Thursday, December 31, 2015
breaking away
Neithiwr gwelais efo'r teulu unwaith eto'r hen ffilm a saethwyd yn Bloomington, sef Breaking Away. Wedi ymweld â rhai o'r lleoedd yn y ffilm o gwmpas Prifysgol Indiana'n ddiweddar, roedd y plant wrth eu bodd i'w weld o. Hwn ydy ffilm arbennig i'n teulu ni oherwydd ei fod o'n cael ei saethu tra oedd fy ngŵr yn astudio yn y brifysgol, a gallai fo fod wedi ymddangos yn y ffilm. Gofynnwyd y myfyrwyr i fod yn extras ar gyfer golygfa 'r ras beic, ond roedd o mor brysur efo'i waith fel na wnaeth. Pechod!
Wednesday, December 30, 2015
adref yn ddiogel
Daeth fy nheulu'n ôl yn ddiogel tua dau o'r gloch y bore 'ma wedi ymweld â ffrind oedrannus annwyl yn Detroit. Aethon nhw heibio i Bloomington, Indiana lle roedden ni'n arfer fyw cyn symud i Oklahoma. Cymerodd ddwy awr yn hirach neithiwr oherwydd y llifogydd yn y ddwy dalaith roedden nhw'n pasio drwyddyn nhw - Illinoi a Missouri. Afon Mississippi gorlifodd yn wael nag erioed. Doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor wael nes darllen y newyddion Japaneaidd y bore 'ma!
Tuesday, December 29, 2015
spaghetti alla carbonara
Coginiais spaghetti alla carbonara neithiwr. Gwelais ddwsin o fideos (yn Eidaleg wrth gwrs i ymarfer gwrando ar yr un pryd) ar Youtube i wneud yn siŵr beth i'w wneud. Mae yna ddulliau gwahanol i'r rysáit syml hwn; roedd rhaid dewis un sydd yn ymddangos yn dda i mi. Dyma fo. Roedd yn edrych yn flasus ond roedd y pasta dipyn yn rhy galed (roeddwn i'n ofnus ei goginio'n rhy hir); doedd y cig moch a achubwyd o ginio Nadolig ddim yn addas i'r rysáit. O leiaf, i mi fy hun coginiais gan fod y teulu oddi cartref tan heno.
Monday, December 28, 2015
y cwpan perffaith
Dw i newydd archebu'r cwpan perffaith (i mi) gan siop yn Llundain - cwpan cain digon mawr ond ysgafn a thenau. Ces i bres i'w brynu gan fy nwy ferch yn anrheg Nadolig. (Roedden nhw'n gwybod fy mod i'n ei lygadu am gyfnod.) Roeddwn i'n chwilio am un tebyg yn America heb lwyddiant. Dim ond y siop honno sydd yn gwerthu fy hoff gwpan. Mae'r tâl post yn ddrytach na'r cwpan ei hun, ond dim ots; rhoddodd fy merched bres i mi dalu am bopeth, chwarae teg iddyn nhw.
Sunday, December 27, 2015
penblwydd arall
Cafodd fy merch hynaf ei geni ar Noswyl Nadolig (yn Japan.) Mae ei phenblwydd hi'n cael ei gysgodi'n aml gan ddathliad y Nadolig. Felly dan ni'n gwneud yn siŵr bod ni'n dathlu ei phenblwydd cyn agor anrhegion y Nadolig. Dewisais rysáit newydd i grasu cacen iddi eleni. Un a welais ar Youtube gan fam a'i merch Eidalaidd: cacen afal hynod o flasus heb fraster.
Saturday, December 26, 2015
efo'r teulu
Ynghyd â fy merch a'i gŵr, agoron ni anrhegion Nadolig a oedd yn llai na hanner nag arfer oherwydd absenoldeb ein Sïon Corn, sef fy ail ferch. Mae fy mab hynaf a'i wraig yn teithio, ac felly roedden ni'n deulu bach. Cawson ni amser braf serch hynny dilynwyd gan ginio Nadolig - cig moch, tatws stwns, salad, Bara Brith, pastai hufen pwmpen. Siom oedd Bellini - methais yn llwyr. Roedd y sydd eirin gwlanog yn anaddas. Ar ben hynny, collwyd gryn dipyn o Prosecco wrth agorwyd y botel. Rhaid i mi fynd yn ôl i Fenis i gael Bellini go iawn.
