Saturday, June 26, 2010

cymru 2010 - symud i lanberis




Wedi cael amser gwych yng Nghricieth, daeth amser i mi symud i Lanberis. Mwynheais i fy ail wythnos dros ben, yn enwedig yn dod i nabod Iola a chael ei chwmni'r wythnos gyfan.

Roedd mynyddoedd yr Eryri a Llyn Padarn fy nisgwyl wrthi i mi nesáu at Lanberis. Ym Marteg, y gwely a brecwast byddwn i'n aros yn ystod fy wythnos olaf yng Nghymru. Roedd yn braf gweld Carol a Martin unwaith eto. Cafodd eu tŷ ei ddifrodi'n wael gan rew yn y gaeaf; roedd rhaid iddyn nhw ei atgyweirio'n llwyr.

Clywais i fyddai côr yn perfformio yng Ngwesty Victoria'r noson honno. Dyma gychwyn tua naw o'r gloch i'r gwesty er fy mod i braidd yn flinedig ar ôl y diwrnod yn yr haul. Ches i mo fy siomi fodd bynnag; canodd Côr Meibion Dyffryn Nantlle'n swynol dros awr tra oedd un o'r aelodau'n difyrru'r gynulleidfa cyn cyflwyno pob can. Mae rhaid gorffen pob cyfarfod pwysig gyda Hen Wlad. Ac felly fu.

y trydydd llun: fy mrecwast

2 comments:

Linda said...

Falch o ddarllen dy fod wedi cael gwrando ar gôr Cymraeg yn Llanberis. Mae'r brecwast yn edrych yn flasus iawn , a phlatiau Portmeirion i'w gweld ar y bwrdd. Neis !

Emma Reese said...

Do'n i ddim yn gwybod mai platiau Portmeirion oedden nhw! Ro'n i'n licio'r brecwast cymaint mod i'n paratoi ffa pob, wy a thost (i ginio) yn aml bellach.