Monday, February 29, 2016
diwrnod naid
Dw i ddim yn medru "neidio" yn gorfforol heddiw ond yn fy nghalon. Wedi cael wyth triniaeth geiropracteg ar y cefn, dw i'n teimlo'n llawer gwell. Dw i'n medru gwneud gweithgareddau cyffredin heb boen fel codi pethau oddi ar y llawr, rhoi sanau ar y traed neu disian. Roeddwn i'n cymryd y pethau felly'n ganiataol pythefnos yn ôl. Gyrrodd fy merch hynaf neges testun Bitmoji ddoniol y bore 'ma. Y peth rhyfedd ydy bod y llun yn edrych yn union fel hi.
Sunday, February 28, 2016
gêm gartref
Roedd twrnamaint pêl-droed ymysg yr ysgolion uwchradd yn yr ardal ddydd Sadwrn braf. Chwaraeodd pob ysgol dair gêm 50 munud yr un. Enillodd ein hysgol ni un gêm a cholli'r gweddill. Mae gan fy mab anafiad ar ei droed ond chwaraeodd hanner gêm tair gwaith. Roedd o'n rhedeg nerth ei ben er gwaethaf y poen; roedd rhaid bod ei adrenalin yn llifo'n garw! Aeth y teulu gan gynnwys ei frawd a'i wraig sydd yn byw yn Texas i'w gefnogi.
Friday, February 26, 2016
clustog i reuben
Mae Reuben, ci ffyddlon fy merch hynaf yn mynd yn hen. (Mae o'n wyth oed.) Prynodd fy merch wely cyfforddus iddo oherwydd bod ganddo gymalau poenus. Mae o eisiau clustog pryd bynnag mae o'n gorwedd fel gwelir yn y llun. Truan ohono fo, ond mae o'n lwcus cael byw efo "rhieni" mor garedig.
Thursday, February 25, 2016
saws gwych
Mae pati/beli llysiau angen saws gan eu bod nhw'n tueddu i fod braidd yn sych. Roeddwn i'n defnyddio iogwrt plaen bob amser, ond des i ar draws syniad braf yn ddiweddar - saws afocado. Dim ond afocado stwns efo llefrith (halen os liciwch chi) ydy hwn, ond roedd y saws llawn o fitamin E yn wych i fynd efo pati tatws/zucchini/sardîn.
Tuesday, February 23, 2016
rhy gynnar
Monday, February 22, 2016
risen
Ers i mi glywed am y ffilm hon, dw i'n barod i fynd i'r theatr i'w gweld hi, sef Risen. Stori ganwriad Rhufeinig ydy hon. Yn y stori fo a gafodd gorchymyn gan Pilat i ddarganfod corff Iesu a ddiflannodd oddi wrth y bedd. Gwelodd fy merch hynaf hi ddoe a dweud bod hi'n ffilm ardderchog (heb ddatguddio gormod.) Mae hi eisiau ei gweld eto hyd yn oed. Mae'r ffilm yn y theatr leol yn ffodus. A' i efo'r teulu'r penwythnos hwn os bydda i'n gwella erbyn hynny.
Sunday, February 21, 2016
pregeth ar y we
Oherwydd anafiad i'r cefn a ges i'r wythnos diweddaf, es i ddim i'r eglwys y bore 'ma. Bydda i'n gwrando ar wasanaeth boreol Moody Church yn Chicago pryd bynnag rhaid aros cartref. Dr. Erwin Lutzer ydy fy hoff bregethwr. Dewisais bregeth yn yr archif, sef the Signature of God. Roeddwn i'n arfer gwrando ar y radio FM o'r blaen, ond mae'n hwylus iawn cael gweld fideos ar lein y dyddiau hyn.
Saturday, February 20, 2016
poinsettia
Thursday, February 18, 2016
swper

