Wednesday, June 30, 2010

cymru 2010 - i'r bala




Roeddwn i'n bwriadu aros gyda ffrind yn y Bala yn ystod fy wythnos olaf yn wreiddiol, ond roedd rhaid newid y cynllun y munud olaf. Yn y diwedd, penderfynais i aros un noson yn Rhydydefaid yn Frongoch ger y Bala er mwyn gweld Olwen, perchennog y llety, unwaith eto.

Gyda thocyn coch yn fy llaw, cychwynnais i ar fy siwrnai bws hir o Lanberis i'r Bala drwy Gaernarfon a Dolgellau.

Mae tref Ddolgellau'n llawn o adeiladau carreg deniadol gyda strydoedd culion yn mynd i bob cyfeiriad dychmygol. Gwelais i ffim am hanes y Crynwyr yn y Ganolfan Groeso tra oeddwn i'n aros am y bws nesa.

Ruthrodd y bws tuag at y Bala drwy Lanuwchllyn yn pasio cerflun O.M. Edwards a'i fab, yna, ar hyd Llyn Tegid. Roedd gen i ddigon o amser cyn mynd i'r llety. Roedd rhaid i mi gael gweld un lle yn benodol: cae'r Eisteddfod.

Tuesday, June 29, 2010

cymru 2010 - capel coch a swper




Penderfynais i fynd i Gapel Coch yn Llanberis eto yn hytrach na mynd i un newydd. A dw i'n falch; gwelais i sawl wyneb cyfarwydd oedd fy nghofio a ches i groeso cynnes. Ar ôl y gwasanaeth, daeth yr organydd ata i. Pwy oedd hi ond gwraig John Pritchard. Gwahodd hi fi i swper. Roedd hi'n dysgu ysgol Sul y plant hefyd, a dyma ymuno â nhw.

Treuliais i'r pnawn yn cael picnic wrth y llyn a cherdded o gwmpas y dref. Yna, i dŷ John sy'n agos iawn i fy llety. Roedden nhw mor groesawgar a chyfeillgar; ces i noson fendigedig yn siarad am bethau amrywiol gyda nhw. Clywais i am y tro cyntaf fod yna genhadwr o Ynys Môn oedd yn efengylu yn Japan flynyddoedd yn ôl.

Fel dwedais i, mae pawb yn nabod pawb rhywsut neu'i gilydd yn y byd Cymry Cymraeg. Dyma enghraifft arall i gadarnhau hyn; nabod Linda o Ganada mae gwraig John.

Monday, June 28, 2010

cymru 2010 - gwers japanaeg sydyn




Dwedodd Dawn, rheolwraig newydd Cae'r Gors fod ei phlant eisiau fy nghyfarfod. Maen nhw'n ymddiddori yn Japan a'i hiaith drwy 'animes' Japaneaidd ers amser; roedden nhw'n awyddus i gyfarfod rhywun o'w hoff wlad am y tro cyntaf.

Trefnon ni'n cyfarfod yn Llanberis a chael sgwrs dros ginio. Roedden nhw mor hoffus ac yn frwd dros Japan; mae'r ddau hyn am fynd draw rywdro hyd yn oed. A dyma roi gwers Japanaeg sydyn iddin nhw. Ces i fy synnu'n clywed eu hynganiad; roedden nhw'n arbennig o dda, a nhwthau heb gael gwers na siarad Japanaeg â neb o'r blaen. Dim ond gwylio 'animes' yn Japanaeg gydag is-deitlau maen nhw.

Cawson ni hufen iâ enwog o Georgio's wedyn; mango sinsir ges i oedd yn hynod o flasus. Roedd yna lawer o bobl wrth y llyn (rhai yn y llyn) yn mwynhau'r diwrnod braf arall.

y trydydd llun gan ferch hynaf Dawn

Sunday, June 27, 2010

cymru 2010 - taith gerdded




Ymuno â thaith gerdded yn yr ardal oedd fy mhrif amcan i fynd i Lanberis unwaith eto. Gareth Roberts sy'n trefnu teithiau felly i annog pobl i gadw'n heini.

Roeddwn i'n disgwyl criw o gerddwyr, ond fel mae'n digwydd, gan fy mod i wedi cyrraedd yn rhy gynnar i'w daith gyntaf y tymor, dim ond fi gerddodd gyda fo; diolch o galon i Gareth. Penderfynon ni gerdded o gwmpas Llyn Padarn. Roedd y tywydd yn braf; yr ardal mor brydferth; ei gwmni mor ddifyr a phleserus; ei wybodaeth am yr ardal mor eang a thrylwyr. Doedd ryfedd yn y byd fy mod i'n cael amser eithriadol o dda.

