Un o'r pleserau yn Japan ydy mynd i siopa. Mae yna siopau o bob math, mawr a bach ym mhob man. Mae'n hawdd treulio oriau'n mynd o siop i'r llall. Does gen i ddim diddordeb mewn dillad neu declynnau electronig serch hynny. Fy ffefrynau ydy:
Fferyllfeydd - cewch chi ffeindio siampŵ, elioedd, fitaminau, ayyb o bob math yn ogystal â meddyginiaethau.
Siopau 100 yen - mae yna nwyddau o ansawdd uchel a defnyddiol sy'n hollol wahanol i'r siopau doler pitw yma.
Siopau llyfrau - does angen esboniadau.
Becws (Be' ydy'r lluosog?) - mae'r bara yn Japan yn flasus dros ben.
llun: y canlyniad
Saturday, March 31, 2012
Friday, March 30, 2012
japan - tofu!
Thursday, March 29, 2012
japan - fan newydd
Roedd yn braf mynd i'r eglwys efo Mam a fy merch yn gweld y bobl annwyl unwaith eto. Fe wnes i a fy ngŵr briodi yno 30 mlynedd yn ôl (ddim yn yr un adeilad.) Maen nhw newydd brynu fan newydd efo sedd arbennig i bobl oedrannus ac anabledd. Roedd Mam wrth ei bodd yn cael lifft a phrofi'r sedd.
Wednesday, March 28, 2012
japan - cyrraedd
- Roeddwn i a fy merch wedi blino'n lân erbyn cyrraedd tŷ fy mam yn Machida, Tokyo. Cymerodd 26 awr i mi ers gadael adref yn Oklahoma. Roedd yn oer! Clywais i fod Japan yn cael gaeaf anarferol o oer eleni. Roedd yn braf fodd bynnag gweld fy mam ers dwy flynedd sydd wedi paratoi bwyd cynnes i ni. Aethon ni i'r gwely'n gynnar wedi cael bath Japaneaidd bendigedig.
Tuesday, March 27, 2012
japan - cychwyn
Wedi cael amser braf yn Japan, des i'n ôl yn ddiogel. Dyma gychwyn adrodd fy hanes.
Fel arfer bydd siwrnai i Japan yn ofnadwy o annifyr gan fydda i'n gorfod dioddef ar sedd gul mewn awyren dros 13 awr o Dallas i Tokyo ar fy mhen fy hun. Ond y tro hwn roedd hi'n llai poenus oherwydd fy mod i'n teithio efo cwmpeini. Dewisais i ffordd wahanol yn newid awyrennau yn Los Angeles a chyfarfod yno fy merch hynaf a gychwynnodd yn Oklahoma City. Mae maes awyr LA yn llawer llai a hen na'r disgwyl. Does sôn am sêr ffilm (sy'n defnyddio rhan arbennig y maes i osgoi'r dyrfa mae'n siŵr.)
llun: cinio yn awyren
Fel arfer bydd siwrnai i Japan yn ofnadwy o annifyr gan fydda i'n gorfod dioddef ar sedd gul mewn awyren dros 13 awr o Dallas i Tokyo ar fy mhen fy hun. Ond y tro hwn roedd hi'n llai poenus oherwydd fy mod i'n teithio efo cwmpeini. Dewisais i ffordd wahanol yn newid awyrennau yn Los Angeles a chyfarfod yno fy merch hynaf a gychwynnodd yn Oklahoma City. Mae maes awyr LA yn llawer llai a hen na'r disgwyl. Does sôn am sêr ffilm (sy'n defnyddio rhan arbennig y maes i osgoi'r dyrfa mae'n siŵr.)
llun: cinio yn awyren
Wednesday, March 14, 2012
siwrnai fer
Dw i'n mynd i Japan. Mi adawa' i fore fory (am 4:30 yn fod yn benodol!) Bydd gen i gwmpeini'r tro 'ma sef fy merch hynaf. Byddwn ni'n aros efo fy mam yn Tokyo am deg diwrnod. Dw i a fy merch wedi bod yn cynllunio'n arw. Byddwn ni'n mynd â fy mam sydd bron yn 90 i Atami am noson. O'r diwedd dw i'n cael mynd i onsen (hot spring) am y tro cyntaf ers i mi adael Japan dros 20 mlynedd yn ôl! Dyma'r gwesty neis a rhad byddwn ni'n aros ynddo. Yna byddwn ni (fi a fy merch) yn ymweld â Phalas Ymerodrol, mynd ar gwch ar Afon Sumida, cael swper efo awdur Tokyobling yn nhŷ bwyta fy mrawd, mynd i siopa, gweld ffrindiau, ac yn y blaen.
