Friday, June 25, 2010

cymru 2010 - cricieth




Roedd gen i ddiwrnod cyfan cyn symud i'r gwely a brecwast yn Llanberis; gadawais i fy nghês yn swyddfa Iola yng Nghaernarfon a dal y bws i Gricieth.

Roedd hi'n boeth! Doedd hi ddim mor boeth yn Oklahoma pan adawais yno. Yn edrych i lawr yr holl bobl oedd yn cymryd mantais ar y tywydd braf ar y traeth, safai Castell Cricieth yn urddasol ar ben y bryn. Mwynheais i'r golygfeydd panoramig oddi arno fo.

Wedi mynd o gwmpas y dref a chael cinio sydyn mewn caffi wrth y traeth, penderfynais i alw heibio i deulu dw i'n eu nabod drwy'r we; Ben Thomas a'i deulu. Symudon nhw o Lundain i Gricieth er mwyn i Ben weithio fel gweinidog yr eglwys efengylaidd. Cafodd eu hanes eu darlledu yn y rhaglen, o Flaen dy Lygaid y llynedd. Cewch chi gip arni hi ar wefan Eglwys Heath. Roedd y teulu i gyd mor groesawgar a ches i bnawn hyfryd gyda nhw. Diolch i'r ferch hynaf bump oed ddarllenodd llyfr i mi. Mae hi'n medru darllen yn dda iawn.

2 comments:

Corndolly said...

Es i Gastell Cricieth pan es i ar y cwrs yn Nant Gwrtheyrn y llynedd. Ydy ! mae'r golygfeydd o'r copa yn fendigedig, yn enwedig ar ddiwrnod braf fel ces ti. Roedd yn boeth pan es i yno hefyd, felly dw i'n gwybod beth oeddet ti'n gweld o yna.

Emma Reese said...

Dw i'n cofio dy lun.