Saturday, March 1, 2008

dydd gwyl dewi sant


Mi fydd y diwrnod arbennig wedi mynd yn barod pan ddarllenith y rhai yng Nghymru fy mlog, ond gadewch i mi ddweud, Dydd Gwyl Dewi Sant Hapus i chi i gyd.

Dw i newydd ddwad adre o Wal-Mart. Roedd hi'n braf ac yn wyntog iawn, diwrnod perffaith i ddangos y Ddraig Goch i'r tregolion yma. Oedd bron i mi fethu cael cennin. Dim ond dau glwm â golwg drist arni hi oedd ar ôl yn y siop. Ond roedd rhaid cael cennin heddiw.

Mi nes i fara brith â rysait wahanol y bore ma. Mi na i baratoi cawl cennin, caws ar dost a salad i swper ar ôl postio hyn.

2 comments:

Linda said...

Y Ddraig Goch yn edrych yn wych ar y car emma! Mi welsom gar efo licence plate CYMRO yn Vancouver dros y penwythnos.

Emma Reese said...

Da iawn! Mi edrycha i ymlaen at ddarllen dy flog am y diwrnod mawr.