Mi fydd yn anodd mynd ar y we am sbel. Adrodda' i fy hanes (efo lluniau) ar ôl dod yn ôl. Felly hwyl fawr am y tro!
Mi fydd yn anodd mynd ar y we am sbel. Adrodda' i fy hanes (efo lluniau) ar ôl dod yn ôl. Felly hwyl fawr am y tro!
Tuesday, March 13, 2012
cinio ysgol
Efallai bod cinio ysgol ddim yn bryd o fwyd gorau a dweud y lleiaf. Felly'r hyn sy'n rhai ysgolion yn Tokyo yn ei wneud yn rhyfeddol o braf. Wedi penderfynu darparu cinio ysgol gorau yn Japan, mae Rhanbarth Adachi wedi 'i droi'n rhywbeth mae'r plant yn edrych ymlaen ato. Maen nhw'n defnyddio cynnyrch lleol ffres heb ddefnyddio bwyd wedi'i rewi; maen nhw'n trio coginio prydau blasus, iach a darbodus. Yn ôl yr ystadegau mae 97% o blant bach, 82% o rai hŷn yn bodloni ar y cinio. Dyma gamp.
Monday, March 12, 2012
llwydni
Roedd gan fy ail ferch broblem groen ar ei hwyneb yn ddiweddar. Roedd hi wedi trio pob math o eli ond heb lwyddiant. Wedyn mae hi newydd sylweddoli mai llwydni yn ei fflat a oedd yn achosi'r broblem! Mae ei ystafell wely ddan ddaear yn ymddangos yn wael er bod llwydni'n anweledig. Pan gysgodd hi yn yr ystafell fyw, roedd ei chroen wedi gwella. Hen fflat mae hi'n ei rentio.
Sunday, March 11, 2012
yr 11eg arall
Mae'n flwyddyn ers y trychineb erchyll yn Japan. Er bod y sefyllfa wedi gwella'n sylweddol gan ystyried maint y difrod, mae yna tua 325,000 o bobl yn dal i fyw mewn tai dros dro heb sôn am y problemau atomfa. Roedd yn braf fodd bynnag clywed gan deulu yn Ishinomaki lle cafodd ei daro'n ofnadwy gan y tsunami. Pan oedd y gŵr yn gwirfoddoli yno, daeth i'w nabod nhw ac maen nhw mewn cysylltiad ers hynny. Maen nhw'n weddol erbyn hyn ond yn wynebu llwybr hir o'u blaen nhw.
llun uwch: ar ôl y tsunami, llun is: heddiw (Roedd y gŵr yn aros yn y tŷ brown yng nghanol.)
llun uwch: ar ôl y tsunami, llun is: heddiw (Roedd y gŵr yn aros yn y tŷ brown yng nghanol.)
Saturday, March 10, 2012
dvd il volo
Mae DVD il Volo newydd gyrraedd! A dyma ei wylio'n syth bin. Mae'n wych! Cyngerdd byw yn Opera House yn Detroit ydy o. Mae'n hyfryd eu gweld nhw'n perfformio o flaen cynulleidfa frwd sy'n gynnwyd gryn dipyn o bobl mewn oed. Maen nhw i gyd yn cael eu swyno gan ddawn anhygoel yr hogiau o'r Eidal. Ces i fy nghyfareddu unwaith yn rhagor. Mae yna ddynes a gafodd rhosyn gan un o'r hogiau yn methu stopio crio!
Friday, March 9, 2012
fflach yr haul
Roedd sôn am "fflach yr haul" mawr a sut roedd y ddaear yn cael ei tharo ganddo. Wel, dw i'n meddwl fy mod i wedi profi canlyniad ddoe. Roeddwn i'n gyrru i fyny'r bryn yn y p'nawn. Yn sydyn dechreuodd dangosydd y car droi ymlaen i'r cyfeiriadau dirgroes ar ei ben ei hun! Ces i banic gan fy mod i'n methu ei stopio. Yn ffodus ces i ddim damwain a stopio'r dangosydd wedi hanner munud. Roedd yn brofiad rhyfedd dros ben!
