Thursday, April 30, 2015
novecento
Prynais y llyfr ail-law hwn yn Fenis ddwy flynedd yn ôl ond ei ffeind yn dipyn o her fel fy mod i wedi rhoi'r gorau iddo. Dechreuais ail-afael ynddo'n ddiweddar. Mae Eidaleg Alessandro Baricco'n hynod o galed i mi (does dim fersiwn Saesneg i fy helpu gwaetha'r modd) ond ar ôl dal ati am sbel, ces i fy nghyfareddu gan y stori unigryw hon. Yna ffeindiais ffilm yn seiliedig arni hi o'r enw "the Legend of 1900." Gwelais y fideo. "Trist" ydy'r gair. Dw i'n hoffi ffilmiau efo diwedd hapus, ond llenwodd y ffilm fy nghalon efo tristwch ofnadwy. Yr unig fodd i ysgafnhau'r galon ydy dweud wrth bobl eraill amdani. Mantais oedd bod hi'n fy ysgogi i adolygu fy Eidaleg (yn enwedig berfau passato remoto) a dw i'n deall y llyfr yn well bellach.
Tuesday, April 28, 2015
iris cyntaf
Tiwlipau, asalea, Lili'r Dyffryn, a rŵan fe flodeuodd ein hiris cyntaf. Roeddwn i wrthi'n chwynnu'r gwely blodau er gwaethaf yr alergedd. A dyma weld efo pleser y blodyn cyntaf y bydd yn cael ei dilyn gan ddwsinau eraill. Maen nhw'n ddiogel gan eu bod yn yr ardd gefn, annhebyg i'r tiwlipau truan a oedd o flaen y tŷ.
Monday, April 27, 2015
prom 2015
Cynhaliwyd Prom yn yr ysgol uwchradd leol ddydd Sadwrn. Roedd pwysau trwm ar y disgyblion amser maith yn ôl i gael hyd i date ar gyfer yr achlysur hwnnw (ar wahân i rai oedd gan rywun yn barod wrth gwrs.) Y tuedd diweddar ydy mynd efo ffrindiau menywaidd da, a dyna beth mae fy merch wedi ei wneud unwaith eto. Sioe ffasiwn i'r merched ydy Prom yn y bôn. Yn ôl fy merch, roedd yna dipyn o'r merched yn gwisgo ffrogiau mawr glas fel gwisgwyd gan Cinderella! Costiodd un ffrog $600 hyd yn oed. ($20 oedd ffrog fy merch. Gweler y llun.)
Sunday, April 26, 2015
picnic perffaith
Ar lan y môr, mewn heulwen ysgafn, fel mewn nofel, meddai. Cafodd fy merch yn Abertawe bicnic efo ei ffrind y prynhawn 'ma cyn wynebu wythnos brysur o sgrifennu sawl traethawd. Mae hi wedi cael ei difetha gan y bywyd hyfryd yng Nghymru bellach. :) Bydd rhaid iddi fod yn barod am sioc ddiwylliannol pan ddaw hi adref!
Saturday, April 25, 2015
mansfield park
Dw i newydd orffen Mansfield Park gan Jane Austen; roeddwn i'n gwrando ar ddarlleniad gan Karen Savage i fod yn benodol. Mae'r nofel hon yn hir iawn fel gweddill o'i nofelau a llawn o ddeialogau a disgrifiad hir o feddyliau'r prif gymeriadau. (Ces fy nrysu sawl tro!) Darllenais i hi o'r blaen wrth gwrs fel ffan o'r awdures, ond dyma'r tro cyntaf i mi sylweddoli mai tebyg iawn ydy'r stori (yn y bôn) i King Lear. Efo'r nofel hon, gorffennais ail ddarllen prif nofelau Jane Austen i gyd. Rhaid dweud mai Emma ydy fy ffefryn a Persuasion sydd yn dod yn yr ail.
Friday, April 24, 2015
pont foch cwta
Syniad da - mae'n lleihau gwaith y gweithwyr a llawenhau'r ymwelwyr o gystal â rhoi cyfle i'r moch cwta ymarfer corf. Mae gynnon ni ddau fochyn cwta ac mae'n ddiddorol eu gweld nhw'n rhedeg un ar ôl y llall ar y dec cefn. Does ryfedd bod y bont yn creu cymaint o gynnwrf mewn petting zoo yn Japan. A chafodd y fideo hwn ei weld bron i 400,000 gwaith.