Mae o'n trefnu taith hir (3,500 milltir) yn Alaska yn 2011 i godi arian at 'British Heart Foundation.' Pob dymuniad gorau iddo.

y llun cyntaf: o flaen siop Joe Brown

Saturday, June 26, 2010

cymru 2010 - symud i lanberis




Wedi cael amser gwych yng Nghricieth, daeth amser i mi symud i Lanberis. Mwynheais i fy ail wythnos dros ben, yn enwedig yn dod i nabod Iola a chael ei chwmni'r wythnos gyfan.

Roedd mynyddoedd yr Eryri a Llyn Padarn fy nisgwyl wrthi i mi nesáu at Lanberis. Ym Marteg, y gwely a brecwast byddwn i'n aros yn ystod fy wythnos olaf yng Nghymru. Roedd yn braf gweld Carol a Martin unwaith eto. Cafodd eu tŷ ei ddifrodi'n wael gan rew yn y gaeaf; roedd rhaid iddyn nhw ei atgyweirio'n llwyr.

Clywais i fyddai côr yn perfformio yng Ngwesty Victoria'r noson honno. Dyma gychwyn tua naw o'r gloch i'r gwesty er fy mod i braidd yn flinedig ar ôl y diwrnod yn yr haul. Ches i mo fy siomi fodd bynnag; canodd Côr Meibion Dyffryn Nantlle'n swynol dros awr tra oedd un o'r aelodau'n difyrru'r gynulleidfa cyn cyflwyno pob can. Mae rhaid gorffen pob cyfarfod pwysig gyda Hen Wlad. Ac felly fu.

y trydydd llun: fy mrecwast

Friday, June 25, 2010

cymru 2010 - cricieth




Roedd gen i ddiwrnod cyfan cyn symud i'r gwely a brecwast yn Llanberis; gadawais i fy nghês yn swyddfa Iola yng Nghaernarfon a dal y bws i Gricieth.

Roedd hi'n boeth! Doedd hi ddim mor boeth yn Oklahoma pan adawais yno. Yn edrych i lawr yr holl bobl oedd yn cymryd mantais ar y tywydd braf ar y traeth, safai Castell Cricieth yn urddasol ar ben y bryn. Mwynheais i'r golygfeydd panoramig oddi arno fo.

Wedi mynd o gwmpas y dref a chael cinio sydyn mewn caffi wrth y traeth, penderfynais i alw heibio i deulu dw i'n eu nabod drwy'r we; Ben Thomas a'i deulu. Symudon nhw o Lundain i Gricieth er mwyn i Ben weithio fel gweinidog yr eglwys efengylaidd. Cafodd eu hanes eu darlledu yn y rhaglen, o Flaen dy Lygaid y llynedd. Cewch chi gip arni hi ar wefan Eglwys Heath. Roedd y teulu i gyd mor groesawgar a ches i bnawn hyfryd gyda nhw. Diolch i'r ferch hynaf bump oed ddarllenodd llyfr i mi. Mae hi'n medru darllen yn dda iawn.

Thursday, June 24, 2010

cymru 2010 - crwydro yn y dref




Roeddwn i'n crwydro yn Nhref Caernarfon hefyd.

Clywais i fod yna le bach uchel o'r enw Twthill; gallwch chi weld golygfeydd panoramig oddi ar ei ben, a dyma gerdded i fyny un bore braf. Ches i mo fy siomi; gwelais i o'r Menai i fynyddoedd yr Eryri'n disgleirio yn yr haul o fy nghwmpas i.

Es i ddim i mewn i'r castell ond cael te gyda thaten bob a chaws ar y Maes. Gofynnais i ddyn meddylgar oedd yn eistedd wrth fwrdd agos dynnu llun ohona i. Ces i sioc yn ei weld eto yng Nghae'r Gors diwrnod wedyn; Dewi Tomos, Cadeirydd Cyfeillion oedd o!

Un tro, es i â fy nillad i 'laundrette.' Roedd rhaid gofyn i bedwar, un ar ôl y llall, cyn ffeindio'r siop fach ddi-nod. Glên iawn oedd pawb; braf cael sgyrsiau sydyn gyda'r bobl leol hefyd.