Friday, December 25, 2015
Thursday, December 24, 2015
noswyl nadolig
Yn sydyn dw i'n ofnadwy o brysur. Rhaid gorffen yr anrhegion a pharatoi ar gyfer cinio Nadolig; rhaid cyfieithu cyfarwyddiadau Saesneg i'r Japaneg dros fy merch yn Japan; mae fy merch hynaf a'i gŵr yn dod yfory. Ei phenblwydd ydy hi heddiw hefyd. Fe wnes i granola yn lle prynu rhai mewn siop. Mae o'n hawdd a blasus ac yn prysur ddiflannu. Yng nghanol y prysurdeb, rhaid cofio beth ydy amcan yr ŵyl hon. Dw i a'r teulu'n mynd i'r eglwys heno i ddathlu'r Geni.
Tuesday, December 22, 2015
carolau sydyn
Es at ein ceiropractydd ni i dalu'r bil y bore 'ma. (Mae fy nwy ferch yn cael triniaeth bob wythnos.) Yna gwelais deulu mawr yn dod allan o'r ystafell driniaeth; safent yn y gongl; dyma nhw'n dechrau canu carolau gyda chytgord hynod o hardd. Roedd pawb yn sownd yn gwrando arnyn nhw. Wedi canu hanner dwsin o garolau, aethant allan mewn cymeradwyaeth frwd.
Monday, December 21, 2015
efo siocled
Mi wnes i grasu bara banana siocled ddoe. Roedd o'n hynod o flasus! Gwelais fideo gan Elisabetta'n crasu un tebyg, ond roedd hi'n defnyddio cynhwysion arbennig sydd ddim ar gael yma. Dyma chwilio am rysáit arall (yn Saesneg yn anffodus) a ffeindio hwn. Mae'r bara wedi diflannu'n barod! Tynnodd fy merch fy sylw at y tair banana go aeddfed ar fwrdd y gegin. Efallai gwnaf dorth arall heddiw.
Sunday, December 20, 2015
cinio nadolig
Ces i ginio arbennig efo ffrindiau'r eglwys heddiw. Aethon ni (tua 50 ohonon ni) i ffreutur y cartref henoed mwyaf yn y dref. (Mae nifer o'r aelodau'n byw yno.) Dewisais dwrci, taten felys, ffa gwyrdd, ffrwythau a darn o gacen menyn. Dan ni erioed wedi gwneud hyn fel eglwys o'r blaen. Gobeithio y byddwn ni'n cynnal y cinio felly ar yr adeg honno o hyn ymlaen. Mae'n hynod o braf peidio paratoi bwyd a golchi llestri fel dan ni'n arfer gwneud ar ôl potlwc.
Saturday, December 19, 2015
artist addawol
Ces i anrheg braf gan hogan saith oed o Tsieina neithiwr. Mae hi'n mynd i'r ysgol leol tra bydd ei mam yn astudio yn y brifysgol yma am dymor. Doedd hi ddim yn medru siarad Saesneg o gwbl pan gyrhaeddodd hi ym mis Awst, ond mae hi'n hollol rugl erbyn hyn. Mae ganddi ddawn gelfyddydol hefyd sydd yn amlwg ar y llun yma. Tynnodd y llun hwn a chopïodd y pennawd yn sydyn wrth edrych ar fy nghalendr o'r Eidal. Gofynnais iddi lofnodi ar y llun, rhag ofn!
Thursday, December 17, 2015
gwin mewn carton
Mewn cymhariaeth roedd yn hynod o hawdd archebu gwin drwy Amazon Japan i fy mam. Dim ond i mi ddweud bod hi'n dros 18 oed a oedd angen. (Mae hi'n llawer hŷn na hynny!) Dewisais win mewn carton fel byddai'n hawdd iddi ei agor o. Hwn ydy anrheg gan fy merch i'w nain, a dweud y gwir. Archebais innau gnau iddi hi (drwy'r un cwmni.) Mae archebu anrhegion drwy'r we'n anhygoel o hwylus.