Thursday, April 23, 2015
anrheg i fam
Roeddwn i'n arfer anfon anrheg benblwydd i fy mam drwy'r post - cnau neu ffrwyth sych fel arfer gan ei bod hi'n hoff iawn ohonyn nhw. Y broblem oedd y tâl post; mae'n drytach na'r anrheg ei hun yn aml. Fe wnes i wneud peth gwahanol eleni ar gyfer ei phenblwydd 93 oed - archebais gnau drwy Amazon Japan. Mae'r tâl post yn rhad ac am ddim oherwydd mai yn Tokyo mae hi'n byw. Bydd y cnau'n cyrraedd fflat fy mam mewn dau ddiwrnod. Ar ben hynny mae'r gyfradd gyfnewid rhwng yen a doler yn ffafriol rŵan fel costiodd bopeth ond $23.
Wednesday, April 22, 2015
adref yn ddiogel
Daeth fy merch a'i gŵr adref yn ddiogel neithiwr. Treulion nhw un noson ym Mharis wedi gadael Fiena. Er bod y gwesty ond pum milltir o'r maes awyr, methon nhw ei ffeindio am oriau. (Methon nhw gysylltu â'r gwesty; cawson nhw wybodaeth anghywir gan bawb ar ffordd.) Gan eu bod nhw wedi gadael Fiena am 3 yn y bore, roedden nhw wedi blino'n lân erbyn cyrraedd y gwesty. Ar ôl cael tipyn o gwsg a bwyd, fodd bynnag, roedden nhw'n teimlo'n ddigon gwell fel aethon nhw i ymweld â chanol y ddinas. Cawson nhw noson braf yn y diwedd. Maen nhw'n colli Ewrop yn ofnadwy bellach.
Tuesday, April 21, 2015
cerddwch ar yr ochr dde
... oherwydd dylai'r trigolion sydd yn mynd i'r gwaith, i'r ysgol neu i siopa, gerdded ar yr un ffyrdd â'r twristiaid. Dw i wedi profi'r rhwystredigaeth hefyd yn Fenis. Cafodd y ffyrdd eu llenwi'n llawn dop gan dwristiaid sydd yn cerdded yn araf neu yn aml iawn ddim yn cerdded o gwbl ond sefyll i edmygu beth bynnag oedd o'u cwmpas nhw. Pa mor rhwystredig dylai hyn fod i'r trigolion sydd yn gorfod dioddef yr anghyfleustra bob dydd. Dyma Cesare Colonnese, Fenisaidd gweithgar dros y ddinas yn ymbil ar y twristiaid i gadw at yr ochr dde.
Monday, April 20, 2015
falling in love
Dw i newydd orffen y nofel a sgrifennais amdano, sef Falling in Love gan Donna Leon. Mae'r stori'n datblygu'n araf iawn fel arfer, efallai rhy araf i bobl sydd yn gyfarwydd â'r llyfrau ditectif eraill. Dim ots i mi; roedd yn braf dilyn olion traed Commissario Brunetti drwy Fenis - hyn ydy'r rheswm dw i'n dal i ddarllen y gyfres hon a dweud y gwir. Ces i gyfle i wybod am opera enwog hefyd. Mae yna ddau ddigwyddiad sydd yn anodd credu fodd bynnag:
1. Doedd y siopwr ddim yn adnabod y ddynes a geisiodd dwyn reis nac yr hogyn a roddodd drugaredd arni hi. Roeddwn i'n meddwl bod pawb yn nabod pawb yn Fenis.
2. Roedd Flavia yn ddigon synhwyrol siarad mewn cod wrth Brunetti pan oedd hi'n wynebu sefyllfa ddychrynllyd yn y diwedd.
1. Doedd y siopwr ddim yn adnabod y ddynes a geisiodd dwyn reis nac yr hogyn a roddodd drugaredd arni hi. Roeddwn i'n meddwl bod pawb yn nabod pawb yn Fenis.
2. Roedd Flavia yn ddigon synhwyrol siarad mewn cod wrth Brunetti pan oedd hi'n wynebu sefyllfa ddychrynllyd yn y diwedd.