Wednesday, June 23, 2010

cymru 2010 - diwrnod ar fferm




Aeth Iola â fi i weld ei theulu sy'n ffermio ddim yn bell o Gorwen. Trwy Lanberis, Betws-y-Coed ac ardaloedd eraill hardd gyrron ni.

Cawson ni'n tywys ar eu fferm gan dair o'r plant. Roedd hi mor braf yn cerdded ar y cae a'r llwybrau cul oedd yn llawn o flodau del. Dyma'r plant yn dechrau chwarae yn y nant a thaflu cerrig o dan bont Rhufeiniaid. Cawson ni de gwych hefyd. Ces i fy synnu'n gweld bod y plant i gyd yn yfed te go iawn (gyda digon o lefrith.)

Pan drodd ein sgwrs i'r gwahaniaethau rhwng yr ysgolion Prydeinig a'r rhai Americanaidd, daethon ni'n gwybod bod plant Prydain yn mynd i'r ysgol mwy o ddiwrnodau'r flwyddyn na eu cymheiriaid yn America; dyma'r plant yn gweiddi yn erbyn yr annhegwch! Ond wedi cymharu'n bellach, daeth yn amlwg bod nhw'n cychwyn diwrnod yn hwyrach na'r lleill. A dyna ddiwedd yr anghydfod.

Diwrnod braf arall gyda chwmni mor glên a chroesawgar.


Tuesday, June 22, 2010

cymru 2010 - capel a'r lôn wen




I Gapel Tan y Coed yn Llanrug es i gydag Iola. Roedd yn fendigedig cyd-addoli Duw gyda'r gynulleidfa glên. John Pritchard sy'n bugeilio sawl capel yn yr ardal bregethodd yn y bore. Fel mae'n digwydd, roedd o wedi clywed amdana i drwy ffrind cyffredin i ni; dw i wedi hen stopio cael fy synnu bod pawb yn nabod pawb bron yn y byd Cymry Cymraeg.

Ces i fy ngwahodd ynghyd ag Iola i swper gan gwpl o'r gynulleidfa wedi'r cwrdd gweddi. Cawson ni noson braf arall dros bryd o fwyd blasus. Yr unig anhawster oedd dewis pa hufen iâ i'w gael i bwdin ymysg hanner dwsin o flasau!

Ar ôl eu gadael, aeth Iola â fi i weld y Lôn Wen yn Rhosgadfan. Roedd hi'n amlwg yn yr hanner tywyllwch; roedd y lôn yn wyn!

Monday, June 21, 2010

cymru 2010 - dinas dinlle

Es i ddim i Ddinas Dinlle. Does gen i ddim lluniau felly.

Ces i lifft gan Iola i Gae'r Gors y diwrnod cyntaf; roeddwn i'n bwriadu dal y bws yn ôl. Ar ôl gorffen fy ngwaith, penderfynais i gerdded tuag at y brif ffordd yn hytrach na aros am y bws o flaen y ganolfan am awr. Cerddais i am ddwy filltir yn y glaw ati hi a throi i'r chwith wrth feddwl mai dyna'r cyfeiriad i Gaernarfon; gyrrodd Iola ar ffordd uniongyrchol, cofiwch. Doeddwn i ddim yn sylweddoli fy mod i'n anelu at Borthmadog nes i'r gyrrwr bws dynnu fy sylw at fy nghamgymeriad. Erbyn i mi gyrraedd Caernarfon ar y bws iawn, roeddwn i wedi blino'n lân fel na fyddwn i eisiau chwilio am Lôn Eifion na cherdded arni'n ôl i'w thŷ.

Welais i dacsi'n aros ar y Maes. Doeddwn i ddim yn cofio cyfeiriad llawn Iola ond Dinas Dinlle. Cychwynnon ni. Aeth y tacsi ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Dechreuais i deimlo'n anesmwyth; doeddwn i ddim yn meddwl bod y tŷ mor bell â hynny. Yna, welais i'r môr. Ac roeddwn i'n gwybod fy mod i wedi rhoi cyfeiriad anghywir. Yn ffodus, roedd y gyrrwr yn nabod y lle'n iawn a llwyddodd i ffeindio'r tŷ drwy fy nisgrifiadau.

Gofynnodd o ond am bris o Gaernarfon i Ddinas Dinlle, chwarae teg iddo. Ond roedd fy llawenydd a gollyngdod yn cyrraedd y lle iawn mor fawr fel y rhoiais ddeg punt yn gil-dwrn.

Dinas Dinlle? Dim ond sôn amdani oedd Iola!