Thursday, March 8, 2012
donald keene
Mae Donald Keene newydd ennill dinasyddiaeth Japan. Cafodd ei eni yn yr Unol Daleithiau. Wedi dysgu'r Japaneg yn oedolyn, mae o'n arbenigwr ar lenyddiaeth Japaneaidd ers blynyddoedd yn ennill nifer o wobrau ac anrhydeddau. Tra mae llawer o bobl yn gadael Japan ers y trychineb y llynedd, penderfynodd aros yno er mwyn treulio gweddill ei oes yn bod yn fendith i'r bobl drwy ei waith. Mae o'n haeddu edmygedd.
Wednesday, March 7, 2012
rhy ddel i'w bwyta
Mae gan rai pobl syniad unigryw a medr i weithredu'r syniad. Maen nhw'n ddel, ond y broblem ydy nad ydw i eisiau bwyta pethau mor ddel - cream puffs yn siâp Totoro!
Tuesday, March 6, 2012
republican primary
Cynhelir Republican Primary mewn deg talaith heddiw gan gynnwys Oklahoma. Dw i ddim yn cael cymryd rhan gan fy mod i'n dal yn ddinesydd Japan. Wedi troi'n 18 oed, mae fy nhrydedd ferch yn awyddus i bleidleisio. Dyma hi'n rhoi ei barn ar bwnc pwysig am y tro cyntaf.
Pwy bynnag a geith ei etholi, gobeithio y bydd o'n curo'r Arlywydd cyfredol er mwyn ail-adeiladu'r Unol Daleithiau sy'n prysur gael eu chwali.
Monday, March 5, 2012
cefnddannedd
Cafodd fy ail ferch dynnu ei dau gefnddannedd heddiw. Roedd un o'r ddau'n rhoi tipyn o boen iddi'n ddiweddar. Penderfynodd y deintydd sy'n ffrind i ni, dynnu'r llall ar yr un pryd. Aeth y llawdriniaeth yn llwyddiannus. Yr unig sioc i fy merch oedd y bil - $530!
Sunday, March 4, 2012
clericus cup
Mae Clericus Cup newydd ddechrau yn Rhufain. Hwn ydy'r twrnamaint pêl-droed ymysg athrofeydd Pabyddol yn y ddinas yno. Bydd dros 350 o fyfyrwyr ac offeiriaid o 71 gwlad yn cymryd rhan er mwyn hybu chwaraeon cyfeillgar yn y byd crefyddol. Cafodd y twrnamaint fendith gan y pab sy'n ffan o dîm Bayern! Gobeithio y ceith pawb fwynhau'r gemau!
Saturday, March 3, 2012
gŵyl hina
Heddiw ydy Gŵyl Hina yn Japan, sef gŵyl i ferched bach. Yma yn Oklahoma dw i ddim yn gwneud dim byd arbennig ond tynnu'r doli allan o flwch a'u gosod ar liain coch (a bloggio amdanyn nhw!) Dw i'n hoff iawn o fy nau i a ges i'n anrheg yn fabi newydd. Roedden nhw'n ddigon bach i'w cludo o Japan i'r Unol Daleithiau. Mi wna i eu tynnu allan o flwch bob blwyddyn nes i fy merch ifancaf adael y nyth. Yna dw i'n bwriadu eu rhoi nhw i fy wyres gyntaf. (O na, sôn am wyres!!)
Friday, March 2, 2012
llongyfarchiadau
Roedd yna ddigwyddiad sylweddol y cyntaf Mawrth yn Japan hefyd. Graddiodd Mr. Miyamoto yn ysgol uwchradd (cwrs nos), ac yntau 76 oed. Methodd o fynd i ysgol uwchradd pan oedd o'n ifanc oherwydd sefyllfa deuluol. Dechreuodd fynd ati i ennill y radd bedair blynedd yn ôl ond cafodd o'i daro efo cancr a chael llawdriniaeth misoedd yn ôl. Ac eto daliodd ati a llwyddo i raddio. Dw i'n llawn edmygedd.
Thursday, March 1, 2012
Subscribe to:
Posts (Atom)