Tuesday, June 15, 2010

cymru 2010 - awen menai




Un o'r pethau roeddwn i'n edrych ymlaen ato oedd helpu yn Awen Menai, siop lyfrau Cymraeg ym Mhorthaethwy. Mae Cathrin yn nabod perchennog y siop yn dda ac wedi trefnu i mi gael eu helpu tra oeddwn i'n aros gyda hi.

Roedd John a Ceinwen yn glên dros ben. Ces i ail-osod y nwyddau yn y ffenestr, tynnu llwch a gweithio'r til oedd yn her fawr i mi. Roedden nhw'n fy nghyflwyno i'w cwsmeriaid hefyd.

Cymry Cymraeg oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw wrth reswm. Unwaith roedd yna ddysgwr newydd ddaeth i nôl ei archeb, a chawson ni sgwrs fel mewn llyfr cwrs Cymraeg:
Ers faint dach chi'n dysgu Cymraeg? Lle dach chi'n byw? Dach chi'n mynd i ddosbarth?

Prynais i lyfrau hefyd:
Tonnau Tryweryn (Martin Davis)
Owain Glyn Dŵr (R.R. Davies) - adolygwyd y ddau lyfr gan Neil Jones
Hyd o Fyd, Deian a Loli (Kate Roberts)
Fy Mhobol i (T.Llew Jones)
Pobl Ddŵad (Bet Daveis)

4 comments:

neil wyn said...

Darllenais Tonnau Tryweryn cwpl o fisoedd yn ol, a wnes i wir ei fwynhau. Gobeithio wnei di hefyd:)

Peth dewr iawn oedd cynnig gweithio mewn siop lyfrau Cymraeg, ond da iawn am herio dy hun! tybed faint o ddysgwyr o Brydain fasai derbyn y fath her!

Emma Reese said...

Dw i heb ddechrau ar Donnau Tryweryn eto ond edrycha i ymlaen.

A dweud y gwir, fy ofn mwyaf oedd gweithio'r til! Roedd pawb mor glên ond rhaid cyfaddef mod i'n gobeithio na ddôi cwsmeriaid tra oeddwn i'n gwarchod y siop ar fy mhen fy hun pan aeth y perchennog am banad ^^;

Linda said...

Yn sylwi dy fod wedi defnyddio'r gair 'panad'. Mae dylanwad Sir Fôn arnat yn barod :)

Emma Reese said...

Dyna beth roeddwn i'n 'i glywed ym mhob man: Dach chi isio panad?