Sunday, June 20, 2010

cymru 2010 - cae'r gors




Tra oeddwn i'n aros gydag Iola, ces i gyfle i wirfoddoli yng Nghae'r Gors yn Rhosgadfan am bedwar diwrnod. Dw i'n ddiolchgar i bawb am groesawu rhywun fel fi sy heb gael hyfforddiant swyddogol. Roedd rhaid dysgu sut i weithio'r til (eto!) a'r ffilm yn y fan a'r lle.

Bnawn dydd Sul, pwy ddaeth ond Megan Williams, nith Kate Roberts, agorodd y ganolfan yn swyddogol yn 2007, a'i theulu. Y hi sy'n siarad yn y ffilm sy'n cyflwyno bywyd Kate Roberts hefyd.

Roedd yn fraint cael "gwirfoddoli" yn y ganolfan a dod yn nabod y staff a rhai o wirfoddolwyr. Maen nhw wrthi'n paratioi gweithgareddau amrywiol i'r ysgolion ac i'r cyhoedd trwy'r amser. Dymuniadau gorau iddyn nhw.

Roeddwn i wedi meistroli gwneud te!


Saturday, June 19, 2010

cymru 2010 - y glaw cyntaf



Er fy mod i ac Iola'n nabod ein gilydd trwy'r we ond am wythnosau, dechreuon ni gyd-dynnu o'r cyfarfod cyntaf un; mwynheais i sgwrsio, gwneud y gwaith tŷ ac ymweld â'i ffrindiau gyda hi. Roedd hefyd yn braf cerdded ar Lôn Eifion ar hyd Rheilffordd Ucheldir Cymru rhwng ei thŷ a Chaernarfon bron bob dydd.

Cawson ni dywydd arbennig o braf tra oeddwn i ym Mhorthaethwy. Ond rhaid cael glaw weithiau hyd yn oed yng Nghymru. Felly, fe ddaeth - un trwm - nos Wener - pan aeth mab Iola i wersyllu gyda'i ffrindiau er mwyn i mi a'i fam gael noson ddistaw. Daeth y criw gwlyb adref y bore wedyn ond mewn ysbryd da. Hwylus iawn ydy stof AGA Iola'n sychu popeth.

Friday, June 18, 2010

cymru 2010 - dawnsio salsa




Aeth yr wythnos heibio fel gwynt, a daeth yr amser i ffarwelio â Cathrin. Roedd yn hyfryd cael aros gyda hi a dod i'w nabod. Mae hi mor weithgar a chroesawgar. Dw i wedi dysgu gwers bwysig gynni hi.

Un glên arall gynigodd llety i mi oedd Iola. Yn hytrach na mynd i'w thŷ ger Caernarfon, trefnon ni'n cyfarfod yn y Galeri. Mae hi'n mynd i ddosbarth Salsa bob nos Gwener yno. Dw i erioed wedi dawnsio Salsa ond gan fy mod i wrth fy modd gyda dawnsio llinell a gwerin, penderfynais i ymuno â'r dosbarth.

Bill, Gwyddel oedd y tiwtor. Doedd fawr o olwg tiwtor dawnsio Salsa arno fo a dweud y gwir, ond ces i fy synnu'n gweld o'n dawnsio'n ystwyth ac egnïol o un ochr i'r llall dros awr! Roeddwn i'n anobeithiol dawnsio gyda phartner ond mwynheais i ddawnsio llinell yn fawr.

Thursday, June 17, 2010

cymru 2010 - bangor, dyffryn ogwen




Wedi helpu gyda Cathrin Ti a Fi yn ei heglwys ym Mangor, treuliais i'r pnawn gyda Nia.

Yn gyntaf, es i i'w dosbarth Cymraeg. Roedd yn llawer o hwyl i gyfarfod y dosbarth ac ymuno â nhw'n chwarae gêm. Peth braf ydy cael clywed tiwtor yn siarad Cymraeg a'ch helpu i ddysgu!

Wedi fy nghyflwyno i staff ffeind Canolfan Bedwyr, aeth Nia â fi i Ddyffryn Ogwen drwy Fethesda. Cerddon ni i fyny (!) i Lyn Idwal mewn awyrgylch go rhyfeddol. Roedd bron neb o gwmpas; mor agos aton ni oedd y mynyddoedd tywyll a hithau'n heulog ac yn oer. Daethon ni'n ôl ar y lôn bost ar hyd Nant Ffrancon y tro hwn.