Wednesday, December 16, 2015
amalia
Gan fod brawd y gŵr a'i wraig yn yfed gwin o bryd i'w gilydd, roeddwn i'n meddwl byddai potel neu ddwy o win da'n braf i roi iddyn nhw'n anrheg Nadolig, a dechreuais chwilio ar y we. Ces i syniad gwych wedyn - beth am roi gwin o Wlad Groeg o'r enw Amalia, yr un enw â fy chwaer yng nghyfraith, ac un pinc sef ei ffefryn? Syniad da oedd o, ond "dydy o ddim ar gael ar hyn o bryd," meddai'r mewnforiwr arbennig. Ffeindiais un tebyg ar Amazon, ond byddan nhw ddim yn anfon gwin at y dalaith mae'r cwpl yn byw ynddi. Es i at siop win ar y we, ond mae'r rheol ynghylch gyrru gwin mor gymhleth ac anghyfleus fel rhoes i orau i'r syniad yn gyfan gwbl!
Tuesday, December 15, 2015
cwscws
Monday, December 14, 2015
gwneud hwmws
Fe wnes hwmws neithiwr yn ôl y ryseitiau sawl fideo yn Eidaleg a Ffrangeg ar Youtube. Hyn ydy ffordd braf dysgu ieithoedd a chael hwyl ar yr un pryd. Roedd y hwmws yn flasus iawn, llawer gwell na'r rhai mewn siop, ond doedd plicio ffa ddim yn syniad da. Ces i boen yn fy nwylo yn y diwedd, ac roedd garlleg ffres yn rhy gryf. Dw i'n gwybod sut i'w wella'r tro nesaf.
Saturday, December 12, 2015
fideos marco bianchi
Dw i'n mynd i goginio couscous efo llysiau ac eog mewn tun! Prin fy mod i'n defnyddio couscous ond dw i'n benderfynol o brofi'r saig hon wedi gweld fideo gan Marco Bianchi. Darganfyddiad newydd ydy ei fideos coginio ar y we. Mae'r Eidalwr clên hwnnw'n dangos sut i wneud seigiau iach a blasus mewn modd mor bleserus. Na cha' i wneud popeth oherwydd nad oes rhai llysiau ffres ar gael yma (yn annhebyg i le mae o'n byw ynddo.) Fe geisia' i fy ngorau glas, a gwella fy Eidaleg ar yr un pryd.
Friday, December 11, 2015
siopa yng nghanol y dref
Roedd hi'n edrych i mewn ffenestr siop ddillad; penderfynodd gerdded i mewn ...... Mae'n olygfa gyffredin hyd yma. Yr hyn a wnaeth yr hanesyn hwnnw'n erthygl newyddion heddiw yn Trieste, yr Eidal oedd mai hwyaden oedd "hi". Roedd hi'n ymddwyn heb fymryn o ofn wrth y bobl yn edrych arni efo gwen. Galwodd y perchennog gymorth anifeiliaid; dalion nhw'r hwyaden a mynd â hi i le iachach iddi, sef pwll mewn parc gerllaw.
Thursday, December 10, 2015
cross traffic does not stop
Gwelais yr arwydd newydd sbon hwn y bore 'ma a pheidio helpu chwerthin. Peryglus iawn ydy'r groesfan honno ger fy nhŷ. Mae cynifer o ddamweiniau car wedi digwydd ers blynyddoedd gan gynnwys un a oedd fy merch yn gyfrifol amdani hi. Gofynnodd rhai trigolion i'r dref am godi goleuadau traffig sawl tro. Hwn ydy ateb y dref - un llawer rhatach wrth gwrs, ond na wneith weithio.
Wednesday, December 9, 2015
panig
Ces i fraw yn Walmart ddoe. Pan oeddwn i'n barod i dalu, methais ffeindio'r cerdyn credyd yn fy mag. Gofynnais y ddynes at y til i gadw fy nwyddau er mwyn mynd i'r car a chwilio amdano fo rhag ofn. Dim. Roeddwn i'n ofni ei fod o wedi cael ei ddwyn tra oeddwn i'n siopa; dechreuais feddwl y byddwn i'n gorfod cau'r cyfrif. Es i'r swyddfa bost cyn mynd i Walmart. A dyma'u ffonio nhw rhag ofn. "Oes, mae'ch cerdyn chi gynnon ni," meddai dynes y swyddfa. Diolchais i Dduw. Talais am y nwyddau efo'r cerdyn debyd (methais gofio mewn panig bod gen i hwn) a mynd i'r swyddfa bost i nôl y cerdyn yn ddiogel.