Sunday, April 19, 2015
annwyl cinzia
Dw i'n sgrifennu'r blog hwn bob dydd er mwyn ymarfer fy Nghymraeg. Hebddo fo dw i'n eithaf sicr bydd hi'n rhydlyd mewn byr amser. Dechreuais un arall yn Eidaleg amser maith yn ôl ond rhois y gorau iddo am ryw reswm neu beidio. Dw i'n gwrando ar Eidaleg bob dydd, Italiano Automatico gan amlaf, ond dw i newydd sylweddoli dylwn i sgrifennu Eidaleg bob dydd hefyd. Mae'n anodd cael hyd i penpal ffyddlon, (dw i wedi ceisio a methu sawl tro) a dyma benderfynu creu un a sgrifennu ati hi bob dydd. Dewisais enw iddi hefyd, sef Cinzia. Dw i'n cael dweud beth bynnag a ddaw i fy meddyliau heb boeni am neb arall oherwydd mai ond dyddiadur ydy o. Dw i'n mynd i sgrifennu ati hi ar ôl postio'r pwt hwn.
Saturday, April 18, 2015
ras yn y glaw
Cynhaliwyd ras 5 cilomedr a drefnwyd gan rai myfyrwyr Ysgol Optometreg y bore 'ma. Yn anffodus roedd yn bwrw glaw'n gyson drwy'r bore ac roedd y rhedwyr dewr yn wlyb iawn gan gynnwys fy ngŵr. Redodd fy mab ddim oherwydd ei anafiad ar y ffêr. Yr un hogyn bach oedd yr enillwr eleni eto. Mae'n siŵr fydd o'n aelod pwysig o dîm cross country yr ysgol uwchradd cyn hir.
Friday, April 17, 2015
fflat
Thursday, April 16, 2015
yn fiena
Mae fy merch hynaf a'i gŵr yn Fiena ers dydd Mawrth wedi cymaint o stŵr ynglŷn y pasbort yn Llundain. Maen nhw'n mynd o gwmpas y dref wrth ffilmio bywyd beunyddiol cyn gweinidog yr eglwys adref a'i deulu. Un o'r lluniau cyntaf a yrrodd hi oedd hwn - efo heddlu Fiena wrth gwrs!
Wednesday, April 15, 2015
nofel newydd
Dw i newydd gael nofel newydd gan Donna Leon, sef Falling in Love yn fenthyg gan y llyfrgell leol. Dechreuais ei ddarllen yn syth. Braf "gweld" Commissario Brunetti unwaith eto. Mae ganddo fo ffôn symudol bellach (ond dim iPhone.) Pan ymddangosodd yn y gyfres gyntaf flynyddoedd yn ôl, roedd rhaid iddo adael neges ar recordydd ffôn cartref. Dw i ddim yn gwybod sut bydd y stori'n datblygu, ond mae'n ddiddorol hyd yma. Dw i'n falch o beidio darllen y pwt tu ôl y clawr blaen cyn cychwyn. Byddai hynny fod wedi chwalu elfen annisgwyl yn y stori.
Tuesday, April 14, 2015
fenis o safbwynt anarferol
Does dim Piazza San Marco, dim adeiladau mawreddog, dim golygfeydd nodweddiadol Fenis yn y fideo yma, ond llwybrau culion, camlesi a phontydd anhysbys ynghyd â chip neu ddau ar y llefydd enwog oddi ar ongl anarferol. Dw i'n adnabod rhai llefydd tra bod y lleill yn ymddangos yn gyfarwydd er nad ydw i'n medru eu henwi nhw. Mewn gair, mae'r fideo'n dangos Fenis dw i'n ei chofio a gwirioni arni hi.
Monday, April 13, 2015
i fiena o'r diwedd
Cafodd gŵr fy merch basbort newydd yn Llysgenhadaeth America yn Llundain heddiw ac maen nhw'n medru hedfan i Fiena bore fory. Byddan nhw'n cyrraedd yno tri diwrnod yn hwyrach na'r disgwyl ond cawson nhw ddiwrnod braf yn Llundain yn annisgwyl. Roedd fy merch yn byw yno am fisoedd flynyddoedd yn ôl, ac felly mae hi'n gyfarwydd â'r ddinas. Aethon nhw i All Souls Church a chyfarfod nifer o bobl ifanc glên a chael swper efo nhw.
