. Mae gynni hi amser i sgwennu ei blog ei hun o'r diwedd wedi gorffen nifer mawr o arholiadau y coleg lleol. Dysgwraig awyddus ydy hi. Gobeithio gwnewch chi ymweld â'r blog yn aml. 

Gyda llaw, mi naethon ni ddechrau dysgu Cymraeg bum mlynedd yn ôl hyd yn oed yn yr un mis heb sylweddoli!

Sunday, July 6, 2008

dim ond wythnos

nes i mi fynd i Iowa. Mae gen i fwy o fanylion bellach (map y coleg ayyb.) Mi fydd hi'n costio tua 40 o ddoleri mewn tasi o faes awyr Des Moines i Goleg Simpson lle bydd y cwrs yn cael ei gynnal. Mae 'na ddysgwr neith gyrraedd y maes ar yr un amser â fi bron, felly dan ni'n mynd i rannu tacsi. Mi na i wisgo fy het lwcus fel y medrith o fy adnabod i.

Saturday, July 5, 2008

tri swper


Mae'r gwr yn Fukuoka yn Ne Japan yn mynychu cynhadledd ar y hyn o bryd. Mae pobl y cwmni isio gwneud yn siwr fod o ddim yn llwgu. Felly ar ôl rhoi iddo pecyn bwyd arbennig (gweler y llun,) mi aethon nhw â fo i dyˆ bwyta ac yna i stondin bwyd enwog yn yr ardal na. Mi orffenyn nhw y trydydd swper am un o'r gloch yn y bore!

Friday, July 4, 2008

heddiw


Penblwydd hapus i America! Mae gynni hi lawer o broblemau. Ac eto dw i'n falch cael byw ynddi hi.

Thursday, July 3, 2008

ty bwyta gorau yn japan


Neu un o'r gorau ydy ty bwyta fy mrawd, mae'n siwr er mod i heb fynd i bob ty bwyta yn Japan. Mae o'n arbennigo mewn cyw iar ond yn coginio pethau eraill hefyd. Mae o'n rhedeg y siop ers dros 30 mlynedd wedi gweithio fel cogydd i lysgennad Japan yn Seland Newydd. O, mae ei fwyd yn dda!

Mi naeth fy mab flasu rhai prydau o fwyd yno. Dyma un ohonyn nhw, sef peli cig cyw iar efo saws soia.

Tuesday, July 1, 2008

gwneud gorchuddion


Dw i wrthi'n gwneud gorchuddion stolau yn y gegin. Mae'r hen stolau'n edrych braidd yn drist yn ddiweddar ond dydy Wal-Mart ddim yn gwerthu gorchuddion. Ella bod well gynnyn nhw werthu stolau newydd yn hytrach na gorchuddion. Felly mae'r peiriant gwnio wedi bod yn brysur unwaith eto. Mae'r stôl yn edrych fel un newydd efo gorchudd newydd.