Monday, December 7, 2015
lluniau swyddogol
Tra oedd fy merch hynaf a'i gŵr yn Japan, aethon nhw i briodas ffrind. Ffrind arall a dynnodd y lluniau swyddogol. Ffotograffydd proffesiynol ydy hi, ac un medrus hefyd. Daliodd hi'r awyrgylch yn ogystal â'r bobl yn y lluniau. Mae fy ddwy ferch a fy mab yng nghyfraith yn edrych yn smart iawn hefyd.
Sunday, December 6, 2015
enwong yn japan
Cafodd hanes yr asyn a'r plismon ei adrodd gan sawl gwefan Japaneaidd hefyd! Gwelon nhw'r hanes ar Facebook Heddlu Norman a'i gyfieithu, yn ôl fy merch. Rŵan mae ei ffrind yn enwog yn Japan hefyd; efallai'r bydd o'n cynnig ei lofnod ati hi eto.
Saturday, December 5, 2015
ffilm newydd
Mae ffilm Japaneaidd newydd gael ei rhyddhau yn Japan. Ffilm am hanes diplomydd o Japan yn Lithuania yn ystod yr Ail Ryfel Byd ydy hi. Achubodd filoedd o Iddewon drwy roi pasbortau iddyn nhw heb ganiatâd llywodraeth Japan. Postiais amdano fo pum mlynedd yn ôl am y tro cyntaf. Roedd cyfres teledu'r adeg honno, ond doedd hi ddim yn dda iawn. Mae'r ffilm hon yn anhygoel o well. (Yn y lle cyntaf, dydy hi ddim wedi'i throsleisio.) Dw i'n siŵr na cheith hi ei dangos yn America. Rhaid i mi aros am fisoedd cyn cael gweld DVD.
Friday, December 4, 2015
yvonne yn fenis
Mae Yvonne o Awstralia newydd gyrraedd Fenis, ac yn mynd i aros yno am saith wythnos! Agorir ffenestri ei fflat anhygoel at Campo San Stefano. Dw i'n siŵr y ceith amser hyfryd. (Mae hi'n gall iawn osgoi Carnevale.) Er bod gan Fenis broblemau efo gormod o dwristiaid, byddwn i eisiau ymweld â'r ddinas swynol honno eto. Mae hi angen twristiaid da fel Yvonne a fi beth bynnag!
Thursday, December 3, 2015
helpu asyn
Un o'r heddweision yn Norman mae fy merch hynaf yn ei nabod wedi helpu asyn colledig. Gwthiodd o'r anifail i mewn ei gar a mynd â fo at loches dros dro. Er bod yr asyn wedi mynd i'r tŷ bach yn y car cyn cyrraedd y cyrchfan, dwedodd y plismon nad oedd o mor flêr â rhai meddwon roedd rhaid iddo roi lifft iddyn nhw o dro i dro! Cafodd yr hanesyn bach ei adrodd gan gyfryngau cenedlaethol; cynigodd yr hogyn fy merch ei lofnod os oes hi eisiau!
Wednesday, December 2, 2015
darn a baentiodd hi
Gyrrodd fy merch lun o'r darn a baentiodd ddoe, sef pen aelod SWAT a'i darian. Dwedodd fod pob SWAT a ddaeth heibio'n mynnu mai fo oedd y model! Ac atebodd hi'n gadarnhaol bob tro! Gan fod yr adeilad ar dir yr heddlu sydd yn amgylchynu gan ffens, does dim rhaid iddi bryderu am ei diogelwch.
Tuesday, December 1, 2015
y murlun
Ces i gyfle i weld murlun fy merch hynaf. Mae hi mor brysur fel nad ydy hi'n medru ei gorffen cyn gynted â'r disgwyl. Mae'r rhan orffenedig yn edrych yn wych beth bynnag. Stopiodd y glaw heddiw o'r diwedd ers wythnos fel bydd hi'n gweithio arno fo brynhawn 'ma.
Subscribe to:
Posts (Atom)