Wednesday, February 17, 2016
mesur newydd
Bydd rhaid bwcio a chael pas er mwyn ymweld ag un o'r trefi hardd yn yr Eidal yr haf ymlaen, sef Cinque Terre. Fel nifer mawr o lefydd poblogaidd yn y byd, mae'r dref yn dioddef o ormod o dwristiaid esgeulus. Dim ond 1.5 miliwn y flwyddyn bydd yn cael mynd yno o gymharu â 2.5 miliwn a ymwelodd y llynedd. Gobeithio wir bydd y mesur yn cael gwared ar y twristiaid digywilydd a gadael rhai cyfrifol i gefnogi economi'r dref.
Tuesday, February 16, 2016
fideos chris
Des i ar draws cyfres o fideos diddorol ynglŷn magu cyhyrau, colli pwysau a bwyta'n iach gan hogyn o'r Swistir. Dw i ddim yn bwriadu gwneud yr ymarfer corff caled, ond er mwyn ymarfer gwrando Ffrangeg dw i'n gwylio ei fideos. Fel Alberto o Italianoautomatico, mae Chris yn hogyn gweithgar efo amcan clir, ac mae o'n gwneud llawer o synnwyr. Mae ei Ffrangeg yn haws deall na'r lleill, a dw i'n hapus fy mod i'n medru deall beth mae o'n ei ddweud ar y cyfan. Er mwyn ei ddeall mwy, dw i'n gwrando arno fo nifer o weithiau. Rhannais ei gyngor efo fy mab ddyddiau'n ôl; dwedodd fod modd sit-ups Chris yn gweithio'n dda!
Monday, February 15, 2016
bwyta croissant
Yn sydyn roedd eisiau bwyta croissant arna i. Y broblem ydy does dim pobydd sydd yn gwerthu rhai blasus sydd yn debyg i un a ges i yn Cafè Poggi yn Fenis. Prynais un beth bynnag a cheisio ei wella cymaint â phosib. Rhois gryn dipyn o jam bricyll tu mewn ac allan ohono fo, a'i gynhesu yn y ficrodon am 15 eiliad. Doedd o ddim yn berffaith ond ddim yn rhy ddrwg pan ges i fo efo paned o café au lait (yn hytrach na cappuccino.) Os cawn i gyfle erioed i fynd yn ôl i Fenis ryw ddiwrnod, Cafè Poggi byddai'r lle cyntaf i ymweld â fo, siŵr iawn.
Sunday, February 14, 2016
gwers sydyn
Saturday, February 13, 2016
y canlyniad
Friday, February 12, 2016
peli ffacbys
Dw i'n mynd i goginio peli ffacbys i swper heno. Fe wnes i byrgyr ffacbys sawl tro, ond y tro hwn, dw i'n bwriadu eu gwneud yn beli. Mae cynifer o ryseitiau ar Youtube (dim ond rhai yn Eidaleg dw i'n eu gweld) ac mae pawb yn defnyddio cynhwysion a dulliau dipyn yn wahanol. Ceisia' i gyfuno'r syniadau da i greu fy rysáit i. Gawn ni weld.
Thursday, February 11, 2016
cael gwared ar arogl drwg

Wednesday, February 10, 2016
cinio spaghetti
Tuesday, February 9, 2016
peth newydd (i mi)
Monday, February 8, 2016
modd gwahanol

Sunday, February 7, 2016
super bowl

Saturday, February 6, 2016
blwyddyn o hoe
Bydd fy merch arall yn graddio yn y brifysgol leol ym mis Mai. Hoffai hi astudio ymhellach, ond penderfynodd hi gael blwyddyn o "hoe" cyn hynny. Bydd hi'n aros efo teulu yn Ne Ffrainc a dysgu Saesneg i'w hogyn bach saith oed yn ystod yr haf; yna bydd hi'n gweithio fel tiwtor Saesneg yn Japan am ddeg mis. Dw i'n gyffro i gyd cymaint â hithau! Gan nad ydw i'n medru mynd i Ewrop eleni, dw i'n teimlo fel pe byddwn i'n cael gweld Ffrainc drwy lygaid fy merch.
Friday, February 5, 2016
rhosyn saron

Thursday, February 4, 2016
adolygiad
Gofynnodd y cwmni yn Llundain i mi sgrifennu adolygiad ar y myg a brynais. Gan fy mod i'n fodlon dros ben efo'r myg, sgrifennais yn hapus. (Ches i ddim gwobr am y gwaith cofiwch.) Yr unig broblem oedd bod yr holl lysenwau gan gynnwys un defnyddir gan fy ngŵr i fy ngalw i yn cael eu defnyddio gan y lleill yn barod fel rhaid meddwl un unigryw. Dyma ddewis y llysenw defnyddir gan fy merch hynaf, sef Mamaly. Cafodd ei dderbyn!
Wednesday, February 3, 2016
caserol brocoli a ffacbys

Tuesday, February 2, 2016
pancake siocled
Dw i'n ceisio perffeithio pancake siocled gan ddefnyddio cynhwysion iach wedi cael syniad gan fideo Elisabetta. Dywedir bod siocled yn gwneud lles i chi - newyddion braf! Dyma fy fersiwn:
Flawd cyflawn
Flawd ffacbys
Siwgr brown
Powdr coco
Powdr pobi
Llefrith cnau coco
Olew olewydd
Darnau o almon
Mêl fel topping
Dylwn i brofi sawl tro cyn cael rysáit perffaith; gwaith caled!
Flawd cyflawn
Flawd ffacbys
Siwgr brown
Powdr coco
Powdr pobi
Llefrith cnau coco
Olew olewydd
Darnau o almon
Mêl fel topping
Dylwn i brofi sawl tro cyn cael rysáit perffaith; gwaith caled!
Monday, February 1, 2016
y murlun

Subscribe to:
Posts (Atom)