Sunday, April 12, 2015
tymor paill
Y tymor gwaethaf i mi ydy o rŵan; dechreuodd y coed derw taflu eu paill o'u cwmpas. Mae'n wyrdd ym mhob man - y dec, y driveway, y stepiau o flaen y drws, car fy merch wedi'i barcio tu allan... Fedra i ddim mynd am dro nes diwedd y tymor oherwydd fy alergedd. (Dw i'n cerdded yn y tŷ.)
Saturday, April 11, 2015
llundain
Dylai fy merch hynaf a'i gŵr fod wedi cyrraedd Fiena erbyn hyn, ond mewn gwesty yn Llundain maen nhw rŵan. Cafodd o atal ym maes awyr Heathrow (yr ail layover) rhag mynd i Fiena oherwydd byddai ei basbort yn dod i ben mewn tri mis; rhyfeddodd swyddogion nad chafodd ei atal ym maes awyr yn Oklahoma. Dylai fo fynd yn ôl neu gael cymorth gan Lysgenhadaeth Americanaidd. Dewisodd o'r olaf ond mae'r llysgenhadaeth ar gau nes dydd Llun. O leiaf mae o'n cael aros yn ninas Llundain a gweld o gwmpas efo'i wraig yn hytrach nag aros yn y maes awyr.
Friday, April 10, 2015
i awstria
Tro fy merch hynaf a'i gŵr mae o rŵan. Maen nhw newydd adael ar siwrnai i Awstria i weld cyn gweinidog eu heglwys a'i deulu sydd yn gweithio fel cenhadwr yno bellach. Cafodd fy merch ei chomisiynu i wneud fideo ar ei fywyd beunyddiol gan yr eglwys. Bydd hi a'i gŵr yn cael chwarae tipyn bach o dwristiaid ar yr un pryd hefyd; byddan nhw'n aros ym Mharis am ddiwrnod cyn mynd i Fiena adref. Dw i newydd lawr-lwytho Skyp App ar fy iPhone er mwyn i ni fedru cysylltu efo'n gilydd drwy negeseuon testun, yn aml gobeithio.
Thursday, April 9, 2015
gyda pierre
Dw i'n dal i ddysgu Ffrangeg drwy'r rhyngrwyd. Yn ddiweddar dw i'n gwylio fideo gan Pierre o Français avec Pierre. Mae o'n siarad yn araf iawn ac mae gan rai o'i fideo drawsgrifiadau sydd yn hanfodol i mi. Fe wnes i gofrestri ar ei wefan er mwyn derbyn pedwar gwers yn rhad ac am ddim. Maen nhw'n ddiddorol a dw i'n medru deall yr awdio a darllen y testunau, ond fedra i ddim creu brawddegau syml hyd yn oed. Dw i'n sylweddoli fy mod i angen rhywbeth sylfaenol sydd ddim yn pwysleisio ar y gramadeg. Gawn ni weld.
Tuesday, April 7, 2015
y bobl
"Ces i amser anhygoel o braf yn Llanberis. Does ryfedd dy fod ti wedi mynd yno tro ar ôl y llall," meddai fy merch wrtha i. Wrth gwrs bod Llanberis yn lle hyfryd - un o'r llefydd brafiaf yng Nghymru, ond y bobl sydd yn rhoi mwy o argraff ar neb yn fy marn i. Yn ogystal â Carol a Martin, a nifer o bobl glên, fe wnaeth hi gyfarfod Deryl, perchennog unigryw Siop y Mêl sydd wedi dangos cymaint o garedigrwydd iddi. Ces innau amser gwych efo fo flynyddoedd yn ôl. Wedi symud i Gaeredin bellach, mae hi'n colli'n barod y cyfleoedd i ddefnyddio ei Chymraeg ar bob cornel.
Monday, April 6, 2015
'futon' ar feic
Mae fy merch yn Japan newydd ddechrau gweithio fel athrawes Saesneg mewn ysgol yr wythnos yma. Ar yr un pryd mae hi'n symud tŷ; roedd hi'n byw mewn llety dros dro wrth chwilio am fflat. Mae'n ofnadwy o drafferthus rhentu fflatiau yn Japan, ac mae angen pob math o ffioedd. Roedd hi'n medru dod o hyd i un addas ac arwyddo cytundeb (yn Japaneg) drwy garedigrwydd nifer o bobl leol. Does dim dodrefn yn y fflat fel bydd rhaid prynu popeth, ail-law wrth gwrs. Prynodd feic i ddechrau nid ar gyfer ymarfer corf ond ar gyfer mynd o gwmpas yn gyflym a chludo pethau gan gynnwys futon! Mae hi'n gyffro i gyd yn medru byw yn ei fflat ei hun.