Yna, cawson ni ynghyd â Sara swper gwych ('quiche' tiwna ac eirin brandi i bwdin) goginiwyd gan Nia. Roedd yr eirin mor flasus fel bod Sara a fi'n gorffen pob tamaid yn awchus. A dyma Dewi'n cerdded i mewn yn annisgwyl. Dechreuodd o sgwrsio'n gyfeillgar ac yntau heb gael swper wedi diwrnod hir. Roedd yn rhyfeddol siarad â fo, ac eto mae gynno fo ffordd arbennig i wneud i chi deimlo'n esmwyth.

Diwrnod hyfryd arall; mae'n ddrwg gen i, Dewi, fy mod i a Sara wedi bwyta'ch pwdin!




Wednesday, June 16, 2010

cymru 2010 - taith sydyn




Ces i fynd gyda Ceinwen i gludo llyfrau i ysgol fach yn Llanfachraeth. Wrth gyrraedd, des i'n gwybod mai Diwrnod Americanaidd oedd hi, hynny ydy bod y plant yn cael cig eidion o Texas i ginio!

Ar ôl cael gair gyda'r athrawes, ffwrdd â ni ar daith sydyn o gwmpas yr Ynys. Aeth Ceinwen â fi i Gaergybi, Llanddeusant (i weld Melin Llynnon,) Porth Llechog ac Amlwch (lle oedd Linda'n gweithio fel athrawes am flynyddoedd ynddo) cyn dod yn ôl i'r Borth. Roedd hi'n ddiwrnod braf arall, a mwynheais i'r daith yn fawr iawn.

Tuesday, June 15, 2010

cymru 2010 - awen menai




Un o'r pethau roeddwn i'n edrych ymlaen ato oedd helpu yn Awen Menai, siop lyfrau Cymraeg ym Mhorthaethwy. Mae Cathrin yn nabod perchennog y siop yn dda ac wedi trefnu i mi gael eu helpu tra oeddwn i'n aros gyda hi.

Roedd John a Ceinwen yn glên dros ben. Ces i ail-osod y nwyddau yn y ffenestr, tynnu llwch a gweithio'r til oedd yn her fawr i mi. Roedden nhw'n fy nghyflwyno i'w cwsmeriaid hefyd.

Cymry Cymraeg oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw wrth reswm. Unwaith roedd yna ddysgwr newydd ddaeth i nôl ei archeb, a chawson ni sgwrs fel mewn llyfr cwrs Cymraeg:
Ers faint dach chi'n dysgu Cymraeg? Lle dach chi'n byw? Dach chi'n mynd i ddosbarth?

Prynais i lyfrau hefyd:
Tonnau Tryweryn (Martin Davis)
Owain Glyn Dŵr (R.R. Davies) - adolygwyd y ddau lyfr gan Neil Jones
Hyd o Fyd, Deian a Loli (Kate Roberts)
Fy Mhobol i (T.Llew Jones)
Pobl Ddŵad (Bet Daveis)

Monday, June 14, 2010

cymru 2010 - cathrin




Cathrin ym Mhorthaethwy a gynigodd llety i mi'n hael am wythnos er mai ond drwy e-bost ysbeidiol dan ni'n nabod ein gilydd ers dwy flynedd. Roedd hi'n dysgu Cymraeg ym Mhatagonia am flwyddyn gron rhyw 20 mlynedd yn ôl. Mae hi'n nabod pawb yna gyda chysylltiadau Cymreig ynghyd â phob Cymro neu Gymraes sy'n mynd draw.

Coginiodd hi brydau o fwyd blasus nes i mi gael fy nifetha'n llwyr. Ces i ddiod unigryw o De America, sef Mate. Mae gynno fo flas diddorol, tipyn yn chwerw er mai ei ddull yfed sy'n unigryw i'r bobl sy ddim yn gyfarwydd â'r arfer. Dydy o ddim yn annhebyg i Sado, seremoni de yn Japan.



Sunday, June 13, 2010

cymru 2010 - porthaethwy




Tref fach hardd siriol hwylus ydy Porthaethwy. Mae bron popeth mewn cyrraedd ar droed. Roeddwn i wrth fy modd yn cerdded i wneud neges - i swyddfa'r post, Awen Menai, y fferyllfa a Waitrose newydd sbon. Cerddais i o dan ac ar Bont y Borth sawl tro bob dydd tra oeddwn i yno. Roedd yn anodd credu mod i'n cael cerdded ar y bont enwog roeddwn i ond yn edmygu o bellter.