Thursday, June 17, 2010

cymru 2010 - bangor, dyffryn ogwen




Wedi helpu gyda Cathrin Ti a Fi yn ei heglwys ym Mangor, treuliais i'r pnawn gyda Nia.

Yn gyntaf, es i i'w dosbarth Cymraeg. Roedd yn llawer o hwyl i gyfarfod y dosbarth ac ymuno â nhw'n chwarae gêm. Peth braf ydy cael clywed tiwtor yn siarad Cymraeg a'ch helpu i ddysgu!

Wedi fy nghyflwyno i staff ffeind Canolfan Bedwyr, aeth Nia â fi i Ddyffryn Ogwen drwy Fethesda. Cerddon ni i fyny (!) i Lyn Idwal mewn awyrgylch go rhyfeddol. Roedd bron neb o gwmpas; mor agos aton ni oedd y mynyddoedd tywyll a hithau'n heulog ac yn oer. Daethon ni'n ôl ar y lôn bost ar hyd Nant Ffrancon y tro hwn.

Yna, cawson ni ynghyd â Sara swper gwych ('quiche' tiwna ac eirin brandi i bwdin) goginiwyd gan Nia. Roedd yr eirin mor flasus fel bod Sara a fi'n gorffen pob tamaid yn awchus. A dyma Dewi'n cerdded i mewn yn annisgwyl. Dechreuodd o sgwrsio'n gyfeillgar ac yntau heb gael swper wedi diwrnod hir. Roedd yn rhyfeddol siarad â fo, ac eto mae gynno fo ffordd arbennig i wneud i chi deimlo'n esmwyth.

Diwrnod hyfryd arall; mae'n ddrwg gen i, Dewi, fy mod i a Sara wedi bwyta'ch pwdin!




2 comments:

Corndolly said...

Dw i'n hoffi'r llun o'r Felin Llynnon. Dw i'n cofio mynd yno sawl blynedd yn ôl. Ar y pryd, roedd 'na rywun yn gwerthu nwyddau arbennig ar gyfer y croen a ballu a gafodd eu gwneud cartref. (made at home??) Ydyn nhw dal yno?

Emma Reese said...

Welais i neb tebyg er bod y siop yn llawn o nwyddau gan gynnwys blawd wedi'i malu gan y felin.