Sunday, April 5, 2015
pasg hapus
Aeth angel yr Arglwydd at y maen a'i dreiglo i ffwrdd ac eistedd arno.
Llefarodd, "nid yw ef yma, oherwydd y mae wedi ei gyfodi, fel y dywedodd y byddai."
Pasg Hapus i bawb.
Llefarodd, "nid yw ef yma, oherwydd y mae wedi ei gyfodi, fel y dywedodd y byddai."
Pasg Hapus i bawb.
Saturday, April 4, 2015
yn llanberis
Cafodd fy merch groeso cynnes gan Carol a Martin yn Llanberis, cyn perchenogion Marteg roeddwn i'n arfer aros ynddo fo. Wedi gwerthu'r gwely a brecwast, maen nhw'n helpu busnes eu mab yn y dref bellach. Aethon nhw â fy merch o gwmpas yn y car i Fangor, Biwmares a mwy dros y ddwy bont. Doeddwn i ddim yn disgwyl cymaint o garedigrwydd ganddyn nhw oherwydd nad oeddwn i'n cadw cysylltiad cyson efo nhw. Dwedodd hi eu bod nhw'n glên iawn siarad Cymraeg efo hi a dioddef ei Chymraeg petrusgar. Mae hi'n hynod o ddiolchgar.
Friday, April 3, 2015
trosedd
Cafodd ein tiwlipau eu sathru dan draed rhyw un dideimlad prynhawn ddoe. Digwyddodd hyn rywdro rhwng 4:30 a 7:30 o'r gloch pan oeddwn i'n brysur yn y gegin. Yn anffodus methodd y camera diogelwch dal y trosedd ar y sgrin oherwydd problem dechnegol. Clywais gan gymdogion fod yna fandaliaeth o bryd i'w gilydd yn y gymdogaeth ac mae ganddyn nhw syniad pwy allai'r troseddwr fod. Ces i a'r teulu sioc fawr neithiwr. Druan o'r blodau. Ond na chawson nhw eu curo'n llwyr; dechreuon nhw sefyll i fyny o dipyn i beth y bore 'ma, ac ar wahân i dri a gollodd eu blodau, maen nhw wedi mynd yn ôl fel roedden nhw bellach! Fe wnaeth y gŵr yn siŵr bod y camera'n gweithio'n iawn y tro 'ma. Fe fyddwn ni'n barod os dychwelith y troseddwr.
Thursday, April 2, 2015
niwl
Cyrhaeddodd fy merch Lanberis ddeuddydd yn ôl. Fe wnaeth hi a'i ffrind nifer o bethau twristiaid mewn cyn lleied o amser - ymweld â'r amgueddfa lechi, mynd ar y trên o gwmpas Llyn Padarn ac i fyny'r Wyddfa. Yn anffodus roedd hi'n niwlog fel nad oedd y trên yn mynd uwch na Gorsaf Clogwyn. Methon nhw weld y golygfeydd godidog o'r copa ond y niwl; druan ohonyn nhw. Wedi ffarwelio â'i ffrind sydd wedi mynd yn ôl i Abertawe, mae fy merch yn mynd ar wibdaith i Feddgelert, Portmeirion, Pwllheli ar ei phen ei hun heddiw.
Wednesday, April 1, 2015
tiwlipau!
Maen nhw newydd flodeuo! Pan welais y tiwlipau'r bore 'ma, roedd y blagur yn dal ar gau, ond dyma nhw ychydig oriau wedyn! Er bod tri bwlb o'r dwsin wedi diflannu, mae yna 13 blodyn. Dw i'n eu cyfrif nhw bob dydd i wneud yn siŵr bod nhw'n ddiogel. Os bydd rhywbeth o'i le, fe fydda i'n gwirio monitor y camera diogelwch i ffeindio'r troseddwr.
Subscribe to:
Posts (Atom)